Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011 wedi synnu llawer. Methodd Llywodraeth Cymru â chyrraedd y targed a osodwyd ganddynt i godi nifer y siaradwyr Cymraeg i 25%, gyda’r canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 20.8% i 19%. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae nifer y siaradwyr iaith Fasgeg wedi codi o 24% i 32% o’r boblogaeth dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae hyn yn fethiant polisi y gellir ond ei gywiro drwy newid radical ac un sy’n rhoi datblygu economaidd cymunedol yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd a chynllunio ieithyddol rhagweithiol mewn perthynas â thai ac addysg yn ganolog i ddatblygiad a gweithrediad strategaethau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill.
Fel man cychwyn rhaid i’r llywodraeth gydnabod yr argyfwng. Mae hunan-fodlonrwydd ei hymateb cychwynnol yn syfrdanol. Mae’r camau beiddgar sydd eu hangen i ddiogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn gofyn am gydnabyddiaeth gonest o’r argyfwng sy’n wynebu’r iaith Gymraeg ac yn gofyn am newid meddylfryd wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd lansio ein ‘Maniffesto Byw’ ac i gychwyn ar drafodaeth gyhoeddus ar draws Cymru ar yr argymhellion ymarferol ond heriol sydd yn y ddogfen. Rydym yn galw am ymateb ar unwiaith o Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, pleidiau gwleidyddol, Undebau Llafur a nifer o chyrff eraill.
Dros y 500 mlynedd diwethaf diflannodd dros 50 o ieithoedd ar draws y Byd ac, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae llawer iawn mwy o ieithoedd eraill mewn perygl – gan gynnyws y Gymraeg. Mae’r tystiolaeth o waith ymchil a wnaed i’r achosion am hyn yn pwysleisio’r angen i gynnal sylfaen cymunedol ddaearyddol er mwyn i iaith oroesi a ffynnu fel iaith fyw. Yng Nghymru mae’r sylfaen yma wedi cael ei danseilio’n ddifrifol gan fethiant truenus i ymgorffori effaith datblygiadau ar yr iaith Gymraeg o fewn deddfwriaeth gynllunio. Er y cydnabydiaeth o’r angen yma yng Nghylchlythyr 5/88 a gyhoeddwyd yn 1988 ni fu gweithredu ar yr egwyddor. Cynhaliwyd asesiad o effaith datblygiadau ar yr iaith Gymraeg mewn dim ond 0.03% o geisiadau cynllunio dros y 2 mlynedd diwethaf. Rydym yn dal i aros am gyhoeddiad y Nodyn Cyngor Technegol newydd mewn perthynas â chynllunio a’r iaith Gymraeg, deunaw mis ar ôl i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ddod i ben. A yw’n unrhyw syndod ein bod yn gweld lleihad sylweddol yn y nifer o gymunedau Cymraeg eu hiaith gyda dros 70% o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg?
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn ymateb i’r Arolygaeth Gynllunio mae cynghorau ar draws Cymru wedi clustnodi tiroedd ar gyfer datblygu sydd ymhell y tu hwnt i anghenion y gymuned leol. Er enghraifft, yn sgil gwaith ymchwil, a wnaed gan llywodraeth Cymru ac eraill yn Awdurdod Lleol Conwy, gwelwyd mai dim ond 8% o breswylwyr newydd i’r Sir oedd yn medru’r Gymraeg, sef 22% yn llai na’r cyfartaledd o siaradwyr Cymreg yn y Sir. Mae penderfyniad Awdurdod Lleol Dinbych i glustnodi tir ar gyfer datblygiad 8,500 o dai newydd, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf cymunedau fel Dinbych, Rhuddlan a Bodelwyddan yn enghraifft o fethiant y gyfundrefn gynllunio yng Nghymru. Yn ein ‘Maniffesto Byw,’ galwn am ddatganoli’r Arolygiaeth Gynllunio i Gymru ac am sefydlu’r egwyddor o ‘Ddatblygu Cynaliadwy’ fel sylfaen i bolisïau tai a chynllunio yng Nghymru.
Yn yr un modd, os yw’r Gymraeg i ffynnu rhaid sicrhau gwaith i bobl a rhaid anelu at gael sylfaen economaidd cadarn tra, ar yr un pryd, hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle fel bod siaradwyr Cymraeg yn gweld gwerth economaidd y Gymraeg. Gall Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gymryd camau hollol ymarferol i’r perwyl yma trwy ddiogelu swyddi yn y sector gyhoeddus a chynllunio i ddatganoli adrannau gyfan o Gaerdydd. Yn yr un modd, dylai polisi caffaeliad pob corff a ariennir gan y sector gyhoeddus yng Nghymru rhoi blaenoriaeth i gwmnïau o’r ardal leol, nid yn unig er mwyn hyrwddo’r economi leol, ond, am resymau amgylcheddol hefyd. Mae angen hefyd sicrhau bod mwy o gyfleodd ar gael i gwmniau bychain a chanolig eu maint tendro ar gyfer y gwaith yma.
Sefydlwyd 23 o fentrau iaith ar draws Cymru gyda chyfanswm cyllideb o tua £1.5 M. Mae’r corff ‘Cadwch Cymru’n Daclus’ yn derbyn 2.6M, ac roedd cyllideb Cymunedau’n Gyntaf gymaint â £40M. Amrwyiol yw llwyddiant y mentrau, ond yn sicr mae rhai ohonynt wedi cyflawni. Oherwydd pwysigrwydd adfywiad economiadd, mae angen ail-edrych ar gylch gorchwyl y Mentrau yma. Yn ein tyb ni, beth sydd eu hangen yw ‘Mentrau Iaith a Gwaith’ gyda chyfrifoldeb penodol a chyllideb teilwng i hyrwyddo mentergarwch trwy gyfrwng Gymraeg a defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Er mwyn codi disgwyliadau, cynyddu’r cydweithio a chynyddu effeithiolrwydd awgrymwn goruchwyliaeth gan Gyfarwyddiaeth Genedlaethol.
Un o lwyddiannau mawr yr hanner canrif diwethaf yw twf addysg cyfrwng Cymraeg. Dyma’r prif rheswm pam y bu cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn Ne-ddwyrain Cymru. Fodd bynnag, mae’r llwyddiant yma wedi cuddio’r methiant ym maes dysgu Cymraeg fel ail iaith. Ar yr un pryd, mewn nifer o ardaloedd mae cyfran sylweddol o ddisgyblion yn trosgwlddo o gyfrwng Cymraeg iaith gyntaf i Gymraeg ail-iaith ar fynediad i addysg Uwchradd ac mae hyn yn fwy amlwg fyth mewn addysg ôl-16. Rhaid mynd i’r afael â hyn ar fyrder, gan selio dysgu Cymraeg ar greu continwwm iaith yn hytrach na chynnal 2 ffrwd iaith. Bydd hyn yn codi disgwyliadau ac yn newid agwedd at ddysgu Cymraeg. Ni fydd hyn yn bosib dros nos, ond gellir cychwyn trwy ddynodi nifer o ardaleodd ar draws Cymru a chynnig cyllid ychwanegol i’r cymunedau yna. Gellir cyplysu hyn gyda’r awgrym yn ein Maniffesto i dargedu 6-10 o ardaloedd fel ‘Ardaloedd Adfywio a Datblygu’r Gymraeg’ oddifewn i strategaeth economiadd ehangach.
Dyma rhai yn unig o’r argymhellion a ymgorfforir yn ein Maniffesto Byw. Nid yw Cymdeithas yr Iaith yn honni bod hwn yn ddogfen gorffenedig, ond fel man cychwyn rydym yn herio Llywodraeth Cymru i ymateb i’r agymhellion ac i fod yn llawer iawn mwy radical ac arloesol yn ei syniadaeth. Ond ni fyddem yn disgwyl am ymateb cyn weithredu: byddem yn gweithio gyda nifer o Gymunedau ledled Cymru i greu ‘Cynlluniau Cymuned’ yn seiliedig ar yr Economi, Tai a Chynllunio a Iaith tra ar yr un pryd mireino, newid a datblygu ein Maniffesto Byw trwy drafodaeth gyhoeddus ac agored ar hyd ac ar led Cymru. Felly, rydym yn annog cyfraniadau i’n Maniffesto ar Twitter trwy ddefnyddio’r hashnod #maniffestobyw, neu e-bostio post@cymdeithas.org, fel bod modd datblygiadau’r syniadau ymhellach. Heb amheuaeth mae’r frwydr dros y Gymraeg yn mynd i barhau ac yn mynd i ddwyshau – y degawd nesaf yw’r degawd tyngedfennol.
Robin Farrar & Toni Schiavone