Llythyr Agored at Lywydd y Senedd / Open Letter to our Senedd’s Llywydd

 

Annwyl Lywydd,

Rydyn ni’n ysgrifennu fel pobl nad ydyn ni’n rhugl ein Cymraeg er mwyn galw arnoch chi i ail-enwi’r Cynulliad gyda’r enw uniaith Gymraeg ‘Senedd’.

Rydyn ni, yn gymaint â phobl eraill, eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu, ac rydyn ni’n dymuno ei gweld a’i chlywed yn ein bywydau beunyddiol. Credwn fod gosod enw uniaith Gymraeg ar ein corff democrataidd cenedlaethol yn ffordd o ddangos bod y Gymraeg wir yn perthyn i bawb.  

Yn y cymunedau lle rydyn ni’n byw, rydyn ni’n defnyddio enwau uniaith Gymraeg drwy’r amser: enwau pentrefi a threfi ym mhob rhan o’r wlad. Ac rydyn ni’n ymfalchïo yng ngeiriau ein hanthem genedlaethol sy’n perthyn i bawb, ac yn cynnwys pawb, nid siaradwyr Cymraeg yn unig. Mae’r pethau yma’n golygu llawer i ni, ac yn agos at ein calonnau, gan eu bod yn iaith unigryw Cymru. Nid yw’n deg dweud nad ydyn ni’n deall enwau uniaith Gymraeg. Mae gyda ni’r hawl i fwynhau pethau unigryw Gymraeg yn gymaint â phawb arall - does gan neb hawl i ddweud nad ydyn nhw’n perthyn i ni hefyd.

Pryderwn fod sawl un o’r dadleuon yn erbyn enw uniaith Gymraeg yn nawddoglyd tuag at nifer fawr o bobl yng Nghymru sy’n cefnogi’r iaith, ond yn methu ei siarad. Gwyddom nad yw sefyllfa’r Saesneg a’r Gymraeg yn gyfartal mewn gwirionedd, ac y byddai eu trin yn yr un ffordd yn union yn rhoi’r Gymraeg o dan anfantais. Mae llawer yn cyfeirio at y sefydliad fel 'Senedd' eisoes. Drwy osod enw Saesneg ar y Senedd, fel rydych chi’n bwriadu ei wneud, fe fyddwch chi, yn anochel, yn normaleiddio’r enw hwnnw ac yn tanseilio defnydd o’r enw Cymraeg.

Yn yr un ffordd, dydyn ni ddim eisiau enw Saesneg ar yr Eisteddfod, ar y Mudiad Meithrin, nac ar fudiadau fel Chwarae Teg. Dydy’r enwau yma, nac enwau ein trefi a’n pentrefi - o Bontypridd i Bontarddulais, ac o Lanelli i Langefni - ddim yn ddiarth i ni oherwydd eu bod yn Gymraeg. Ac os gallwn ni i gyd ddweud ‘Dáil’ neu ‘Bundestag’ heb yr angen am ddisgrifiad swyddogol Saesneg - pam na allwn ni wneud yr un peth gyda ‘Senedd’?

Galwn arnoch chi i ddangos hyder yn iaith unigryw Cymru a hyder yn holl bobl Cymru - boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio - drwy roi enw uniaith Gymraeg ar ein Senedd, enw Cymraeg fydd yn perthyn i bawb.

Yn gywir

Stephen Brooks, cyn-Gyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru; Dr Pam Birtil; Ross England; Yr Athro Alan Dix; Cynghorydd Jamie Evans; Chris Auckland; Ross Thomas; Jill Gough, CND Cymru; Rik Mowbray; Patricia Richards; Ian Bell; Rachel Mann; Gro-Mette Gulbrandsen; Jo Engelkamp; Janet Turner; Stephenie Morgan; Isaac Kneebone-Hopkins; Joseff Oscar Gnagbo; Sam Coates; Bruce Tollafield; Gareth Leaman; Alys Llywelyn; Molly Williams; Samantha Swift; Carmen Skowron; Verina Griffiths; Martin Nosworthy; Victoria Wade; Joelle Lucy Drummond; Sarah McNena; Cynghorydd Lindsay Whittle; Cynghorydd Steve Collings; Lotte Reimer; Matthew Youde; Cynghorydd Keith Parry; Darren Williams; Cynghorydd Emyr Webster; Nathan Tyrrell; Claire Vaughan; Brig Jones; Cynghorydd John Taylor; Beryl Cooledge; C. J. Parkin; J. A. Parkin; Fiona Dix; Dr Dan Evans; Cynghorydd Phil Bevan; Cynghorydd Phil Bale

 

Open Letter to our Senedd’s Llywydd

Dear Llywydd,

We write as people who are not fluent Welsh speakers to call on you to rename the National Assembly with the Welsh-only name 'Senedd'.

We, as much as other people, want to see the Welsh language flourish and wish to see and hear it in our daily lives. We believe that giving, unequivocally, our democratic body in Wales a Welsh-only name, would send a strong message that the Welsh language genuinely belongs to everyone regardless of their background.

In the communities in which we live, we use Welsh-only names all the time, in the names of villages and towns right across the country. We are proud of the words of our national anthem which belong to, and include, everyone, not just Welsh speakers. These are things that are special, and close to our hearts, because they are in the unique language of Wales. It is not fair to say that we do not understand Welsh-only names. We have the right to celebrate these uniquely Welsh things as much as anyone else, and no-one has the right to say otherwise.

We are concerned that a number of the arguments used against a Welsh-only name are patronising to hundreds of thousands of people in Wales, who support the language but cannot speak it. We know that the English and Welsh languages are not on an equal footing in reality, and so treating them the same way in law will disadvantage Welsh. Many people already call the institution 'Senedd'. By giving the Senedd an English name too, as you are planning to do, you will inevitably normalise that name and undermine the use of the Welsh name.

In a similar vein, we don't want an English name for the Eisteddfod, Mudiad Meithrin, or groups like Chwarae Teg. These names, and the names of our towns and our villages - from Pontypridd to Pontarddulais and from Llanelli to Llangefni - are not misunderstood by us as people because they are just in Welsh. And if we can all say 'Dáil' or 'Bundestag' without the need for an official English description - why can't we do the same with 'Senedd'?

We call on you to show confidence in our unique language, confidence in Wales and all its people - whether they speak Welsh or not - by giving our Senedd a Welsh-only name, a name that can belong to us all.

Yours sincerely

Stephen Brooks, former Director of the Electoral Reform Society Cymru; Dr Pam Birtil; Ross England; Prof. Alan Dix; Cllr Jamie Evans; Chris Auckland; Ross Thomas; Jill Gough, CND Cymru; Rik Mowbray; Patricia Richards; Ian Bell; Rachel Mann; Gro-Mette Gulbrandsen; Jo Engelkamp; Janet Turner; Stephenie Morgan; Isaac Kneebone-Hopkins; Joseff Oscar Gnagbo; Sam Coates; Bruce Tollafield; Gareth Leaman; Alys Llywelyn; Molly Williams; Samantha Swift; Carmen Skowron; Verina Griffiths; Martin Nosworthy; Victoria Wade; Joelle Lucy Drummond; Sarah McNena; Cllr Lindsay Whittle; Cllr Steve Collings; Lotte Reimer; Matthew Youde; Cllr Keith Parry; Darren Williams; Cllr Emyr Webster; Nathan Tyrrell; Claire Vaughan; Brig Jones; Cllr John Taylor; Beryl Cooledge; C. J. Parkin; J. A. Parkin; Fiona Dix; Dr Dan Evans; Cllr Phil Bevan; Cllr Phil Bale