Annwyl Brif Weinidog
Mae cyfnod diweddar Cwpan y Byd wedi rhoi Cymru a’r Gymraeg ar lwyfan y byd ac wedi atgyfnerthu’r ymdeimlad cenedlaethol bod yr iaith yn perthyn i bawb ohonon ni sydd wedi gwneud Cymru’n gartref. O’r defnydd cynyddol o’r Gymraeg gan ein pêl-droedwyr a’r Gymdeithas Bêl-droed, i lwyddiant rhyfeddol ‘Yma o Hyd’ yn ystod yr ymgyrch, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod rhyw angerdd a hyder o’r newydd yn yr iaith i’w deimlo ar draws y wlad ar hyn o bryd.
Ar yr un pryd, rydyn ni hefyd yn clywed cymaint o bobl yn trafod eu rhwystredigaeth na chawson nhw ddod yn rhugl yn y Gymraeg eu hunain drwy’r gyfundrefn addysg, rhywbeth rydyn ninnau hefyd yn ei glywed dro ar ôl tro wrth siarad â phobl o bob cefndir am ein gwaith fel mudiad.
Rhan fawr o’r ateb yw’r Ddeddf Addysg Gymraeg sy’n rhan o’ch rhaglen lywodraethu. Fel y gwyddoch, gan Gymdeithas yr Iaith y daeth yr alwad am y Ddeddf, ac roeddem yn hynod falch ei bod wedi’i chynnwys ym maniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer yr etholiadau diwethaf. Yr hyn a sbardunodd yr alwad oedd sgyrsiau gyda phobl oedd yn teimlo eu bod wedi colli allan o beidio cael addysg cyfrwng Cymraeg, ac amharodrwydd i dderbyn sefyllfa lle mae llai na chwarter ein pobl ifanc yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n golygu bod y mwyafrif yn gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg.
Rydyn ni felly am weld y Ddeddf yn gosod ymrwymiad cadarn a fydd yn gweddnewid y gyfundrefn addysg, gan fynd â phob ysgol ar daith tuag at addysg cyfrwng Cymraeg. Yn hytrach na bod yn eithriad yn y rhan fwyaf o’r wlad, bydd addysg cyfrwng Cymraeg felly yn y prif ffrwd ac yn norm i bob disgybl.
Mae anghyfiawnder y gyfundrefn bresennol yn gwbl glir, a’n dymuniad fyddai gweld hyn yn newid ar frys fel nad yw ein pobl ifanc yn parhau i golli allan. Ond rydym hefyd yn deall maint y gwaith sydd ynghlwm â newid cyfrwng iaith y gyfundrefn addysg, a’r ffaith bod angen ymdrech dros gyfnod er mwyn cyrraedd y nod. Yn ein Deddf Addysg Gymraeg ni ein hunain, felly, rydyn ni wedi gosod y nod y bydd y gyfundrefn addysg gyfan yn un cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Bydd hyn yn rhoi dros chwarter canrif er mwyn gwneud y newidiadau angenrheidiol, gan osod nod hirdymor i’r gyfundrefn ddechrau gweithio tuag ato ar unwaith. Y canlyniad yn y pen draw fydd rhoi diwedd ar y rhaniad presennol rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion cyfrwng Saesneg, gan greu un gyfundrefn lle bydd pob person ifanc, beth bynnag eu cefndir, yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus.
Er bod cyfnod tîm Cymru yng Nghwpan y Byd wedi dod i ben, bydd y cyfnod hwn wedi cael effaith hirdymor ar y genedl mewn sawl ffordd. Ond beth fydd gwaddol Cwpan y Byd o ran y Gymraeg? Mae gan y Llywodraeth o dan eich arweiniad chi gyfle a chyfrifoldeb i sicrhau drwy’r Ddeddf Addysg Gymraeg mai gwaddol Cwpan y Byd i genedlaethau’r dyfodol fydd rhoi’r Gymraeg ar dafod pob person ifanc drwy osod pob ysgol yn y wlad ar y daith tuag at addysg cyfrwng Cymraeg. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gywiro’r anghyfiawnder cymdeithasol presennol drwy osod nod hirdymor a fydd yn cael effaith bellgyrhaeddol o ran hyder cenedlaethau’r dyfodol i ddefnyddio’r Gymraeg gan sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl wrth i’r iaith ffynnu.
Byddem yn falch o’r cyfle i gwrdd â chi cyn gynted â phosib i drafod y mater hwn yn ogystal â materion eraill yn y rhaglen lywodraethu sydd o ddiddordeb arbennig i’r Gymdeithas.
Yn gywir iawn
Robat Idris
Cadeirydd Cenedlaethol
Cymdeithas yr Iaith