Rhowch obaith newydd i gymunedau Cymraeg Sir Gâr

Wythnos cyn yr etholiadau lleol, mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi cyhoeddi datganiad yn galw ar ymgeiswyr am seddi ar y Cyngor Sir i roi gobaith newydd i gymunedau gwledig Cymraeg trwy roi sicrwydd am ddyfodol eu hysgolion pentre. Rai misoedd yn ôl penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin beidio â chau ysgolion pentrefi Mynydd-y-Garreg a Blaenau, ond yn hytrach i adolygu'r "Cynllun Moderneiddio Addysg", a oedd wedi bygwth dyfodol degau o ysgolion pentrefi'r sir, yn ei gyfanrwydd.

Ar ran y Gymdeithas yn Sir Gâr, esboniodd Sioned Elin, sydd ei hun wedi bod yn rhiant mewn ysgol bentre: "Mae'r 'Cynllun Moderneiddio Addysg' wedi bwrw cysgod dros ddwy genhedlaeth o ddisgyblion cynradd ers 2005 erbyn hyn. Mae rhieni a chymunedau wedi bod dan ansicrwydd am eu dyfodol oherwydd bod y Cynllun wedi gweld ysgolion pentre mewn modd negyddol iawn. Daeth hyn yn broblem i lywodraethwyr o ran denu disgyblion i'r ysgolion ac o ran denu buddsoddiad, a chollwyd nifer o ysgolion a chymunedau Cymraeg."

"Llongyfarchwn Fwrdd Gweithredol y Cyngor diwethaf am fynnu cadw ysgolion Mynydd-y-Garreg a Blaenau, ond galwn ar ymgeiswyr i ddatgan eu bod o blaid diwygio'r Cynllun Moderneiddio ei hun er mwyn iddo gydnabod gwerth ysgolion i gymunedau pentrefol a photensial addysgol cydweithio rhwng ysgolion.
"Dadl swyddogion y Cyngor Sir bob amser fu nad oedd Llywodraeth ganolog yn barod i fuddsoddi mewn ysgolion bach. Ond mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith fis yn ôl, dywedodd y Gweinidog Addysg 'nad oes rhagdybiaeth yn erbyn buddsoddi mewn ysgolion bach a gall awdurdodau lleol gyflwyno cynigion perthnasol yn eu rhaglen amlinellol strategol ar gyfer buddsoddi. Mynnwn fod ysgolion bach a gwledig yn haeddu eu cyfran teg o fuddsoddiad.

"Byddwn yn anfon yr alwad yma at y gwahanol garfannau gwleidyddol sydd ag ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau lleol gan fod angen y gobaith newydd hwn ar gymunedau gwledig Cymraeg mewn cyfnod anodd. Byddwn hefyd yn galw arnynt i ddatgan eu bod yn dal i fwriadu rhoi pob ysgol yn y sir ar lwybr tuag at addysg gyfrwng-Cymraeg fel na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o'r sgil i allu cyfathrebu a gweithio yn y ddwy iaith."