Gwaith i Adfywio Iaith - Dogfen Bolisi Ymgynghorol

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

Gwaith i Adfywio Iaith

Hydref 2018

1. Cyflwyniad

Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2011 ostyngiad nid yn unig yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, o 21% i 19%, ond hefyd yn nifer y wardiau gyda thros 70% yn medru’r iaith. Yn fras, ymddengys fod tua 3,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn yn byw yng Nghymru.

Dengys y ffigyrau nifer o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar gyflwr yr iaith. Amlygir mai allfudo — megis pobl ifanc yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith — yw un o’r prif ffactorau sy’n arwain at argyfwng yr iaith. Amcangyfrifir ein bod yn colli tua 5,200 o siaradwyr Cymraeg y flwyddyn drwy allfudo o Gymru.  
 

Os edrychwn ar Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, mae 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 wedi gadael yr ardaloedd hynny, sy'n cyfateb i dros 55 y cant o'r holl allfudiad ar gyfer pob oedran. Yng Ngheredigion, fe wnaeth 3,670 o bobl ifanc adael y sir mewn un flwyddyn yn unig, sef 2015 i 2016 -  mae hynny’n cyfateb i bron 20 y cant o'r holl boblogaeth o bobl ifanc rhwng 15 a 29 oed yn gadael sir Ceredigion.

Dyna un o’r prif resymau y mae’n rhaid canolbwyntio ar bolisïau fyddai’n creu gwaith mewn cymunedau Cymraeg, ac ymgyrchu dros bolisïau economaidd a fydd yn cryfhau sefyllfa’r iaith.

2. Polisïau Presennol y Llywodraeth

Rhoddwyd sylw i’r cysylltiad rhwng y Gymraeg a’r economi mewn nifer o adroddiadau diweddar. Mae’r adroddiadau hyn wedi edrych ar yr iaith Gymraeg a datblygu economaidd, naill ai’n uniongyrchol neu fel rhan annatod o’u cylch gorchwyl.

Ymysg yr adroddiadau perthnasol diweddar dylid nodi fan hyn:

  • Cynyddu nifer y cymunedau lle defnyddir y Gymraeg fel prif iaith, adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar ran y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Rhagfyr 2013

Mae’r adroddiad yn cynnig y dylid hybu datblygiad Bangor, Aberystwyth a Chaerfyrddin fel dinas-ranbarthau.

  • Yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd, adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar ran Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Ionawr 2014

  • Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, adroddiad y Gweithgor ar yr iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol (Mehefin 2016)        

“... dylai strategaeth ieithyddol economaidd roi’r pwyslais a’r ffocws ar gynyddu’r cyfalaf cymunedol sy’n bodoli, yn hytrach na dibynnu yn ormodol ar ddenu gwaith a swyddi o’r tu allan. Yn hynny o beth, mae’r iaith Gymraeg a dwyieithrwydd trigolion cymunedau yng Nghymru yn rhan gynhenid o’r ‘cyfoeth, creadigrwydd a’r sgiliau’ y maent yn gallu eu cynnig.”

  • Cymraeg 2050: Strategaeth Gymraeg Llywodraeth Cymru

Mae’r strategaeth hon yn disodli Iaith fyw: iaith byw - Strategaeth y Gymraeg 2012-17 a’r datganiad polisi cysylltiedig, Iaith fyw: iaith byw - Bwrw mlaen. Mae Strategaeth Cymraeg 2050 yn nodi dull hirdymor Llywodraeth Cymru o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae ardaloedd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn parhau i fod wrth galon ein gweledigaeth. Dyma’r lleoedd yng Nghymru sy’n creu’r hinsawdd fwyaf ffafriol ar gyfer meithrin siaradwyr Cymraeg: po fwyaf yw nifer y siaradwyr sy’n byw mewn ardal ddaearyddol, po fwyaf yw’r tebygolrwydd fod ganddynt gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith wrth gyfathrebu o ddydd i ddydd. Dyma hefyd y mannau sydd â’r nifer fwyaf o siaradwyr sy’n rhugl eu Cymraeg. Yr hyn sy’n tueddu i nodweddu’r ardaloedd hyn yw eu bod yn wledig eu natur, a bod eu heconomïau yn dibynnu i raddau helaeth ar y sector cyhoeddus, amaethyddiaeth a thwristiaeth, gyda threfi sy’n ganolfannau i ddarparu gwasanaethau a swyddi i ardaloedd eang. Nid oes ateb hawdd i’r heriau sy’n wynebu cymunedau fel y rhain. Er hynny, rydym yn bendant ynghylch yr angen i’r gwaith mewn perthynas â chynllunio ieithyddol a datblygu economaidd fynd law yn llaw â’i gilydd, er mwyn creu cymunedau Cymraeg sy’n hyfyw yn economaidd ac yn ieithyddol.”

“I gynyddu nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg, datblygu eu hyder i wneud hynny, a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg mewn amryw o leoliadau, mae angen adnoddau digidol, cyfryngau iach ac amrywiol… “

“…mae’n ddyletswydd ar y Llywodraeth i hybu twf economaidd a lledaenu ffyniant ar draws Cymru. Ni allwn ddisgwyl i gymunedau Cymraeg aros yn statig tra bo natur cymdeithas yn newid. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llawn pwysigrwydd datblygu economi ffyniannus, gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig…”

“Ein nod: cefnogi seilwaith economaidd-gymdeithasol cymunedau Cymraeg.”

  • Symud Cymru Ymlaen 2016-2021, rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf (Medi 2016)

“...rydym yn bendant ynghylch yr angen i’r gwaith mewn perthynas â chynllunio ieithyddol a datblygu economaidd fynd law yn llaw â’i gilydd, er mwyn creu cymunedau Cymraeg sy’n hyfyw yn economaidd ac yn ieithyddol.”

  • Ffyniant i Bawb: Y cynllun gweithredu ar yr economi (Llywodraeth Cymru 2017)

“Mae dyfodol ein cymunedau Cymraeg eu hiaith a’n heconomi ranbarthol yn mynd law yn llaw. Bydd economïau lleol ffyniannus yn ein helpu i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd swyddi o ansawdd da a rhanbarthau sy’n fannau deniadol i weithio, i fyw ac i fuddsoddi ynddynt, yn rhoi rheswm i bobl aros neu ddychwelyd i weithio ac i fyw mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Os yw’r Gymraeg yn ffynnu, mae hynny’n helpu busnesau i dyfu ac yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i ddatblygu’r economi yn y rhanbarthau.”

Felly, er bod sawl adroddiad yn nodi pwysigrwydd y cysylltiad rhwng yr economi a’r Gymraeg, yn enwedig yng nghyd-destun cymunedau sy’n draddodiadol â dwysedd uchel o siaradwyr, nid oes tystiolaeth bod y Llywodraeth wedi gweithredu ar yr argymhellion mewn unrhyw ffordd fyddai’n gwneud gwahaniaeth.

2. Egwyddorion y Gymdeithas

Cred y Gymdeithas mai’r un grymoedd strwythurol sydd yn tanseilio cymunedau Cymraeg ag sydd yn bygwth pobloedd a’u diwylliannau ledled y byd. Gwelwn felly ein brwydr fel amlygiad Cymreig o frwydr fyd-eang dros drefn economaidd sydd yn gwasanaethu pobl yn hytrach nag yn eu rheoli. Trefn sydd hefyd yn parchu eu hunaniaeth, eu diwylliant a’u hamgylchedd.

Mae cyflwr yr iaith a’r economi yn gysylltiedig. Mewn ardal Gymraeg gydag economi cryf, bydd llai o bobl yn allfudo er mwyn cael gwaith, felly bydd niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn parhau i fyw yno. Ble mae niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae’r iaith mewn sefyllfa gref — ble mae medru’r Gymraeg yn ddefnyddiol wrth chwilio am swyddi, cynnig gwasanaethau, ac yn y blaen — cymhellir pobl ddi-Gymraeg sy’n symud i’r ardal i gymathu. Dyma sefyllfa lle mae’r gymuned yn hyfyw ac mae’r iaith a’r economi yn cynnal ei gilydd. Gellir meddwl am y sefyllfa hon fel ‘cynaladwyedd economaidd ieithyddol’.

Wrth ystyried cynaladwyedd economaidd ieithyddol, mae angen ei weld ochr yn ochr ag egwyddorion cynaladwyedd amgylcheddol. Mae datblygu cynaliadwy’n golygu dysgu sut i fyw o fewn terfynau adnoddau cyfyngedig y Ddaear ar yr un pryd â chadw adeiledd ein cymdeithas a’i wella. Credwn fod y drefn masnach rydd bresennol yn milwrio yn erbyn y Gymraeg. Mae ein gweledigaeth o ddatblygu economi cynaliadwy lleol yn gam hanfodol tuag at roi i gymunedau Cymraeg eu hiaith gyfle i oroesi. Mae economi cryf, lleol yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg.

Credwn y dylai’r economi weithio’n un i gyd. Byddai ein polisïau economaidd yn hyrwyddo cymdeithas deg, gyfiawn, a mwy cyfartal ar yr un pryd â chydnabod ein bod yn byw ar blaned ac iddi derfynau. Er mwyn cynnal ein cymunedau a’u diwylliant, rhaid wrth ddatblygu economaidd cynaliadwy. Dylid osgoi dadreolaeth a datblygiadau sydyn a fyddai yn y pendraw yn chwalu cymunedau. Rydym yn ymwrthod â’r duedd gynyddol i ganoli grym economaidd, o fynd ag adnoddau oddi ar gymunedau, o fynd â gwasanaethau ymhellach oddi wrth bobl. Rydym yn ymwrthod â’r duedd i ganoli adnoddau yn un rhan o Gymru. Mae angen datblygu’r genedl gyfan, nid Caerdydd a dinas-ranbarthau yn unig.

Mae angen edrych ar ddatblygu economaidd o safbwynt cynnal a chryfhau cymunedau lleol yn naturiol drwy ychwanegu gwerth i’n hadnoddau cynhenid. Yn rhy aml dehonglir datblygu economaidd fel hybu twf ar unrhyw gyfri, a dehonglir datblygu ieithyddol mewn termau diwylliannol. Mae angen edrych ar ein cymunedau Cymraeg yn holistaidd gan gydblethu’r elfennau ynghyd yn un. Wrth wneud hyn mi fyddwn yn cyflwyno pecyn o gamau ymarferol medrir eu cymryd i gryfhau’r economi a’r Gymraeg.

3. Polisïau’r Gymdeithas

Ers degawdau, mae’r Gymdeithas wedi pwysleisio pwysigrwydd maes yr economi fel rhan o becyn o bolisiau sydd angen eu mabwysiadu er mwyn cryfhau cyflwr y Gymraeg.

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau sy’n gysylltiedig â’r maes yma megis y Maniffesto Byw (2012), Deddf Eiddo a Chynllunio (2014), Miliwn o Siaradwyr (2015) a Polisi Iaith a Gwaith (2016).

Mae’r dogfennau hyn oll yn adlewyrchu egwyddorion economaidd sylfaenol y Gymdeithas, sef bod:

  • y Gymraeg yn berthnasol i bob rhan o Gymru a bod potensial gan bob cymuned i adfer neu ddiogelu'r Gymraeg fel ei bod yn dod neu'n parhau i fod yn brif iaith y gymuned, ac felly bod datblygu’r economi Cymraeg yn hollbwysig i bob ardal;

  • ffyniant y Gymraeg yn mynd llaw yn llaw ag egwyddorion cynaliadwyedd ehangach;

  • Cymru yn gymuned o gymunedau a dylai grym fod yn nwylo pobl yn eu cymunedau lleol;

  • rhaid i unrhyw strwythurau economaidd fod yn wirioneddol ddemocrataidd;

  • o’r gwaelod i fyny y daw ffyniant economaidd gwirioneddol gynaliadwy; a’r

  • angen rhannu a chydbwyso datblygu economaidd ar hyd a lled y wlad

 

Yn ogystal, rydym wedi adolygu ein polisiau yn dilyn trafodaethau mewnol diweddar. Daeth nifer o gasgliadau allan o’r trafodaethau hynny sef:

  • yr angen i gael system ariannol lleol er mwyn buddsoddi yn ein heconomïau lleol cynhenid;

  • pwysigrwydd y drefn eiddo a chynllunio er mwyn galluogi pobl i aros yn eu cymunedau lleol;

  • y dybryd angen i gynllunio’r gweithlu er mwyn datblygu iaith a gwaith;

  • y potensial i ddefnyddio’r system trethu er mwyn sbarduno datblygu economaidd cynaliadwy;

  • yr angen i wirioneddol ddatganoli y sector gyhoeddus ar raddfa eang;

  • yr angen i’r sector gyhoeddus bwrcasu mor lleol â phosibl

  • yr angen i sicrhau mynediad i’r wê mor dda neu well yn ein pentrefi â sydd yn ein trefi er mwyn annog pobol i aros yno;

  • yr angen i greu systemau trafnidiaeth newydd ac arloesol ar hyd a lled Cymru; a

  • pwysigrwydd y diwydiant amaeth i’n heconomi a’r angen i barchu’r diwydiant hwnnw

4. Cynigion Polisi Penodol - 12 cam i ddatblygu iaith a gwaith

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd rydym wedi eu cyfeirio atyn nhw uchod, argymhellwn becyn o bolisïau economaidd, sef 12 cam tuag at ddatblygu iaith a gwaith ym mhob rhan o Gymru:

I. Cynghorau i sefydlu banciau lleol er mwyn buddsoddi yn yr economi a seilwaith lleol

Yn yr Almaen, mae tua 70% o fancio yn cael ei wneud gan tua 1,700 o fanciau lleol cydweithredol a’r banciau cynilo Sparkassen, sy’n gweithredu er budd y cyhoedd, sydd o fantais sylweddol i’r "Mittelstand" – sef busnesau bach a chanolig. Mae Sparkassen yn dal tua thraean o asedau banciau’r wlad gyda thua pedwar-deg y cant o holl arian cwsmeriaid.

Credwn y byddai sefydlu banciau lleol yng Nghymru yn rhoi hwb i’r economi leol drwy sicrhau bod mwy o arian yn cael ei fuddsoddi’n lleol. Yn ogystal, byddai’n gwella mynediad at gyllid i fusnesau a phrosiectau lleol.

Credwn fod cyfle gan gynghorau i arwain ar y gwaith hwn drwy ddefnyddio eu cronfeydd pensiwn, sy’n werth tua £15 biliwn, i gynorthwyo sefydlu banciau lleol, a fyddai’n llawer mwy gwydn a buddiol i’n heconomïau lleol.

Dylai’r banciau lleol yma gael dyletswydd benodol i hybu gofodau a phrosiectau Cymraeg. Rydym wedi dadlau ers nifer o flynyddoedd y dylid sefydlu Cronfa Ariannu Cynnal Gwasanaethau ac Adnoddau Cymunedol sy’n cynnig symiau cymharol fach o arian cyfalaf i grwpiau cymunedol megis y Saith Seren. Gallai’r cynnig hwn fod yn rhan o strwythur banciau lleol.

II. Rhoi mwy o rym i gymunedau dros ddatblygu economaidd, er enghraifft:

  • trwy roi’r hawl i gynghorau godi treth ar dwristiaeth er mwyn buddsoddi mewn is-adeiledd

  • trwy ddatganoli’r hawl i amrywio trethi busnes ar lefel meicro, er mwyn i Gynghorau allu annog twf busnesau mewn pentrefi ac nid yn y prif drefi yn unig

Mae Sefydliad Bevan wedi dadlau dros dreth neu ardoll twristiaeth o £1 y pen y noson, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddatblygu’r syniad ymhellach wedi ymgynghoriad yn 2017. Dywedodd y Llywodraeth wrth esbonio’r rhesymau dros ddatblygu’r syniad:

“Mae Cymru'n lle poblogaidd i ymwelwyr. Mae'r syniad hwn am dreth yn edrych i weld sut y gallai cyfraniad bach gan ymwelwyr helpu i gynnal gwasanaethau sy’n bwysig i ymwelwyr a’r gymuned leol. Gellid defnyddio’r dreth i dalu am bethau sy'n gwneud ardaloedd yn ddeniadol, megis cadw traethau'n lân, glanhau strydoedd a chynnal toiledau cyhoeddus o ansawdd uchel.”

Ymddengys bod trethi ar dwristiaeth eisoes yn weithredol yn y rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd, gan gynnwys yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Catalwnia, Croatia, yr Eidal, Ffrainc, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gweriniaeth Tsiec, yr Iseldiroedd, Lithwania, Portiwgal, Rwmania, Rwsia, Sbaen, Slofenia, Slofacia, Y Swistir, a’r Wcráin.

Mewn dinas fel Barcelona, codir symiau sylweddol drwy’r dreth, tua €41 miliwn yn 2014.  

Mae trethi twristiaeth wedi cael eu cyflwyno mewn ardaloedd llai poblog, er enghraifft yn Lithwania mae treth o €1 y noson y pen wedi ei chyflwyno mewn dwy ardal dwristaidd yn benodol er mwyn ariannu prosiectau isadeiledd a hybu twristiaeth.

Credwn felly y dylai awdurdodau lleol fod â’r hawl i godi treth neu ardoll ar dwristiaeth er mwyn ariannu prosiectau o fudd i’r gymuned. Gellid rhoi hyblygrwydd eang i awdurdodau lleol o ran sut i osod y dreth, megis dewis maint y ffi ac am faint o nosweithiau y dylid ei thalu.

III. Buddsoddi mewn isadeiledd - ail-sefydlu llinell rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth

Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn broblem mewn nifer o ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn draddodiadol yn gryf. Mae adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar yr achos dros fuddsoddi mewn rheilffyrdd yn nodi ac yn mesur tanfuddsoddi hirdymor a systematig mewn seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru o’i gymharu â’r DU gyfan. Mae’r ‘Wales Route’, sy’n cwmpasu 11% o’r rhwydwaith, wedi derbyn ychydig dros 1% o’r gyllideb welliant (£198m o gyfanswm o £12.2bn yn Lloegr a Chymru). Mae gwelliannau’n gwella gallu, capasiti a dibynadwyaeth y rhwydwaith rheilffyrdd, ac felly mae’r buddsoddiad cyfyngedig yng Nghymru’n cyfrannu at lai o wasanaethau a gwasanaethau llai deniadol, gan arwain at gyfran is ar gyfer rheilffyrdd, ond cymorthdaliadau uwch fesul teithiwr.

Yn dilyn ymgyrch gref ar lawr gwlad, mae’r Llywodraeth felly wrthi’n ymchwilio i ymarferoldeb ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Cafodd y llinell rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ei chau i deithwyr ym 1965 ac i nwyddau ym 1973. Yn 2015, daeth astudiaeth ddichonoldeb y Llywodraeth i’r casgliad y byddai cost ail-agor y llinell rhwng £500 i £750 miliwn.

Byddai modd fforddio’r buddsoddiad strategol bwysig hwn drwy nifer o ffynonellau ariannol:

  • Pwerau Benthyg Llywodraeth Cymru - yn lle buddsoddi mewn ehangu’r M4 ger Casnewydd am gost rhwng £1.4 a £2.3 biliwn, prosect sydd wedi ei feirniadu’n hallt gan nifer o fudiadau, gallai’r Llywodraeth ddefnyddio cyfran o’u pwerau i fengthyg hyd at £1.15 biliwn i fuddsoddi yn y prosiect hwn;

  • Cyfran deg o gost cynllun HS2 yn Lloegr, sydd i fod i gostio £55.7 biliwn, a gall godi i gymaint â £80 biliwn. Byddai cyfran deg o’r arian yma i Gymru yn golygu rhwng £3 a £4.5 biliwn – mwy na digon i gyllido’r prosiect yma a sawl un arall.

  • Os yw’r prosiect rhanbarthol Arfor yn mynd yn ei flaen ar raddfa bargeinion rhanbarthol eraill, byddai modd i’r arian yna gyfrannu at y costau;

  • Byddai modd i’r dreth ar dwristiaeth gyfrannu at y costau yn ogystal drwy law awdurdodau lleol

IV. Datganoli cannoedd o swyddi allan o Gaerdydd

Mae diffyg cyfleoedd gwaith yn cael effaith ar y Gymraeg a chynaliadwyedd cymunedau lle mae dwysedd uchel o siaradwyr yr iaith. Mae datganoli swyddi allan o Gaerdydd yn bwysig o ran sicrhau bod gennym economi ac iaith gynaliadwy a ffyniannus ledled y wlad. Nid oes amheuaeth nad yw’r cydbwysedd yn iawn ar hyn o bryd.

Credwn felly y dylid datganoli cannoedd o swyddi allan o’r Brifddinas, gan ddechrau drwy sefydlu ac adleoli’r cyrff canlynol:

  • Sefydlu Adran Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru (wedi ei uwchraddio o Uned y Gymraeg)

  • Awdurdod Darlledu Cymru

  • Arolygiaeth Cynllunio

  • Corff Datblygu Economaidd

  • Cwmni Ynni Cenedlaethol

  • Menter Iaith a Gwaith Didigol

Yn ogystal, credwn y dylid datganoli rhagor o swyddi yn yr adrannau amaeth, addysg ac economi.  

Fel rhan o’r cynllun ehangach hwn, credwn y dylid sefydlu adran newydd o fewn Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am y Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae Is-Adran y Gymraeg gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd nad oes ganddi statws adran lawn. Credwn fod statws israddol y Gymraeg o fewn y gwasanaeth sifil yn golygu nad yw’r iaith yn cael digon o ystyriaeth polisi. yn ogystal, ac wrth siarad gyda nifer o grwpiau eraill, mae’n glir nad oes digon o ddylanwad gan Is-Adran y Gymraeg bresennol y Llywodraeth. Mae beirniadaeth hefyd bod yr uned yn rhy Gaerdydd-ganolog ei meddylfryd, sy’n gallu, ac wedi, bod yn broblem o ran llunio’r polisïau gorau i'r iaith. Felly mae dadl gref dros y newid penodol hwn.  

V. Sefydlu llwybr tarw yn y system gynllunio ar gyfer datblygiadau sy’n eithriadol lesol i’r Gymraeg

Yn 2013, daeth ymgynghoriad Lywodraeth Cymru ar sefyllfa’r iaith - Y Gynhadledd Fawr - ddod i’r casgliad bod: “... consensws mai symudoledd poblogaeth yw’r her gyfredol fwyaf i hyfywedd y Gymraeg a gwelwyd bod yr atebion i’r her honno ynghlwm â: … polisïau tai a chynllunio...”

Yn ein Deddf Eiddo a Chynllunio amgen y cyhoeddom yn 2014, amlinellom sut y dylid cynnig manteision cynllunio i geisiadau datblygu “ceisiadau o fudd sylweddol i’r gymuned ac i’r Gymraeg” sef ceisiadau am ganiatâd cynllunio, lle bydd y datblygiad arfaethedig o fudd sylweddol i’r gymuned ac i’r Gymraeg. Byddai meini prawf ceisiadau yn cael eu cyhoeddi a rheoli gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Yn ddiamheuol, dylai fod manteision a chymhellion i ddatblygiadau megis ysgolion penodedig Cymraeg, a busnesau sy’n gweithredu drwy’r Gymraeg. Credwn fod lle i ddatblygu’r syniadau hyn yn bellach yn enwedig yng nghyd-destun rhai o syniadau diweddar Gwion Lewis am yr achos dros drefi Cymraeg newydd. Byddai creu llwybr tarw neu gymhellion eraill o fewn system gynllunio gwbl ddemocrataidd, lle gwneir penderfyniadau’n lleol, yn caniatáu i bobl leol benderfynu a fyddent am ddatblygu trefi uniaith Gymraeg newydd.

VI. Dylid dileu ffioedd dysgu i’r rhai sy’n aros i astudio yng Nghymru

Er mwyn atal allfudiad ein pobl ifanc fwyaf dawnus i brifysgolion Lloegr, dylid dileu’r polisi presennol nad yw’n rhoi cymhellion i bobl ifanc o Gymru i aros yn y wlad i astudio. Buodd polisi yng Nghymru oedd yn talu ffioedd pobl ifanc, byddai dychwelyd at y polisi hwnnw yn cynnyddu’r niferoedd sy’n astudio drwy’r Gymraeg ynghyd ag atal allfudo. Gofynnwn i is-ganghellorion pob prifysgol am eu cefnogaeth i’r polisi yma.

VII. Sefydlu Cwmni Ynni Cenedlaethol, ynghyd â thariff cymhorthdal cyflenwi trydan (feed-in) ar gyfer ynni cynaliadwy

Byddai sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru yn fodd o leihau prisiau ynni a mynd i’r afael â newid hinsawdd ynghyd â chreu swyddi Cymraeg yng Ngorllewin y wlad. Byddai’r cwmni Ynni Cymru – sefydliad nid-am-elw tebyg i Ddŵr Cymru – yn gyfrifol am fynd i’r afael â thlodi tanwydd trwy fuddsoddi mewn seilwaith, cynhyrchu ynni gwyrdd ac ymchwil a datblygu.

Gwnaeth Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Senedd argymhelliad fel rhan o’u hymchwiliad i “Dyfodol Ynni Craffach i Gymru”. Yn dilyn hynny, ymrwymodd Llywodraeth Cymru ymrwymo i ystyried y gwahanol ddibenion y gallai corff o'r fath eu gwasanaethu, a'r canlyniadau posibl. Maent wedi cyhoeddi’r adroddiad annibynnol ar y mater.

Byddai’r cwmni gyda ei phencadlys tu allan i Gaerdydd, a gellid ystyried ei leoli yn y Gogledd-Orllewin er mwyn cydnabod potensial yr ardal honno i gynhyrchu ynni gwyrdd a chynaliadwy.

Mae cynnig cymhorthdal cyflenwi trydan ynni cynaliadwy (Feed-in Tariff) yn bolisi a ddilynir o amgylch y byd. Ers nifer o flynyddoedd, mae Llywodraeth Prydain wedi bod yn torri’r cymorthdal a oedd ar gael i gymell pobl i ddechrau cynhyrchu ynni cynaliadwy, sef ynni dŵr, gwynt a haul. Mae’r polisi presennol ar y cymorthdal yn dod i ben yn Ebrill 2019. Credwn y dylid cynnig cymhelliant ychwanegol yng Nghymru i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn hyn o beth.

Yn ogystal â hyn, dylid lleihau trethi busnes i fentrau ynni cynaliadwy a iaith gynaliadwy drwy sefydlu prawf cynaliadwyedd arbennig ar gyfer trethi is, fydd yn cefnogi mentrau sy’n gweithredu’n fewnol yn uniaith Gymraeg

VIII.  Pob bargen ddinesig i glustnodi cyfran o’i gyllideb i brosiectau penodol a fydd yn normaleiddio ac yn cael eu cynnal yn uniaith Gymraeg

Er mwyn creu cysylltiad creu gwaith cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o Gymru, mae angen sicrhau bod y Gymraeg yn rhan greiddiol o bob cynllun economaidd. Hyd y gwyddom, prin iawn yw’r enghreifftiau o ddinas-ranbarthau yn buddsoddi mewn prosiectau penodol a fyddai’n creu gofodau uniaith Gymraeg. Gwrthwynebwn ddatblygu unedau economaidd rhanbarthol o’r fath yn gyffredinol, ond gan eu bod yn bodoli, dylid disgwyl i bob dinas-rhanbarth prif-ffrydio prosiectau Cymraeg.

IX. Os yw prosiect Arfor yn mynd yn ei flaen, dylai fod â chyllideb teilwng

Os yw prosiect Arfor yn mynd yn ei flaen, a hynny fel rhan o weledigaeth Cymru-gyfan,

ni fydd y ddwy filiwn o bunnau fel cyllideb bresennol yn ddigonol i gyflawni’r nod. Dylai fod buddsoddiad yn Arfor sy’n gydnaws â faint mae’r Llywodraeth yn bwriadu buddsoddi mewn bargenion dinesig eraill. Honnir bod bargenion dinesig yn ardal Bae Abertawe a Phrifddinas-Ranbarth Chaerdydd gwerth £1.3 ac £1.2 biliwn fel ei gilydd. I fod cywerth â hyn, byddai angen cannoedd o filiynau o bunnau ar brosiect Arfor.

X. Dylid sefydlu rhwydwaith o ganolfannau oddi fewn cymunedau, ‘Dysgfan’

Fel y nodir yn ein strategaeth economaidd a gyhoeddwyd yn 2016, credwn y dylid sefydlu rhwydwaith fyddai’n:

  • creu peuoedd newydd i alluogi dysgu Cymraeg dwys

  • meithrin sgiliau iaith Gymraeg er budd yr economi a’r gymuned

  • rhoi egni newydd i weithgarwch Cymraeg ardaloedd

  • rhannu gwybodaeth a deunyddiau yn hwylus i’r cyhoedd

Enw’r rhwydwaith hwn fyddai’r ‘Ddysgfan’.

XI. Sefydlu Menter Iaith a Gwaith Digidol a Sicrhau Mynediad i Bawb i’r Wê

Mae diffyg presenoldeb y Gymraeg ar-lein yn amlwg mewn nifer o feysydd megis ar YouTube a Wicipedia, er gwaethaf ymdrechion lew gwirfoddolwyr. Byddai menter benodol yn gallu adeiladu ar waith nifer o fentrau ac asiantaethau eraill. Byddai y Fenter yn creu swyddi cyfrwng Cymraeg yn y byd digidol, ac yn hybu a hyrwyddo gweithgareddau Cymraeg ar-lein.

I wireddu hyn ac hefyd i sicrhau bod modd sefydlu cwmnïau mewn cymunedau mi ddylid sicrhau bod gan ein cymunedau gwledig fynediad gystal neu well i’r we na’r trefi. Dylid gwneud gwaith yn y llefydd mwyaf anial gyntaf gan weithio mewn i’r trefi, nid vice versa.

XII. Sefydlu Colegau Hyfforddi newydd ym Mangor ac Aberystwyth

Byddai’r sefydlu colegau hyfforddi newydd mewn meysydd penodol yn dod â nifer o fuddion gan gryfhau effaith economaidd prifysgolon, atal allfudo ynghyd â chynllunio’r gweithlu yn well o safbwynt y Gymraeg.

Credwn felly y dylid sefydlu:

  • Ysgol Feddygol lawn ym Mangor

  • Ysgol Nyrsio yn Aberystwyth; ac

  • Ysgol Filfeddygol yn Aberystwyth

Mae ymgrych gref ar y gweill i sefydlu Ysgol Feddygol lawn ym Mhrifysgol Bangor. Diolch i ymdrechion ymgyrchwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod modd i raddedigion astudio cwrs meddygol ym Mangor. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gyfystyr ag ysgol feddygol lawn sy’n derbyn is-raddedigion.  

Er y bydd effaith gadarnhaol yn deillio o Safonau’r Gymraeg ym maes iechyd ynghylch recriwtio, nid ydynt yn mynd i'r afael â'r systemau hyfforddi. Felly, yn ogystal â sefydlu’r Ysgol Feddygol newydd, credwn y dylid gosod cwotâu ar ysgolion meddygol a cholegau hyfforddi eraill o ran hyfforddi meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd eraill sy'n medru'r Gymraeg.

Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith

Hydref 2018

cymdeithas.cymru

Cymdeithas yr Iaith, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

+44 (0)1970 624501 post@cymdeithas.cymru