Cyhoeddi nad yw Cymru ar werth ar gopaon Cymru

"Mae ein cymunedau Cymraeg mewn peryg oherwydd fod y farchnad dai agored yn atal pobl ifainc rhag cael cartrefi yn eu cymunedau." meddai Osian Jones, oedd yn un o griw o fynyddwyr profiadol fuodd yn dringo un o fynyddoedd peryclaf Cymru, Crib Goch ger Yr Wyddfa heddiw (dydd Llun, 16 Awst) er mwyn gosod baner fawr gyda’r geiriau “Nid yw Cymru ar werth”. 

Ar yr un diwrnod, fe godwyd baneri gyda’r un neges ar gopaon mynydd Carningli ger Trefdraeth yn Sir Benfro a Phenyfan - mynydd uchaf yn y De. 

Ychwanegodd Osian Jones, sy'n un o drefnwyr ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith:

“Yn dilyn y rali yn Nhryweryn, byddwn yn cynnal rali bellach yn Nhrefdraeth ar draeth Parrog Sir Benfro ar Hydref 23ain, cyn mynd â'n galwad at y Llywodraeth trwy rali ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd ar y13eg o Dachwedd. Disgwyliwn gamau brys a radical gan Lywodraeth Cymru i alluogi Awdurdodau Lleol i reoli’r farchnad dai”. 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo a fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai a’r broses gynllunio, newid y diffiniad o dai fforddiadwy, rheoli prisiau tai a rhent a gosod cap ar nifer yr ail dai a thai gwyliau mewn unrhyw gymuned.