Hyfforddiant Athrawon: angen buddsoddi £100m mewn hyfforddiant iaith

       

 

Rhaid i lywodraeth nesaf Cymru fuddsoddi £100m mewn hyfforddiant iaith i athrawon, a phasio Deddf Addysg Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr wrth ymateb i adroddiad Comisiynydd y Gymraeg am hyfforddiant athrawon.

 

Mae Cymdeithas yr Iaith newydd ryddhau dogfen etholiadol ar gyfer etholiadau 2021. Ymysg y naw brif alwad yn y ddogfen honno, mae tri argymhelliad polisi sy’n rhoi blaenoriaeth i wella’r gwaith o gynllunio’r gweithlu addysg, sef: 

 

  • Pasio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb 
  • Buddsoddi £100 miliwn dros ddeng mlynedd mewn hyfforddiant iaith i’r gweithlu addysg a gofal plant
  • Cynyddu’r targed presennol ar gyfer canran yr athrawon newydd eu hyfforddi sy’n medru’r Gymraeg o 30% i 80% erbyn 2026

 

Dywedodd Toni Schiavone, Is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

 

“Mae’n amlwg ein bod ni’n wynebu argyfwng prinder athrawon yn barod, ac mae angen chwyldro yn y ffordd rydyn ni’n cynllunio’r gweithlu addysg, a hyfforddiant cychwynnol athrawon. Er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr a mwy, bydd rhaid i lywodraeth nesaf Cymru flaenoriaethu’r maes yma drwy basio Deddf Addysg Gymraeg, gwneud buddsoddiad digynsail mewn hyfforddiant iaith, a gosod targedau uchelgeisiol i sicrhau bod y rhan fwyaf o athrawon newydd yn medru dysgu drwy’r Gymraeg.”

 

“Ers datganoli, mae sawl strategaeth iaith ddigon clodwiw wedi’u mabwysiadu, ond wedi mynd yn angof wedi hynny. Mae chwyldroi cynllunio’r gweithlu addysg, gyda Deddf Addysg Gymraeg ymysg mesurau eraill, yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw’r nod o filiwn o siaradwyr yn dioddef yr un dynged.”