Os ydych wedi talu blaendal, mae angen i chi fynd i http://cymdeithas.cymru/talu er mwyn talu'r gweddill
LLETY YN YSTOD Y STEDDFOD
WEDI GWERTHU ALLAN!
Gan y bydd Eisteddfod Caerdydd yn un dra wahanol, rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn ni'n cynnig llety ychydig yn wahanol i'r arfer.
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd ein llety ar gyfer yr wythnos yn cael ei ddarparu mewn lleoliad arbennig, yng nghanol y ddinas. Mae'r fflatiau myfyrwyr gyda 5 ystafell yn cynnig llety sy'n addas i bawb, ac mae bob fflat yn cynnwys:
-
Ystafelloedd en suite gyda gwely dwbl bach
-
Dillad gwely
-
Cegin gyda'r holl gyfleusterau
-
Ardal cymdeithasu
Mae'r safle hefyd yn cynnwys:
-
Golchdy
-
Diogelwch 24 awr
-
Siediau beic
-
Gofod cymdeithasu
Leoliad
Cynhelir llety yr y wythnos yn fflatiau Parc Liberty. Mae Parc Liberty wedi cael ei leoli yng nghanol y ddinas ac felly, cynigir lleoliad delfrydol sy'n agos iawn at: maes Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd, gigs yr wythnos yng Nghlwb Ifor Bach ac holl atyniadau'r brifddinas.
Tra bod y lleoliad o fewn pellter cerdded i holl safleoedd pwysig yr wythnos, mae hefyd mewn lleoliad arbennig ar gyfer trafnidiaeth leol sy'n rhedeg rhwng yr ardal a Bae Caerdydd.
-
Clwb Ifor Bach - 0.6m (13 munud yn cerdded)
-
Canolfan y Mileniwm – 1.4m (28 munud yn cerdded)
-
Gorsaf Trên Caerdydd Canolog - 0.3m (6 munud yn cerdded)
-
Siop lleol - 0.2m (5 munud)
-
Tafarn Y Cornwall – 0.3m (7 munud yn cerdded)
Does dim un ystafell ar ôl!
e-bostiwch de@cymdeithas.cymru am ragor o wybodaeth
Mae holl waith Cymdeithas yr Iaith yn dibynnu ar roddion ac ymroddiad ein haelodau.
Beth am ymaelodi nawr?
Wrth dalu'r blaendal, rydych yn cytuno i dalu'r gweddill, ac i gadw at bolisi ymddygiad mewn digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith.
Byddwn yn cysylltu'n fuan wedi i chi archebu gyda rhagor o fanylion a thelerau'r llety