Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwahodd pobl Cymru ‘i ymuno â’r frwydr dros yr iaith’ yn ei fideo newydd. Mae’r fideo, a gyhoeddir fel neges blwyddyn newydd, yn cyd-fynd â'r weledigaeth a grisialwyd yn ‘Mwy na Miliwn — Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’.
Mae’r fideo, a ddyluniwyd gan Cadi Dafydd Jones, yn dilyn straeon Elinor, Rhydian, Siân a Sarah wrth iddyn nhw oll geisio byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae cost gwersi Cymraeg a diffyg gofodau Cymraeg yn rhwystr i Elinor, sy’n fam sengl, tra bod yr argyfwng tai a diffyg prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn bygwth gorfodi Rhydian, Siân a Sarah i adael eu cymunedau, gan fynd â’r iaith gyda nhw.
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol Jones:
“O’r fam sengl sydd eisiau dysgu Cymraeg, i’r cwpwl ifanc sy’n methu fforddio prynu tŷ a’r disgybl chweched dosbarth sy’n dewis eu llwybr gyrfaol: mae pobl Cymru yn dyheu naill ai am gael dysgu Cymraeg neu fwynhau rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un o’r bobl hyn ac i bawb sy’n byw yng Nghymru, yn ddi-eithriad — rydyn ni eisiau gweld pawb yn gallu byw yn Gymraeg.
"Rydyn ni’n galw felly ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu ein gweledigaeth ‘Mwy na Miliwn — Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’ yn llawn. Mae hyn yn golygu dyfnhau’r agenda bresennol ac ehangu ar yr hyn sydd yn y cytundeb cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phalid Cymru. Mae angen canolbwyntio ar ddefnydd bob dydd o’r iaith yn ein cymunedau, ein gweithleoedd a’n gwasanaethau cyhoeddus, ac estyn y Gymraeg i bawb, nid y rhai ffodus yn unig.
"Gwyddom fod rhwystrau yn wynebu pobl rhag cael mynediad at yr iaith — yn rhwystrau daearyddol, economaidd, neu ddosbarth cymdeithasol — a bod rhain yn effeithio rhai grwpiau fel cymunedau difreintiedig, mudwyr a phobl groenliw yn enwedig. Nid oes strwythurau na pholisïau ar waith i sicrhau bod gan bawb fynediad ystyrlon i ddysgu, mwynhau a defnyddio ein hiaith genedlaethol. Mae hyn yn fater o anghyfiawnder cymdeithasol mae’n rhaid ei daclo — mae angen estyn dinasyddiaeth Gymraeg i bawb.
"Diffyg cynnal, cefnogi a chreu gofodau uniaith Gymraeg yw ochr arall y geiniog hon. Dywedir yn llawer rhy aml nad yw’r Gymraeg yn iaith gynhwysol felly mae nifer o bobl o dan yr argraff bod cynnal gofodau — o gymunedau daearyddol, i weithleoedd i ddigwyddiadau — uniaith Gymraeg yn annerbyniol. Mae sicrhau mynediad gwirioneddol i’r iaith i bawb yn hanfodol i’r gwaith o gynyddu nifer y gofodau lle mai’r Gymraeg yw’r iaith arferol.”
“O sicrhau cartref i bawb yn eu cymuned i gyflwyno gwersi Cymraeg am ddim i bawb, o greu prentisiaethau cyfrwng Cymraeg i gynyddu presenoldeb yr iaith ar y we, ac o greu mil o ofodau Cymraeg i fuddsoddi mewn swyddi Cymraeg da ym mhob rhan o’r wlad — dyma rai o’r pethau rydyn ni’n galw amdanyn nhw fel rhan o ‘Mwy na Miliwn’. Mae gan y Llywodraeth y grym i wireddu’r weledigaeth hanfodol hon, ac mi fyddwn ni’n gweithio dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau eu bod nhw’n gwneud hynny.
“Ar ddechrau blwyddyn newydd hoffwn i wahodd pobl Cymru, waeth beth fo gallu eu Cymraeg, i ymuno â ni yn yr ymgyrch dros yr iaith a gwireddu gweledigaeth ‘Mwy na Miliwn’."