Ydych chi erioed wedi teimlo bod gwasanaethau yn Gymraeg yn dameidiog ac anghyson? Neu wedi teimlo y byddwch achosi trafferth wrth ofyn am wasanaeth yn Gymraeg?
Os felly, dylech chi ymuno â’r grŵp hwn, sydd yn ymwneud â hawliau o ran defnyddio'r Gymraeg, statws y Gymraeg a defnydd cyrff o'r iaith.
Ydych chi'n cael trafferth byw eich bywyd yn y Gymraeg o ddydd i ddydd? Oes gennych chi gŵyn am ddiffyg gwasanaeth yn y Gymraeg?
Os felly cyfranwch at ein Llyfr Du.
Os hoffech chi gymryd rhan yn ngwaith y grwp neu rannu profiadau tebyg cysylltwch gyda ni ar post@cymdeithas.cymru
Cadeirydd y Grŵp: Leena Farhat
Is-gadeirydd y Grŵp: Marged Lois
Oes gennych chi gwyn am ddiffyg gwasanaeth yn y Gymraeg?