Ymateb Rhanbarth Caerfyrddin i'r Cynnig i adolygu'r Ddarpariaeth Addysg Gynradd yn ardaloedd Mynyddygarreg a Gwenllian

Isod mae ymateb rhanbarth Caerfyrddin i'r Cynnig i adolygu'r Ddarpariaeth Addysg Gynradd yn ardaloedd Mynyddygarreg a Gwenllian
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 21.2.21.
Dylid danfon ymatebion i: DECMEP@sirgar.gov.uk

Mae'r ddogfen ymgynghori i'w gweld yma

Ymateb rhanbarth Caerfyrddin
Yn unol â threfn yr holiadur –

  1. Nag ydym, nid ydym yn cefnogi’r cynnig

  2. Oes mae gyda ni “sylwadau ynghylch y cynnig hwn yr hoffem pe baech yn eu hystyried?” Awn ni trwy’r ddogfen sy’n amlinellu’r cynnig fesul adran.

RHAGAIR

Mae’r rhagair yn fynegiant onest a didwyll o gymhelliant y Cyngor Sir wrth wneud y cynnig. Ond dyma’n wir sail ein holl wrthwynebiad i’r cynnig ac i’r broses o ffurfio a phenderfynu ar y cynnig. Derbyniwn fod y broses sy’n cyflwyno’r cynnig yn cydymffurfio â’r drefn a eglurir yn Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018) fel y mae wedi ei addasu at gyfnod y pandemig (7.1.21). Ond nid yw’r Cod yn eich cyfyngu i benderfynu ar ddyfodol holl ddarpariaeth addysg gynradd yn yr ardal yn y cyd-destun cyfyngedig hwn.

Mae’r rhagair yn gyfaddefiad onest mai holl sail y cynnig yw ymdrech i greu cais llwyddiannus i Gronfa Ysgolion yr 21ain ganrif i Ysgol Gwenllian, Cydweli. Nid yn unig y cefnogwn gais felly am adeilad newydd i’r ysgol, ond credwn ei bod yn anffodus iawn fod y buddsoddiad o £7.4miliwn mewn adeilad newydd i’r ysgol Saesneg ei chyfrwng wedi dod cyn y buddsoddiad yn yr ysgol Gymraeg. Derbyniwn y gall fod rhesymau penodol am hynny, na wyddom amdanynt ac nad sy’n destun i’r ymgynghoriad hwn, ond yr effaith yw y caiff cannoedd o bobl ifainc ardal Cydweli o hyd eu hamddifadu trwy’r system addysg o’r gallu i gyfathrebu a gweithio’n Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Golygir y bydd cannoedd ragor o ddisgyblion yn methu dilyn cyrsiau pellach trwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg Sir Gâr, ac y bydd effaith negyddol ar gyrff cyhoeddus y sir i gynnal gwasanaethau Cymraeg ar gyfer y cyhoedd. Cefnogwn felly y cais hwyrach hwn i’r ysgol Gymraeg ei chyfrwng hefyd dderbyn adeilad newydd gan y bydd mantais gan y disgyblion hyn o fod yn rhugl yn y ddwy iaith.

Ond ni roddir yn y rhagair nac yn nhrwch y ddogfen unrhyw reswm da dros gau ysgol gyfrwng Gymraeg arall ym Mynydd-y-Garreg fel rhan o gais uwchraddio Ysgol Gwenllian. I’r gwrthwyneb, datganodd y Gweinidog Addysg yn eglur yn y Senedd (Mis Mai 2020 mewn ymateb i gwestiwn gan Rhun ap Iorwerth AS) nad oedd raid cau unrhyw ysgol er mwyn gwneud cais i’r gronfa am wella ysgol arall. Gellir defnyddio’r arian ar gyfer ysgol newydd, adeilad newydd i ysgol bresennol, neu uwchraddio adeilad ysgol bresennol. Yn wir, yn yr achos cyfatebol ar Ynys Môn gohiriwyd y buddsoddiad mewn adeilad newydd i Ysgol Corn Hir Llangefni am ddwy flynedd oherwydd fod y cais wedi ei gysylltu â bwriad (a dynnwyd yn ôl yn y diwedd) i gau Ysgol Bodffordd. Yr un modd, dylid mynd ymlaen yn ddi-ymdroi i wneud y cais am adeilad newydd i Ysgol Gwenllian heb wastraffu amser ac ewyllys da ar ymdrech i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg fel rhan o’r broses.

O ran penderfynu ar ddyfodol Ysgol Mynydd-y-Garreg, mae’r Cod Trefniadaeth yn mynnu fod gwerthuso ystod eang o ystyriaethau nad sy’n cael sylw digonol yn y ddogfen nac unrhyw gydnabyddiaeth o gwbl yn y Rhagair sy’n trin sail y cynnig. Mae’r cyd-destun yn llawer rhy gul e.e. mae’r rhagair yn esbonio’n effeithiol bwysigrwydd adeilad ac adnoddau materol pwrpasol i addysg, ond nid oes unrhyw ymwybyddiaeth o gwbl â rôl allweddol cefnogaeth rhieni a chymuned, na hyd yn oed bwysigrwydd eu barn ar unrhyw drefn newydd.

Mae’r arolwg “SnapSurvey” a ddefnyddir yn enghraifft o hyn. Fel arfer, bydd ffurflen arolwg neu ymateb yn arwain ymatebydd trwy’r rhesymau dros gynnig ac yn ceisio ymateb i wahanol rannau. Heblaw am geisio manylion sylfaenol, y cwbl a wneir yn yr “arolwg” hwn yw gofyn a oes rhywbeth rydych chi am i ni ei gymryd i ystyriaeth ac a oes unrhyw syniad gwell gyda chwi ! Nid yw’r arolwg yn cynrychioli ymgais ystyrlon i ymgynghori a chlywed barn pobl yn iawn - ac mae dyletswydd ar bob awdurdod cyhoeddus i neud hynny o dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol.

Derbyniwn fod y Gweinidog Addysg wedi cymryd y cam anffodus o ganiatáu i Awdurdodau Lleol (7/1/21) ymgynghori tra roedd ysgolion ar gau yng nghanol pandemig, a byddai wedi bod yn gwbl briodol i fynd trwy’r broses ffurfiol yn sydyn, heb oediad, i geisio adeilad newydd i Ysgol Gwenllian. Ond nid oedd raid i’r Cyngor Sir fanteisio ar y caniatâd hwn i ddewis y cyfnod argyfyngus hwn i drafod rhywbeth mor ddifrifol ag amddifadu cymuned Mynydd-y-Garreg o’u hysgol.

Nid yn unig fod yr ysgol ei hun ar gau yn y cyfnod hwn, ac nid oes modd cyflwyno’r hyn sy’n digwydd mewn modd ystyrlon i ddisgyblion, ond mae’r gyfraith yn caethiwo rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned i’w cartrefi – sy’n gosod cyfyngiadau ymarferol difrifol ar y gallu i drafod, estyn at bawb a threfnu ymgyrch i gadw eu hysgol fel a wnaed yn ôl yn 2006. Y mae’r straen ychwanegol, ar ganol pandemig, ar ben yr anawsterau ymarferol. Mae nifer o rieni wedi tystio mor galed yw ceisio ennill bywoliaeth ac addysgu plant adre yn y cyfnod hwn, a bod y bygythiad i’r ysgol yn ergyd greulon ychwanegol ar yr adeg hon sy’n gosod straen mawr ar eu hiechyd nhw a’u plant.

Mae’r Côd Ysgolion hefyd yn gosod cyfrifoldeb arbennig ar yr Awdurdod i ymgynghori â’r plant hefyd, ac i sicrhau fod gwneud hynny mewn modd ystyrlon i’r plant. Nid oedd modd cyfarfod â’r plant gan fod yr ysgol ar gau. Anfonwyd arolwg at y plant yn dweud yn bendant mai’r bwriad oedd cau eu hysgol, heb roi unrhyw opsiwn amgen. Anodd iawn fu i rieni dderbyn felly sicrwydd y Bwrdd Gweithredol mai ymgynghoriad “agored” oedd hwn.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi derbyn cyngor cyfreithiol ar y mater, ac yn ôl pob tebyg nid oedd yn “addas a chymesur” dan ofynion y ddeddf i’r Gweinidog Addysg osod cyfleustra gweinyddol i fwrw ymlaen gyda chynigion yn uwch na’r caledi real a achosir i wrthwynebwyr o fethu cael cyfle teg i gyflwyno eu hachos. Fodd bynnag, ni byddai unrhyw achos cyfreithiol i’r perwyl yn debyg o allu cael ei ddatrys cyn diwedd y cyfnod ymgynghorol. Fe benderfynon ni felly beidio â chyflwyno her cyfreithiol er mwyn peidio ag ychwanegu at yr ansicrwydd. Ond mawr obeithiwn y bydd Bwrdd Gweithredol y Cyngor, wrth ddod i benderfyniad ar yr ymgynghoriad, yn cymryd i ystyriaeth na chafodd y gymuned leol y cyfle gorau i gyflwyno ei hachos. O dan yr amgylchiadau, gobeithiwn y byddwch yn darllen eu geiriau nhw eu hunain, ac nid yn unig grynodeb swyddogion o’u tystiolaeth.

CYFLWYNIAD / CEFNDIR

Nid yw’r ffeithiau a roddir yn arwain o gwbl yn rhesymegol at y cynnig o gau Ysgol Mynydd-y-Garreg.

  • Cymerwn y tafluniad o nifer y disgyblion ar gyfer Ionawr nesaf 2022. Ysgol Mynydd-y-Garreg yw un o ychydig ysgolion pentrefol yr ardal lle bu cynnydd yn nifer y plant – o isafbwynt o 29 yn 2017 i 42 fis Ionawr nesaf. Yn ôl y ffigurau a roddir, bydd y gost yn ôl y disgybl yn £4095 y pen. Rhaid cofio fod cysgod wedi bod dros yr ysgol ers 16 mlynedd bellach oherwydd y strategaeth foderneiddio. Unwaith y bydd ysgol yn derbyn sicrwydd am ei dyfodol, fel arfer bydd cynnydd yn nifer y disgyblion. Fis Ionawr, bydd Ysgol Mynydd-y-Garreg ond 13 disgybl dan ei chapsiti. Ar ben hyn, ni chaiff yr ysgol dderbyn plant y 3 oed fel ysgolion eraill yr ardal eang a chollir plant o ganlyniad. Petai capasiti llawn o 55 o ddisgyblion, byddai’r gost y pen yn disgyn i £3127 – yn bell o dan lefel ysgolion cymharol. (Gall fod cynnydd mewn costau ond hefyd mewn cyllideb, ac felly ond amcangyfri y gellir ei roi, ond mae’n amlwg nad yw’r gwariant y pen tu allan i reswm.) Wrth gwrs fod darparu ysgol, neu unrhyw wasanaeth cyhoeddus, yn costio’n fwy y pen mewn pentrefi nag mewn ardaloedd trefol mwy poblog, ond mae llai o wasanaethau’n cael eu cynnig yn y pentrefi, ac felly yn aml y mae’r gwariant cyfan y pen yn y pentrefi’n llai na’r gwariant y pen mewn ardaloedd trefol.

  • Nid yw’r ystadegau am nifer y disgyblion sydd yn nalgylch Mynydd-y-garreg, a’r cyfran ohonynt sy’n mynychu’r ysgol, yn gwneud synnwyr. Dywedir (bellach) fod 114 o ddisgyblion yn nalgylch Ysgol Mynydd-y-Garreg, ac nad yw 90 ohonynt yn yr ysgol. Ond 55 yw holl gapasiti’r ysgol ! Mae’n amlwg fod problem sylfaenol o ran ffiniau’r dalgylch. Atodwn fap o ddalgylch yr ysgol, a gwelir fod y dalgylch yn cynnwys ymyl Cydweli ei hun, a thai sy’n nes at ysgolion yng nghanol Cydweli, ac hefyd yn ymestyn at Bontiets ! Ar ben hyn y mae’r ffigur yn cynnwys teuluoedd sydd wedi symud i’r pentre o Benbre a Chydweli, a’u plant yn dal i gael eu cludo at yr ysgolion hynny. Mae’r nifer yn yr ysgol hefyd wedi ei gyfyngu’n artiffisial trwy wrthod caniatâd i blant 3 oed fynychu Ysgol Mynydd-y-Garreg “oherwydd fod darpariaeth mewn ysgolion eraill” (esboniad a roddwyd i gyn-Brifathro). Mae cyfanswm disgyblion y dalgylch yn cynnwys 22 o blant 3-4 oed, ac eraill o’r oedran hwn sydd wedi cychwyn mewn ysgolion eraill. O dynnu allan o’r cyfanswm y nifer sy’n byw yn nes at ysgolion eraill (neu wedi symud o ardaloedd felly), ac sydd ddim yn cael dod i’r ysgol (neu wedi cychwyn mewn ysgolion eraill) oherwydd eu hoedran, amcangyfrifwyd fod mwyafrif clir o ddisgyblion a allent ddod i Ysgol Mynydd-yGarreg YN dod i’r ysgol – a dim ond 13 lle gwag fydd yn yr ysgol fis Ionawr. Yr un mor gymysglyd yw’r gosodiad fod 192 o ddisgyblion yn nalgylch Ysgol Gwenllian nad ydynt yn mynychu Ysgol Gwenllian, er mai 140 yw capasiti presennol yr ysgol. Mae’r broblem yn deillio o’r ffaith mai’r un dalgylch sydd i Ysgolion Gwenllian ac Ysgol y Castell. Y gwir yw fod adeilad newydd eisoes wedi ei drefnu i Ysgol gyfrwng-Saesneg Y Castell gyda lle i dros hanner disgyblion y dalgylch ac, fel mater eilradd yn gronolegol, mae ymdrech yn awr i gael ysgol gyfrwng-Cymraeg yn y dref trwy draflyncu Ysgol Mynydd-y-Garreg. Dychwelwn at hyn wrth ystyried y nod o gynyddu cyfran y disgyblion sydd mewn addysg gyfrwng-Cymraeg. Digon am y tro yw nodi fod y ffigurau hyn yn gamarweiniol o ran darlunio poblogrwydd ysgol ai peidio, ac nad ydynt yn sail sicr i unrhyw benderfyniad.

  • Dywedir am Ysgol Mynydd-y-Garreg “Ni ellid cyfiawnhau (moderneiddio adeilad) o ystyried nifer isel a gostyngol disgyblion”. Mae ffigurau’r adroddiad ei hun yn dangos nad yw’r nifer yn gostwng (i’r gwrthwyneb) ac yn ffeithiol anghywir. Ond a oes cyhoeddi yma – heb unrhyw benderfyniad democrataidd – na bydd unrhyw fuddsoddiad o gwbl bellach mewn ysgolion sydd â nifer cymharol “isel” o ddisgyblion? Nid oes unrhyw ymdrech yma i amcangyfri cost unrhyw uwchraddio i’r adeilad fel y gellir ei ddefnyddio’n bwrpasol. Beth bynnag fydd yr union ffurf lleol (gw adran ymhellach ymlaen ar ffedereiddio), disgwylir fod sefydliadau addysg yn cydweithio’n hytrach na bod dyblygu adnoddau ar bob safle. Er mwyn i Ysgol Mynydd-y-Garreg gydweithio’n llwyddiannus ag ysgol(ion) cyfagos i ddarparu ystod o brofiadau addysgol, ni byddai angen ond adnoddau sylfaenol ar y safle hwn, a gallai’r gost fod yn gymhedrol iawn. Mae’n gwbl amhriodol fod gofyn i gynghorwyr “ysgrifennu ysgol allan o hanes” heb hyd yn oed amcangyfri cost uwchraddio.

  • Dywedir ymhellach fod cyllideb yr ysgol wedi bod mewn diffyg ers 4 blynedd, ac erbyn hyn yn £48,265. Deallwn fod rhesymau penodol dros y diffyg hwn. Mae hefyd yn swm bach iawn yng nghyd-destun y gost gyfan i’r Cyngor o wasanaethu’r ddyled a achosir o gyfraniad y Cyngor at y ddau adeilad newydd yng Nghydweli. O ystyried y buddsoddiad enfawr yn y ddwy ysgol newydd yn y dref, a chost ganlynol hynny, rhesymol yw derbyn buddsoddiad sy’n gyfran fach iawn o hynny mewn pentref gyfagos.

RHESYMEG DROS NEWID

Nid yw’r rhesymeg a roddir yn unrhyw fath o gyfiawnhad dros gau Ysgol Mynydd-y-Garreg. Mae argraffiad 2018 o Cod Trefniadaeth Ysgolion yn datgan yn eglur na ddylid bellach ystyried lleoedd dros ben mewn ysgol yn brif factor wrth benderfynu ar ei dyfodol. Mae’r Cod hefyd yn diffinio “lefel sylweddol” o leoedd gwag fel 25% a chyfanswm o 30 o leoedd gwag. Yn ôl ffigurau’r adroddiad bydd 42 disgybl (o gapasiti llawn o 55) yn yr ysgol fis Ionawr nesaf. Felly ni bydd canran y lleoedd gwag ond 23% ac yn gyfanswm o 13 o leoedd. NID yw hyn yn bodloni’r criterion felly dros ystyried terfynu ysgol.

Y CYNNIG

Nid yw’r ffeithiau’n arwain yn rhesymegol at y cynnig, sef cau Ysgol Mynydd-y-Garreg, rhoi’r holl ardal yn nalgylch Ysgol Gwenllian ac anfon y plant at yr ysgol newydd honno yng Nghydweli. Gall swyddogion lunio ffiniau dalgylch ar fap, ond byddai perffaith hawl gan rieni – boed y rhai presennol wedi eu gelyniaethu o golli eu hysgol, neu rai yn y dyfodol – anfon eu plant yr un mor rhwydd at Ysgol y Castell neu at ysgol arall. Mae hon yn berygl real i ddisgyblion newydd gan y bydd adeilad newydd Ysgol y Castell yn barod cyn adeilad newydd Ysgol Gwenllian.

MANTEISION Y CYNNIG

Ni dderbyniwn y manteision honedig hyn

  • Mae’r honiad y bydd y cynnig yn lleihau llefydd gwag yn ffeithiol anghywir yn ôl y ffigurau sydd yma. Yn 2023, yn ôl y ffigurau hyn, byddai 171 o ddisgyblion yn yr ysgol, sy’n rhoi 28% o leoedd gwag yn yr adeilad newydd sydd â chapasiti o 240 – sy’n fwy na’r cyfradd presennol.

  • Eto, mae’r honiad y bydd y cynnig yn darparu mwy o lefydd mewn addysg gyfrwng-Cymraeg yn anghywir o gymharu ag opsiwn i greu adeilad newydd i Ysgol Gwenllian a chadw Ysgol Mynydd-y-Garreg. Bydd y cynnig yn darparu 240 o lefydd Cymraeg, lle byddai ffederasiwn rhwng yr ysgol newydd ag Ysgol Mynydd-y-Garreg yn darparu 295 o lefydd Cymraeg.

  • Mae mwyafrif y “manteision” eraill yn fanteision o gael adeilad newydd, a gellir cael y manteision hynny heb gau Ysgol Mynydd-y-Garreg – o ran cyfleoedd, adnoddau, amgylchiadau addysgu, effeithlonrwydd ynni, a mannau chwarae. Yr un fantais a fyddai o ran rhesymoli defnydd staff ac adnoddau wrth y cynnig hwn NEU gynnig yn sefydlu ffederasiwn rhwng Ysgol Gwenllian mewn adeilad newydd ac Ysgol Mynydd-y-Garreg

Felly does dim un o’r “manteision” hyn yn ddibynnol ar dderbyn y cynnig arbennig hwn o gau Ysgol Mynydd-y-Garreg. Gellid eu cael nhw oll o dderbyn y cynnig amgen a amlinellwn yn nes ymlaen.

ANFANTEISION Y CYNNIG

  • Mae’n dilyn o’r uchod mai anfantais y cynnig yw y gellid cael yr holl fanteision uchod heb amddifadu’r gymuned ym Mynydd-y-Garreg o’u hysgol.

  • Mae dilyn y broses ymgynghorol trwodd i’r pen draw yn risg ynddo’i hun gan y gellid fel arall wneud cais yn syth am adeilad newydd i Ysgol Gwenllian. Mae hwn yn risg arbennig gan y bydd adeilad Ysgol y Castell yn barod cyn adeilad Ysgol Gwenllian fel y mae, a bydd perygl colli disgyblion. Cymharer hyn gyda’r sefyllfa yn Ynys Môn lle gohiriwyd y cais am adeilad newydd i Ysgol Corn Hir Llangefni am ddwy flynedd oherwydd fod y cynnig gwreiddiol wedi ei gysylltu gyda chynnig i gau Ysgol Bodffordd.

  • Mae anfantais bendant hefyd o ran cyflawni amcanion Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Ar hyn o bryd y mae holl ddisgyblion Ysgol Mynydd-y-Garreg mewn addysg gyfrwng-Gymraeg. O gau’r ysgol yn y pentre, gellid colli nifer o ddisgyblion presennol neu yn y dyfodol i addysg gyfrwng-Saesneg yn Ysgol y Castell.

  • Risg rhif 3 yw y bydd “ymgynghoriad anfoddhaol â’r gymuned”. Bydd hon yn sicr o fod yn “anfantais” bendant, ac yn risg sylweddol o golli ewyllys da gan fod penderfyniad i gynnal ymgynghoriad ar amddifadu pobl Mynydd-y-Garreg o’u hysgol tra bo’r ysgol ar gau yng nghanol pandemig, tra bod llawer o straen arall arnyn nhw.

SYLWADAU AR Y TABL O YSGOLION YR ARDAL – tudalen 23

Os edrychwn ar y sefyllfa fis Ionawr nesaf (2022), heblaw am yr ysgolion mwy o faint (200+ o ddisgyblion), y ddwy ysgol sy’n destun i’r ymgynghoriad hwn sydd â’r nifer a chanran leiaf o leoedd gwag – mewn sefyllfa well na’r pump ysgol arall a enwir. Mae’n amlwg nad oes unrhyw reswm dilys dros symud i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg ar y sail hon.

GWERTHUSIAD O’R TREFNIADAU PRESENNOL YN YSGOL MYNYDD-Y-GARREG O RAN SAFONAU ADDYSGOL, LLESIANT AC ARWEINYDDIAETH

Nid oes dim byd yn yr adrannau hyn sy’n rhoi rheswm dros weithredu’n ddrastig i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg. I’r gwrthwyneb, ceir darlun dros y chwe mlynedd diwethaf o ysgol sy’n perfformio mewn modd cwbl dderbyniol ac sy’n gwella’n gyson. Dyma ddetholiad o ddyfyniadau “Mae bron pob un o ddisgyblion yr ysgol yn gwneud y cynnydd disgwyliedig o ystyried eu dechrau yn yr ysgol …. Mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn mwynhau eu dysgu. Mae ganddynt agweddau da at ddysgu ac maent yn elwa o'r cysylltiadau rheolaidd ag ysgolion eraill.Mae ymddygiad y rhan fwyaf o'r disgyblion yn dda.Maent yn cydweithredu'n adeiladol yn eu grwpiau ac yn ymateb yn briodol i'r tasgau a osodir ….. Mae .. bron pob disgybl yn gwneud cynnydd pwrpasol. …. Mae'r cyfarfodydd rhieni yn cynnwys rhannu strategaethau'r ysgol i wella sgiliau darllen … Mae'r staff wedi bod yn ymwneud ag arsylwi dysgu a chraffu ar waith disgyblion ac wedi creu adroddiadau gwerthusol sydd wedi'u rhannu â'r corff llywodraethu. Mae'r gwaith monitro gan staff yn bwrpasol ac yn unol â chynllun datblygu'r ysgol … Mae'r ysgol wedi gweithredu strategaethau'n llwyddiannus i gynyddu proffil y Gymraeg … Mae'r ysgol yn gweithredu fel cymuned hapus a gofalgar. Rhoddir blaenoriaeth uchel i lesiant disgyblion … Mae'r pennaeth presennol, fel y pennaeth blaenorol, yn darparu arweinyddiaeth gref ac yn canolbwyntio'n llwyddiannus ar godi safonau'r disgyblion. Ceir gweledigaeth glir ar gyfer yr ysgol a chaiff hyn ei gyfleu i'r holl staff, y disgyblion a'r rhieni. Mae cymuned yr ysgol gyfan yn gweithio'n agos fel tîm er budd pob disgybl ac maent yn sicrhau bod llesiant disgyblion wrth wraidd cymuned yr ysgol … Mae gan y llywodraethwyr afael dda ar safonau'r ysgol. Maent yn ymwybodol o gryfderau'r ysgol a'r meysydd i'w gwella, maent yn cefnogi'r ysgol yn effeithiol ac yn herio arweinwyr yn bwrpasol. …”
Dyma ddarlun o ysgol sy’n llwyddo, ac eisoes yn cydweithio’n anffurfiol gydag Ysgol Gwenllian, a gall ffurfioli hyn a chael mynediad (mewn ffederasiwn ffurfiol yn ôl ein cynnig ni) at gyfleusterau’r adeilad newydd gadarnhau’r llwyddiant. Yn rhyfedd iawn (yn Adran “Effaith y Cynnig”), dywed y swyddogion y bydd y cynnig a ffefrir yn gwella’r sefyllfa – trwy gau’r ysgol.

Ein honiad unwaith eto yw nad yw’r dadansoddiad yn arwain yn rhesymegol at y cynnig i gau ysgol lwyddiannus fel Mynydd-y-Garreg.

 

Atodiad A –Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned

Credwn mai Atodiadau A & B yw’r rhannau mwyaf siomedig oll o’r ddogfen. Deallwn bwysau gwaith – ar ganol pandemig – ar y swyddogion, ond nid oes unrhyw ymdrech ddifrifol i astudio’n wrthrychol effaith y cynnig o gau Ysgol Mynydd-y-Garreg ar y gymuned leol. Mae’r gymuned leol yn haeddu gwell na hyn.

Yn hytrach, mae'r rhan helaethaf yn ceisio cyfiawnhau’r cynnig trwy ddadl gamarweiniol na all yr ysgol fod o bwys i’r gymuned leol gan nad oes ond 20% o blant y dalgylch yn mynychu’r ysgol. Dyma’r ddadl sydd wedi ei gwthio dro ar ôl tro gan gefnogwyr y cynnig. Ac eto, mae’n gwbl gamarweiniol. Gan mai 55 yw holl gapasiti Ysgol Mynydd-y-Garreg, mae’n amlwg na ellir cynnwys hyd yn oed hanner y 114 o ddisgyblion yr honnir eu bod yn byw yn y dalgylch. Dangoswyd mewn adran flaenorol fod y cyfanswm yn cynnwys llawer o ddisgyblion sy’n byw yn nes at ysgolion eraill (neu sydd wedi symud o ardaloedd felly), neu’n 3-4 oed ac felly sy’n cael eu hatal gan y Cyngor rhag mynd i Ysgol Mynydd-y-Garreg neu wedi cychwyn mewn ysgol arall oherwydd hynny. Siomedig iawn yw fod darlun mor gamarweiniol yn cael ei roi. Y gwir yw mai dim ond 13 lle gwag fydd yn yr ysgol fis Ionawr nesaf ac, o roi sicrwydd am ddyfodol yr ysgol a derbyn plant 3 oed fel ysgolion eraill, bydd yr ysgol yn llawn yn fuan ac yn derbyn cefnogaeth lawn gan y gymuned leol.

Heblaw am wneud y pwynt camarweiniol hwnnw, tair brawddeg gwta yw’r Asesiad Effaith ar y gymuned – yn cyfeirio at y clwb brecwast a gofal wedi ysgol, ac mai dyma gartre Mudiad Meithrin yn lleol. A dyna fe’r asesiad ! Anodd yw bod yn feirniadol o’r swyddogion a luniodd yr adroddiad. Mae’r pandemig wedi rhoi llawer o waith a straen ychwanegol iddyn nhw, a fydden nhw ddim wedi gallu cynnal cyfarfodydd cymunedol i fesur gwerth yr ysgol i’r gymuned. Ond mae hyn yn dangos mor annoeth oedd cynnal ymgynghoriad ar ganol pandemig, ac nid yw’n deg fod pobl Mynydd-y-Garreg yn talu’r pris am hyn.

Atodiad B –Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg

Rhoddir dwy frawddeg am bolisi iaith y Cyngor Sir a 3 brawddeg gwta mewn perthynas ag Ysgol Mynydd-y-Garreg. Unwaith eto, deallwn y pwysau gwaith sydd ar swyddogion, ond ni ellid ystyried hwn yn asesiad difrifol ar effaith cau’r ysgol ar yr iaith.

Yr ydym yn gefnogol iawn i strategaeth iaith y Cyngor Sir, ac yn enwedig o ran symud ysgolion ar hyd continwwm iaith. Mae pob tystiolaeth yn dangos mai dim ond y disgyblion mewn “addysg gyfrwng-Gymraeg” sy’n dod yn rhugl yn y ddwy iaith. Amddifedir y miloedd o ddisgyblion sydd ar hyn o bryd mewn addysg gyfrwng-Saesneg o’r gallu i gyfathrebu a gweithio’n Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg, ac felly cyfyngir ar eu cyfleon cymdeithasol ac economaidd mewn gwlad ddwyieithog fodern. Yn y cyd-destun hwn, gwnaethon ni synnu fod £7.4miliwn yn cael ei wario ar adeilad newydd ar gyfer ysgol Saesneg ei chyfrwng yng Nghydweli, a bod y datblygiad hwn wedi rhagflaenu buddsoddiad yn yr ysgol gyfrwng-Gymraeg yn y dref. Derbyniwn y gall fod rhesymol ymarferol am yr amserlen gwahaniaethol, ond bydd y ffaith fod yr ysgol gyfrwng-Saesneg yn barod ar ei newydd wedd o flaen y ddarpariaeth Gymraeg yn rhoi mantais benodol o ran denu disgyblion am flwyddyn neu ddwy. Ond nid dyna destun yr ymgynghoriad hwn.

Mae’n wir y byddai’r cynnig a ffefrir yn cynyddu nifer y llefydd mewn addysg gyfrwng-Cymraeg yn ardaloedd Cydweli/Mynydd-y-Garreg. Ar hyn o bryd y mae cyfanswm o 195 o lefydd rhwng Ysgol Gwenllian ac Ysgol Mynydd-y-Garreg. Byddai adeilad newydd i Ysgol Gwenllian yn darparu 210 o lefydd mewn addysg gyfrwng-Gymraeg + 30 lle meithrin, cyfanswm o 240 o lefydd. Dyna gynnydd o 45 lle yn y ddarpariaeth bresennol – sef rhyw 10% o gynnydd yn y ddarpariaeth gyfan (rhwng Ysgol Gwenllian bresennol ac Ysgol Mynydd-y-Garreg) yn yr ardaloedd hyn. Dyma adeiladau a threfn newydd sydd i barhau am 30-50 mlynedd, ac mae’r ddarpariaeth yn annigonol ar ddau gyfri –

  1. Dyma’r ardal o Sir Gaerfyrddin ar gyrion Bae Abertawe lle mae’r Cynllun Datblygu Lleol am ganolbwyntio datblygiadau cyflogaeth, ac felly datblygiadau tai. Bydd capasiti adeilad newydd yr ysgol gyfrwng-Saesneg ond ychydig yn fwy na nifer y disgyblion sydd ar hyn o bryd yn yr ysgol. Gellir dadlau felly’n rhwydd nad yw’r cynnig presennol yn darparu digon o lefydd ysgol yn gyfan gwbl ar gyfer y galw sy’n debyg o fod yn sylweddol yn fwy na chynnydd o 10%.

  2. Yn sicr ni fyddai’r cynnig hwn yn darparu digon o gynnydd mewn llefydd ar gyfer addysg Gymraeg i wireddu uchelgais y Cyngor. Petai llwyddo i berswadio cyfran helaethach o ddisgyblion yr ardaloedd o fantais addysg gyfrwng-Cymraeg, dim ond 47% o’r disgyblion fyddent yn derbyn addysg Gymraeg hyd yn oed petai pob lle yn Ysgol newydd Gwenllian yn cael ei lenwi.

Petai’r opsiwn amgen – o sefydlu Ysgol Gwenllian mewn adeilad newydd A datblygu ffederasiwn ffurfiol rhyngddi ac Ysgol Mynydd-y-Garreg – yn cael ei dderbyn, byddai 55 lle ychwanegol ar gael mewn addysg gyfrwng-Cymraeg yng Nghydweli/Mynydd-y-Garreg gan wneud cyfanswm o 100 o lefydd ychwanegol mewn addysg gyfrwng-Cymraeg. Dyma’r targed lleiaf sy’n dderbyniol os yw’r Cyngor Sir am gymryd camau pendant ymlaen o ran y Gymraeg. Golygai y byddai 295 (allan o gyfanswm o 565 o lefydd rhwng y 3 ysgol) o lefydd ar gyfer addysg gyfrwng-Cymraeg – neu 52% o’r holl lefydd. Yn gyfangwbl, byddai 565 o lefydd ysgol o gymharu â 460 yn y 3 ysgol bresennol. Dyna darparu cynnydd o 22.8% ar gyfer cynnydd mewn poblogaeth o ganlyniad i’r Cynllun Datblygu Lleol, ac i sicrhau fod digon o le i gyfran helaethach o ddisgyblion dderbyn addysg gyfrwng Saesneg ac addysg gyfrwng-Cymraeg.

Ond dylai asesiad o effaith gweithredu’r cynnig a ffefrir ar y Gymraeg fynd llawer pellach nag ystyried ystadegau moel yn unig. Beth fyddai’n debygol o ddigwydd i’r disgyblion presennol yn Ysgol Mynydd-y-Garreg, ac i ddisgyblion y dyfodol sy’n byw yn y pentref ? Ar hyn o bryd, bydd 42 o ddisgyblion yn yr ysgol fis Ionawr, pob un naill ai’n byw yn y pentref (mwyafrif) neu â chyswllt digon agos i ddewis yr ysgol. Mae pob un o’r disgyblion hyn yn derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd (sef tua 30% o’r holl ddisgyblion wedi oed meithrin sy’n derbyn addysg Gymraeg yn ardaloedd Cydweli/Mynydd-y-Garreg). Does dim un disgybl ychwanegol yn gallu cael ei ennill i addysg Gymraeg o ganlyniad i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg. Ond, os caiff yr ysgol yn eu pentref ei chau, mae perygl gwirioneddol y gallai cyfran arwyddocaol o rieni presennol – neu yn fwy tebygol rhai y dyfodol – gofrestru eu plant yn yr ysgol Saesneg newydd sbon i lawr yng Nghydweli, yn enwedig os byddant wedi symud o ardal fwy Saesneg. Gall yr Awdurdod dynnu llinell dalgylch ar fap, ond bydd hawl gan rieni o Fynydd-y-Garreg anfon eu plant at yr ysgol Saesneg os na bydd ysgol yn eu cymuned. O ran disgyblion o Fynydd-y-Garreg felly, dim ond niwed all fod i’r Gymraeg o weithredu’r cynnig a ffefrir.

Ar ben hyn, rhaid ystyried mai’r ysgol yw canolfan gymdeithasol Gymraeg y pentref. Nid yn unig fod Meithrin a gweithgareddau ffurfiol Cymraeg, ond hefyd bod hyd yn oed y rhieni di-Gymraeg yn tystio eu bod yn uniaethu â’r iaith trwy eu plant a’u teimlad o berchnogaeth dros yr ysgol fel sefydliad Cymraeg. Os caeir yr ysgol, y mae’r gymuned yn dirywio i fod yn gasgliad o dai, ac yn faestref.

  1. A OES GYDA NI OPSIWN AMGEN I’W GYNNIG

Oes. Trown at yr Adran o’r Ddogfen Ymgynghorol “Opsiynau Eraill a ystyriwyd”.
Cefnogwn yr opsiwn “Ffederasiwn -Ffederasiwn ffurfiol rhwng Ysgol Gynradd Mynyddygarreg ac Ysgol Gymraeg Gwenllian” OND FFEDERASIWN RHWNG YSGOL MYNYDD-Y-GARREG AC YSGOL GWENLLIAN MEWN ADEILAD NEWYDD A GYNIGIR.
Eto i gyd, gan fod ewyllys da rhwng llywodraethwyr y ddwy ysgol, sydd ar hyn o bryd yn cydweithio mewn ffederasiwn anffurfiol, nid oes raid aros nes bod proses sefydlu ffederasiwn ffurfiol cyn cyflwyno cais am adeilad newydd i Ysgol Gwenllian yn unol â’r prif fwriad. Tra bo’r cais yn cael ei ystyried, gellid symud yn syth at sefydlu Ffederasiwn ffurfiol rhwng Ysgol Gwenllian ac Ysgol Mynydd-y-Garreg gan resymoli adnoddau dysgu a materol a chostau gweinyddol ac arweinyddiaeth. Yn ol y Rheoliadau ar Ffedereiddio, ni raid ond cynnal ymgynghoriad mewnol ymhlith rhieni i sefydlu ffederasiwn cyfreithiol o’r fath gan fod y ddwy ysgol yn cadw eu hunaniaeth ond yn dod gytundeb cyfreithiol. Byddai’r ffederasiwn yn drefniant parhaol rhwng y ddwy ysgol ar y ddau safle. Gellir cyfiawnhau dal i wneud cais am ysgol o’r un faint i Ysgol Gwenllian gan mai 295 fyddai capasiti cyfan y ddwy ysgol – sydd ond ychydig dros 50% o’r capasiti arfaethedig ar gyfer Cydweli/Mynydd-y-Garreg at addysg gyfrwng-Cymraeg, sydd yn nod teg. Byddai’r opsiwn ddwy-ran hwn o FFEDERASIWN yn sicrhau’r MANTEISION CANLYNOL:

  • Adeilad newydd a phwrpasol i Ysgol Gwenllian, a’r cais yn cael ei gyflwyno’n gynt nag yn ôl amserlen y cynnig a ffefrir, a bydd y ffaith fod Ysgol Mynydd-y-Garreg yn defnyddio nifer o’r adnoddau yn cryfhau’r cais.

  • Fod Mynydd-y-Garreg yn cadw ei hysgol, yn ganolbwynt i fywyd cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol y pentref ond bod y profiadau addysgol a chymdeithasol yn ehangach i’r disgyblion, a’r gweinyddiaeth a’r arweinyddiaeth yn cael ei rhesymoli mewn datrysiad cynaliadwy amser-hir.

  • Mae hefyd yn ddatrysiad cost-effeithlon. Byddai’r grant safonol o £6000 i gefnogi manteision sefydlu a chynnal ffederasiwn ffurfiol yn cwrdd â gofynion cyllidol ychwanegol e.e. cludo nifer o ddisgyblion Mynydd-y-Garreg at safle newydd Ysgol Gwenllian am weithgareddau penodol sawl gwaith yr wythnos, gan fod y ddau safle’n agos at ei gilydd. Mewn ffederasiwn o’r fath, ni fyddai'n rhaid anelu at ddyblygu’r holl adnoddau ar safle Mynydd-y-Garreg, a byddai cost gymhedrol yn unig felly o uwchraddio’r adeilad at ddefnydd sylfaenol fel ysgol ar gyfer y dyfodol gweladwy.

  • Yn wir, y mae sefydlu ffederasiwn o’r fath yn gyson â blaenoraiaethau Sir Gâr a Llywodraeth Cymru, a defnydd Grant Ysgolion Bach a Gwledig y llywodraeth. Wrth gyfeirio at y grant, dywed adroddiad Cyngor Sir Caerfyrddin (18.12.20) “Cyllid Ysgolion” – “Federation has been shown to be practically beneficial in allowing small and rural achools to remain open and viable in their communities”.

  • Fod digonedd o lefydd mewn addysg gyfrwng-Cymraeg yn yr ardal, sydd ar gyrion Bae Abertawe, yn gydnaws ag amcanion corfforaethol y Cyngor.

Cytunwn felly â’r “Manteision” a roddir yn y ddogfen i’r opsiwn hwn, ond ni chredwn fod yr “anfanteision” yn gywir am y rhesymau canlynol –

  • “angen proses cyfreithiol” – Mae angen llawer llai o broses cyfreithiol nag sydd ynghlwm wrth yr ymgynghoriad hwn. Yn ôl y Rheoliadau, y cyfan y mae ei angen yw ymgynghoriad un tymor ar ddatganiad polisi syml a baratoir gan lywodraethwyr y ddwy ysgol a’i anfon at rieni. Byddai’r Cyngor Sir wedyn yn helpu i osod y cytundeb yn ei le (gan amlinellu er enghraifft pa gynrychiolwyr o’r ddwy gymuned ddylent fod ar y Bwrdd Llywodraethol) a chynghori ynghylch cynnal etholiad am Fwrdd Llywodraethol Ffederal ar gyfer y ddwy ysgol. Gan fod eisoes cydweithio parod rhwng y ddwy ysgol, gellid gwneud y cais yn gyntaf am yr adeilad newydd ac yna ffurfio cytundeb y ffederasiwn.

  • “Ni fydd yn mynd i'r afael â'r diffyg yn y gyllideb yn Ysgol Gynradd Mynyddygarreg.” – Datblygiad am resymau penodol dros gyfnod arbennig fu’r diffyg. Yn ôl ffigurau 2019/2020, mae diffyg yn cael ei chariot drosodd mewn llawer iawn o ysgolion cynradd y sir, yn cynnwys rhai o’r Ysgolion Ardal newydd a godwyd. Go brin fod diffyg fach iawn (llai na 5% o’r ddiffyg gyfan) yn rheswm dros gau ysgol ! Wrth i nifer disgyblion Mynydd-y-Garreg agosau at gapsiti gyda sicrwydd am ei dyfodol, bydd diffyg yn lleihau ac yn ffurfio cyfran fach iawn o daliadau blynyddol i wasanaethu dyled ar godi dwy ysgol newydd yn yr ardal. Rhaid i Mynydd-y-Garreg hefyd dderbyn rhyw fymryn o gyfraniad o fuddsoddiad yn yr ardal.

  • “Ni bydd yn delio gyda llefydd gwag ym Mynydd-y-Garreg”. Yn ôl ffigurau’r Cyngor, dim ond 13 lle gwag fydd yn yr ysgol fis Ionawr, sydd yn debygol o gael eu llenwi pan roddir sicrwydd am ddyfodol yr ysgol. Fel y dywedwyd eisoes, nid yw hyd yn oed nifer presennol y llefydd gwag yn bodloni criteria’r llywodraeth am ddiffyg arwyddocaol (25% a chyfanswm o 30 lle gwag). Bydd mwy o waith llenwi llefydd yn yr ysgol newydd o blith plant tref Cydweli, ond dyna union amcan y Cyngor Sir i gynyddu nifer y plant sydd mewn addysg gyfrwng Cymraeg, a gobeithir y bydd yr adeilad newydd a’r cynnydd mewn poblogaeth yn foddion i hyrwyddo hyn.

  • “Disgyblion yn dal i gael eu haddysgu mewn adeiladau cyflwr B/C. Nid yw'n darparu cyfleusterau modern addas i'r 21ain ganrif i ddisgyblion”. Mae’r “anfanteision” hyn yn seiliedig ar fod Ysgol Gwenllian yn aros yn yr adeilad presennol. Nid dyna a ffafriwn ni ac, am ryw reswm, ni wnaeth yr Awdurdod restru opsiwn ffederasiwn rhwng Ysgol Mynydd-y-Garreg ac Ysgol Gwenllian mewn adeilad newydd – dyna ffafriwn ni. Byddai’r opsiwn hwn felly YN darparu’r holl gyfleusterau ac adnoddau y cyfeirir atynt a’r cais yn cael ei gryfhau trwy eu bod yn cael eu defnyddio rhwng dwy ysgol. Mae’n wir wrth gwrs nad yw creu ffederasiwn ynddo’i hun yn gwella cyflwr adeilad, ond mae’n afresymegol crybwyll hynny fel anfantais i “ffederasiwn” gan y byddai’n ddadl generig yn erbyn creu unrhyw ffederasiwn yn unman. Nid yw’n dderbyniol fod yr adroddiad yn disgwyl i gynghorwyr gau Ysgol Mynydd-y-Garreg am byth ar sail datganiadau moel a chwbl annigonol fod yr adeilad “mewn cyflwr gwael” ac “ni ellid cyfiawnhau gwariant”. Er mwyn cyflwyno dadl o’r fath, rhaid fuasai i swyddogion gyflwyno arolwg o’r adeilad gyda dyfynbris am uwchraddio’r adeilad at safon derbyniol. Gan nad oes, mewn ffederasiwn, dyblygu holl adnoddau’r adeilad newydd at Ysgol Gwenllian (ac mae’r ffaith fod yr adnoddau at wasanaeth 2 ysgol mewn ffederasiwn yn cryfhau’r ddadl dros y buddsoddiad yna), gall cost uwchraddio adeilad Mynydd-y-Garreg at ddefnydd diogel fod yn gymhedrol iawn. Yn sicr y mae’n debyg o fod yn gyfran bach iawn o gost gwasanaethu dyled cyfraniad 35% y Cyngor Sir am yr adeiladau newydd yn y dref. (Ni roddir y costau yna chwaith, na chostau talu 50% am yr holl ddodrefn ac asedau eraill).

  • “Rheoli amser pennaeth dros ddwy ysgol / Angen ad-drefnu'r ddau gorff llywodraethol / Mwy o waith i lywodraethwyr yn y flwyddyn gyntaf o Ffedereiddio” – dyna unwaith eto ddadleuon generig yn erbyn creu ffederasiynau yn unman. Mae hyn y groes i bolisi llywodraeth genedlaethol a lleol ac yn symtomataidd o ymagwedd “cut & paste” at lunio rhestrau manteision ac anfanteision i opsiynau – yn lle trin sefyllfaoedd yn unol â’u hamgylchiadau eu hunain. O greu bwrdd llywodraethol ffederal, bydd mwy o gronfa o lywodraethwyr potensial i gyflawni’r gwaith, a gwneud y mwyaf o amser pennaeth a gweinyddydd yw un o brif bwyntiau creu ffederasiwn ym mhob man.

  • Wrth restru, ar y llaw arall, “manteision” honedig yr opsiwn a ffefrir o gau Ysgol Mynydd-y-Garreg a chrynhoi’r plant oll ar un safle, rhoddir y manteision generig crferbyniol sydd eto’n ddadl yn erbyn byth creu ffederasiwn.

AMSERLEN GWEITHREDU OPSIWN AMGEN

Gellir gweld fod gan yr opsiwn amgen amserlen gyflymach o ran gwireddu’r nod o sicrhau ysgol newydd yng Nghydweli a chryfhau’r ysgol a’r gymuned a’r iaith ym Mynydd-y-Garreg mewn ffederasiwn ffurfiol gyda’r Ysgol Gwenllian newydd.

  • EBRILL 2021 – Fod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yn mabwysiadu opsiwn amgen o fwrw ymlaen yn syth gyda chais am gyllid o gronfa Ysgolion yr 21ain ganrif, heb oedi pellach am dynged Ysgol Mynydd-y-Garreg a rhoi heibio bwriad i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg.

  • MAI 2021 – Cyflwyno cais am gyllid am adeilad newydd i Ysgol Gwenllian ar gyfer plant Cydweli, wedi mân ddiwygiadau yn y cais.

  • MEDI 2021 – Dechrau trafodaethau
    (a) gyda llywodraethwyr Ysgol Gwenllian a llywodraethwyr Ysgol Mynydd-y-Garreg am broses sefydlu ffederasiwn ffurfiol rhwng y ddwy ysgol, gan gynnwys y cyfansoddiad ac aelodaeth y Bwrdd Llywodraethwyr Ffederal.
    (b) gyda llywodraethwyr Ysgol Mynydd-y-Garreg am newid oedran disgyblion i 3-11 oed.

  • IONAWR 2022 –
    (a) Llywodraethwyr y ddwy ysgol yn cynnal ymgynghoriad mewnol ar greu ffederasiwn ffurfiol rhwng y ddwy ysgol
    (b) Y Cyngor Sir i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cryno am newid oedran ysgol Mynydd-y-Garreg i 3-11 oed i fod yn gyson ag ysgolion eraill y cylch eang.

  • MAWRTH 2022 – Llywodraethwyr y ddwy ysgol yn penderfynu ar ganlyniad yr ymgynghoriad mewnol ac yn penderfynu sefydlu ffederasiwn

  • EBRILL 2022 – Y Bwrdd Gweithredol i dderbyn adroddiad ar yr ymgynghoriad i newid oedran Ysgol Mynydd-y-Garreg, ac yn cyhoeddi Rhybudd mai dyna fydd yn drefn o Fedi ymlaen; ac yn cadarnhau penderfyniad llywodraethwyr y ddwy ysgol i greu ffederasiwn ffurfiol yn 2023

  • MEDI 2022 –
    (a) Ysgol Mynydd-y-Garreg yn derbyn disgyblion o 3 oed i fyny.

  • (b) Ethol Bwrdd Llywodraethwyr Ffederal cysgodol i gynnal cyfarfod unwaith y tymor eleni, ochr yn ochr â Byrddau Llywodraethwyr y ddwy ysgol unigol.

  • MEDI 2023 – Cychwyn y Ffederasiwn Ffurfiol dan un Bwrdd Llywodraethol i reoli’r ddwy ysgol. Sefydlu Pwyllgor Cyswllt Staff a Rhieni (cryfhau cylch gwaith y PTAs presennol) y ddwy ysgol unigol.

CASGLIADAU A CHRYNODEB –“NA” i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg,”IE” i Ffederasiwn

Mae pawb yn gytûn fod angen adeilad newydd i Ysgol Gymraeg Gwenllian yng Nghydweli. O symud ymlaen yn syth i wneud y cais, bydd yn dal yn llai o faint ac yn hwyrach na’r datblygiad cyfatebol ar gyfer yr ysgol gyfrwng-Saesneg. Ymgynghorwyd am y ddau ddatblygiad ar gyfer tref Cydweli yn niwedd 2018. Aethpwyd ymlaen â’r datblygiad ar gyfer ysgol Saesneg, ond mae’r datblygiad ar gyfer Ysgol Gymraeg Gwenllian wedi ei hoedi oherwydd yr ymgais hwyr i dynnu Ysgol Mynydd-y-Garreg i’r broses a chynnig ei chau fel rhan o gytundeb datblygiad Ysgol Gwenllian, ar ben unrhyw faterion o ran caffael tir. Mae’r Gweinidog Addysg wedi datgan nad oes raid cau ysgolion er mwyn denu cyllid, ac mae cyflwyno’r cymhlethdod hwn yn oedi’r cais – yn union fel a ddigwyddodd yn Ynys Môn wrth geisio cau Ysgol Bodffordd fel rhan o gais am adeilad newydd i ysgol yn Llangefni. Collwyd dwy flynedd o amser.

Yn hytrach dylid cefnogi’r opsiwn amgen o fynd ymlaen YN SYTH gyda’r cais am gyllid ar gyfer Ysgol Gwenllian a ffurfio Ffederasiwn ffurfiol rhwng Ysgol Gwenllian ac Ysgol Mynydd-y-Garreg er mwyn manteisio yn addysgol, cymdeithasol ac ariannol o rannu adnoddau a sgiliau, profiadau ehangach i ddisgyblion a rhesymoli gweinyddiaeth ac arweinyddiaeth – tra’n cadw Ysgol Mynydd-y-Garreg yn ganolfan addysgol a chymdeithasol yn y pentre.

Petai Ysgol Mynydd-y-Garreg yn cael ei chau, lleiafrif fyddai nifer y llefydd ar gyfer addysg gyfrwng-Cymraeg yn yr holl ardal. Byddai hefyd perygl o golli rhai o’r 42 o ddisgyblion o Fynydd-y-Garreg i addysg Gymraeg. Petaen nhw’n colli eu hysgol, gallai rhieni, nawr neu yn y dyfodol, anfon eu plant at addysg gyfrwng-Saesneg. A byddai’r gymuned yn colli ei ffocws cymdeithasol Cymraeg.

PAM FELLY Y BYDDAI UNRHYW UN YN CYNNIG CAU YSGOL MYNYDD-Y-GARREG ?

  • “Does dim llawer o blant yn mynd i’r ysgol” – Honnir mai dim ond 24 o’r 114 o blant sydd yn nalgylch Mynydd-y-Garreg sy’n mynd at yr ysgol. Ond mae’r dalgylch swyddogol ar fap yn eang, yn cyffwrdd â phentre Pontiets i un cyfeiriad a thre Cydweli i gyfeiriad arall, ac yn cynnwys plant sy’n byw yn nes at ysgolion eraill. Mae hefyd yn cynnwys plant 3 oed nad yw’r Cyngor yn fodlon iddynt fynd at yr ysgol leol, ac yn cynnwys plant sydd wedi symud ar ôl cychwyn addysg mewn ysgol arall. Mae 114 yn ffigur amherthnasol braidd gan mai 55 yw holl gapasiti’r ysgol ! Erbyn Ionawr nesaf, bydd 42 yn yr ysgol. Os bydd y Cyngor yn caniatau i blant 3 oed ddod i Fynydd-y-Garreg fel ysgolion eraill, ac os bydd yn rhoi sicrwydd am ei dyfodol, dylai fod capasiti llawn o 55 yno.

  • “Mae ysgolion bach yn ddrud” – Fis Ionawr nesaf, y gost fesul disgybl yn Ysgol Mynydd-y-Garreg fydd £4095 – sydd ond 4% yn fwy na chyfartaledd holl ysgolion cynradd y sir o £3,928 (2020/21). Wrth gwrs fod unrhyw wasanaeth cyhoeddus mewn pentre yn ddrutach nag mewn tre boblog, ond mae llai o wasanaethau mewn pentrefi, ac felly mae’r gwariant cyfan y pen yn llai nag mewn trefi.

  • “Dyw ysgolion pentre ddim yn gallu cynnig yr un safon addysg” – Y siroedd yng Nghymru â’r cyfartaledd mwya o ysgolion bach sydd fel arfer â’r safonau uchaf. Ond gwrandewch ar eiriau’r Cyngor Sir ei hun am safon yr addysg yn Ysgol Mynydd-y-Garreg “Mae bron pob disgybl yn gwneud cynnydd pwrpasol. …. Mae'r cyfarfodydd rhieni yn cynnwys rhannu strategaethau'r ysgol i wella sgiliau darllen … Mae'r gwaith monitro gan staff yn bwrpasol ac yn unol â chynllun datblygu'r ysgol … Mae'r ysgol wedi gweithredu strategaethau'n llwyddiannus i gynyddu proffil y Gymraeg … Mae'r ysgol yn gweithredu fel cymuned hapus a gofalgar.” Darlun o ysgol sy’n llwyddo.

  • “Ond er tegwch i’r plant, rhaid cael adeilad modern a gadael yr hen adeiladau” – Mae angen hefyd gefnogaeth rhieni a chymuned fel sydd ym Mynydd-y-Garreg. Mae modd cael y gorau o’r ddau fyd trwy fod yr ysgol yn mynd i ffederasiwn ffurfiol gydag Ysgol Gwenllian yn ei hadeilad newydd yng Nghydweli a chadw’r ysgol a’r ganolfan Gymraeg yn y pentre gan rannu adnoddau newydd yn Ysgol Gwenllian i gynnig profiadau ehangach i’r plant a rhesymoli costau gweinyddol. Mae grant ar gael i gwrdd ag unrhyw gostau canlynol oherwydd y gwerth addysgol.

  • “Diwedd y gân yw’r geiniog”! – Wedi derbyn pob dadl arall, bydd pobl bob amser yn dychwelyd at “broblem” ariannol o ran cynnal ysgol bentre. Dywed y Cyngor “Mae’r adeilad mewn cyflwr gwael – ni ellir cyfiawnhau gwario arno”. Ac eto nid yw’r Cyngor wedi gwneud arolwg i amcangyfri’r gost, a fyddai’n gyfran bach iawn o gost gwasanaethu dyled cyfran 35% y Cyngor Sir o’r £13miliwn+ am y datblygiadau yn nhre Cydweli. Does dim angen dyblygu’r holl adnoddau fydd yn Ysgol Gwenllian mewn ffederasiwn, ac mae’n anhebyg y byddai angen buddsoddiad mawr iawn i sicrhau fod yr adeilad yn iawn i’r dyfodol gweladwy. Yr un fath o ran unrhyw ddiffyg ddiweddar mewn cyllideb. Mae llawer iawn o ysgolion cynradd yn sir yn cario diffyg yn eu cyllideb, ac mae dyled Mynydd-y-Garreg yn gymharol fach. Byddai sicrhau’r 13 disgybl ychwanegol yn yr ysgol, wedi derbyn sicrwydd am y dyfodol, yn datrys hyn. Ni sefydlwyd unrhyw reswm dilys ar sail cost i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg.

Beth felly yw’r gwir reswm dros gynnig cau Ysgol Mynydd-y-Garreg ?

Bu camargraff funud olaf fod yn rhaid cynnig cau’r ysgol er mwyn sicrhau’r grant at Ysgol Gwenllian. Mae’r Gweinidog Addysg yn gwadu nad oes raid cau ysgol i dderbyn cyllid. I’r gwrthwyneb – trwy gysylltu’r cais gyda chynnig i gau ysgol, mae amser yn cael ei wastraffu o ran cyflwyno a phrosesu’r cais. Mae angen cefnogi a gweithio gyda phobl y Mynydd, ac hefyd wneud y cais yn syth dros Ysgol Gwenllian a sefydlu ffederasiwn ffurfiol rhyngddynt. Mae cau ysgol sy’n tyfu ac yn llwyddo’n addysgol, risgio colli plant i addysg Gymraeg, ac amddifadu cymuned a’u hysgol a’u canolfan yn gam difrifol iawn. Ni roddwyd ffeithiau nac achos sicr dros gymryd cam o’r fath. Mae digon o bryder wedi ei achosi i blant, rhieni a llywodraethwyr Ysgol Mynydd-y-Garreg ar adeg mor anffodus. Mae angen i Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin roi iddynt yn awr y sicrwydd y maent yn ei grefu am y dyfodol.

CWESTIWN 4 – Byddem, hoffem gael gwybod am ddatblygiadau yn y broses ymgynghorol

CWESTIWN 5 – Mae’r ymateb hwn ar ran Cymdeithas yr Iaith, Rhanbarth Caerfyrddin 1.2.21 – Anfonwyd gan Ffred Ffransis - ffred@cadwyn.com