Eich Hawliau i'r Gymraeg

Eich Hawliau i’r Gymraeg

1. Hawl i ohebu a chyfathrebu â chyrff yn Gymraeg
2. Hawl i wasanaeth ffôn Cymraeg
3. Hawl i gyfarfodydd personol yn Gymraeg, gan gynnwys cyfarfodydd sy’n ymwneud â lles personol
4. Hawl i gyfrannu at gyfarfodydd cyhoeddus yn Gymraeg
5. Hawl i weld a chlywed gwybodaeth gyhoeddus yn Gymraeg, gan gynnwys arwyddion, hysbysebion, ffurflenni a systemau annerch cyhoeddus
6. Hawl i wasanaethau ar-lein a rhyngweithiol yn Gymraeg, gan gynnwys ar wefannau, apiau, ar gyfryngau cymdeithasol ac ar beiriannau hunan-wasanaeth
7. Hawl i wasanaethau wyneb yn wyneb yn Gymraeg, gan gynnwys mewn derbynfeydd a lleoliadau gwasanaeth eraill
8. Hawl i gyrsiau addysg yn Gymraeg, megis gwersi nofio
 

Hawliau Gweithwyr i’r Gymraeg

1. Hawl i ddysgu Cymraeg a gloywi iaith yn y gwaith
2. Hawl i wasanaethau adnoddau dynol yn Gymraeg
3. Hawl i weithio ar gyfrifiadur yn Gymraeg
4. Hawl i geisio am swydd yn Gymraeg
5. Hawl i arwyddion a negeseuon Cymraeg yn y gwaith
 

Hawliau Penodol

Gallwch weld eich hawliau wrth ymwneud â chyrff penodol drwy glicio yma.
 

Rheoliadau Safonau'r Gymraeg

Mae'ch hawliau wrth ymwneud â chynghorau sir, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i'w gweld yn Safonau'r Gymraeg ar wefan y Cynulliad yma.
 
Yma ceir ail set y Safonau a gyflwynwyd i'r Senedd ym mis Chwefror 2016, gan gynnwys yr Ardd Fotaneg.
 
Pasiwyd hawliau newydd eraill i'r Gymraeg yn y Cynulliad ym mis Mawrth 2016 ym maes heddlu, cyfiawnder a sectorau eraill sydd i'w gweld yma ac yma.
 
Pasiwyd hawliau newydd ym maes addysg uwch ac addysg bellach ar 31 Ionawr 2017 sydd i'w weld yma.
 
Pasiwyd hawliau ym maes iechyd ym mis Mawrth 2018; gallwch eu darllen yma. Mae'r dyletswyddau ar ddarparwyr gofal iechyd sylfaenol a ddaeth i rym ddiwedd mis Mai 2019 i'w gweld yma.
 
Disgwylir i hawliau eraill gael eu creu dros y misoedd nesaf ym meysydd fel dŵr, trenau a bysiau, ynni a thelathrebu.
 

Sut ydw i'n cwyno am ddiffyg gwanasaeth Cymraeg?

Mae'n syml! Comisiynydd y Gymraeg sy'n gyfrifol am orfodi'r Safonau. Mae modd gwneud cwyn uniongyrchol ac yn syth i Gomisiynydd y Gymraeg unwaith eich bod yn ymwybodol bod corff yn torri Safonau'r Gymraeg eich hawliau iaith. 
 
Gallwch gwyno i'r Comisiynydd drwy:
 
E-bost: post@comisiynyddygymraeg.cymru 
 
Twitter: @comygymraeg
 
Ffôn: 0845 6033 221
 

Hawliau i Wersi Nofio Cymraeg

Defnyddiwch eich hawl newydd i wersi nofio Cymraeg!  

  • Ar ddechrau 2015, pasiodd y Cynulliad hawliau newydd i'r Gymraeg (rheoliadau sy'n cael eu galw Safonau'r Gymraeg). Mae dros 100 o hawliau i'r Gymraeg yn y rheoliadau – o'r hawl i ohebiaeth Gymraeg, peiriannau hunanwasanaeth Cymraeg, dysgu'r Gymraeg yn y gweithle i gyrsiau yn Gymraeg.  

  • Un o'r hawliau newydd hynny i'r Gymraeg ydy'r hawl i gyrsiau addysg yn Gymraeg, sy'n cynnwys gwersi nofio: "Os byddwch yn cynnig cwrs* addysg sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg."** (Safon 84, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015) 

  • Ers 30 Mawrth 2016, mae pob un cyngor wedi gorfod gweithredu'r hawl hon** 

  • Gallwch weld popeth mae'ch cyngor lleol yn gorfod darparu o ran hawliau i'r Gymraeg drwy fynd yma.

*Ystyr 'cwrs' yn y rheoliadau yw: "At ddibenion safonau 84, 85 a 86 (cyrsiau), ystyr cwrs addysg yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd..." 

**Mae amod ar yr hawl yn y rhan fwyaf o siroedd sy'n golygu nad oes rhaid cynnig y cwrs os oes asesiad wedi ei gynnal gan y cyngor sy'n dangos nad oes galw am y cwrs yn Gymraeg. Does dim amod o'r fath ym Mhowys na Gwynedd, felly mae rhaid iddyn nhw gynnig gwersi yn Gymraeg bob tro. 

Sut alla i gysylltu â'm cyngor lleol i drefnu gwersi nofio Cymraeg? 

Ffoniwch eich cyngor ar y rhif ffôn isod: 

Cyngor Cyswllt
Ceredigion

01545 570881

Caerfyrddin

01267 234567 / galw@sirgar.gov.uk

Sir Benfro

01437 764551

Gwynedd

01766 771000

Blaenau Gwent

01495 311556 / info@blaenau-gwent.gov.uk

Pen-y-bont ar Ogwr

01656 643643 / talktous@bridgend.gov.uk

Caerffili

01443 815588

Caerdydd

029 2087 2088 / activesales@caerdydd.gov.uk

Castell Nedd Port Talbot

01639 686868 / info@celticleisure.org

Conwy

01492 574000 / gwybodaeth@conwy.gov.uk

Dinbych

01824 706100

Fflint

01352 752121

Ynys Môn

01248 750057

Merthyr Tudful

01685 725000

Powys

01597 827484 / cwsmer@powys.gov.uk

Sir Fynwy

01633 644544

Casnewydd

01633 656656

Rhondda

01443 525005

Abertawe

01792 636000

Torfaen

01495 762200

Bro Morgannwg

01446 700111

Wrecsam

01978 292000

Beth ddylwn i ei ddweud wrth swyddog y cyngor?  

Dyma'r hyn y gallwch chi ddweud wrth y cyngor 

"S'mae. Dwi eisiau manylion am eich gwersi nofio. Dwi'n deall bod gen i'r hawl i wersi nofio yn Gymraeg ers 30 Mawrth 2016.   

Dwi eisiau'r wers fod yn Gymraeg, rwy'n edrych ymlaen at fynd.   

Diolch am eich amser." 

Beth oedd yr ymateb? Gadewch i ni wybod!

Wedi i chi gysylltu â'ch Cyngor Sir, mae croeso i chi daro nodyn at post@cymdeithas.cymru neu alw 01970 624501 i adael i ni wybod pa ymateb gaethoch chi. Gallech hefyd gysylltu â'n Grŵp Hawl i'r Gymraeg ar twitter.