142,000 o bobl ifanc ar eu colled oherwydd “degawd o lusgo traed” ar ddiddymu Cymraeg ail iaith

Ddeng mlynedd ers cyhoeddi adroddiad ‘Un Iaith i Bawb’, a oedd yn argymell dileu Cymraeg ail iaith a chreu un llwybr dysgu Cymraeg yn ei le, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo’r Llywodraeth o ddiffyg gweithredu sy’n golygu bod mwyafrif disgyblion Cymru yn dal i adael yr ysgol heb y gallu i siarad Cymraeg.

Cafodd grŵp annibynol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies, ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ddarpariaeth Cymraeg Ail Iaith. Roedd yr argymhellion yn cynnwys cael gwared ar y rhaniad rhwng Cymraeg iaith gyntaf a Chymraeg ail iaith gan sefydlu un continwwm o ddysgu Cymraeg i bob disgybl, a gosod targedau ar gyfer darparu mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Er gwaethaf hynny, ddegawd yn ddiweddarach, mae’r cymhwyster yn parhau, a miloedd o blant yn sefyll arholiadau Cymraeg ail iaith bob blwyddyn. Yn ôl ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith, mae 142,351 o blant wedi cael gradd TGAU Cymraeg Ail Iaith yn y cyfnod ers cyhoeddi’r adroddiad, ac o ganlyniad wedi’u hamddifadu o’r cyfle i ddysgu Cymraeg yn hyderus. Dim ond 49,657 gafodd radd TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf yn yr un cyfnod. 

Dywedodd Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

“Mae degawd o lusgo traed gan y Llywodraeth yn golygu bod cenhedlaeth arall o bobl ifanc wedi cael eu hamddifadu o’r Gymraeg. Ddeng mlynedd yn ôl, casglodd adroddiad a gomisynwyd gan y Llywodraeth ei hun “ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith”, ac er gwaetha’r ymrwymiadau a’r rhethreg rydyn ni wedi gweld ers hynny, does dim cynnydd go iawn wedi’i wneud i ddileu Cymraeg ail iaith a sefydlu un llwybr dysgu ac un cymhwyster i bawb. 

“Er gwaetha’r ymdrechion i’w hail-frandio, mae’r cwricwlwm a’r cymwysterau newydd yn cadw’r rhaniad rhwng Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith, sy’n rhoi nenfwd artiffisial ar gyrhaeddiad 80% o’n pobl ifanc ac yn mynd yn groes i’r egwyddor sydd wedi’i derbyn o un continwwm dysgu ac asesu, a’r un cyfle i bawb.”

“Mae pob un o’r 142,000 o bobl ifanc hynny’n cynrychioli unigolyn a fyddai wedi gallu datblygu’r gallu i gyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg, a phrofi’r holl gyfleoedd sy’n dod gyda hynny. Mae’n destun gwarth bod difaterwch ein Llywodraeth ac asiantaethau addysg wedi methu’r bobl ifanc hynny. Nawr, rhaid defnyddio’r cyfle sy’n dod gyda’r Bil Addysg Gymraeg newydd i sicrhau y bydd pob plentyn yn tyfu lan i siarad yr iaith sy’n perthyn iddynt.” 

Mae’r Athro Sioned Davies, awdur yr adroddiad gwreiddiol, hefyd wedi mynegi ei rhwystredigaeth gyda diffyg gweithredu’r Llywodraeth:

"Os oedd sefyllfa Cymraeg Ail Iaith yn ddifrifol ddeng mlynedd yn ôl, mae'n enbydus erbyn hyn. Mae mwyafrif llethol y disgyblion hynny sydd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn dal i adael yr ysgol heb allu cynnal sgwrs yn y Gymraeg, ac mae'r niferoedd sy'n mynd ymlaen i wneud Safon Uwch neu radd yn y Gymraeg wedi gweld gostyngiad trychinebus. Os ydym o ddifri yn ein huchelgais i weld y Gymraeg yn perthyn i bawb, rhaid i'r Llywodraeth weithredu ar fyrder. Mae hynny'n cynnwys chwyldro o ran buddsoddi a chynllunio'r gweithlu fel bod cyflenwad digonol o athrawon a staff eraill ar gael i sicrhau bod pob un plentyn yn y dyfodol yn dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus."

Nod Cymdeithas yr Iaith yw sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn hyderus eu Cymraeg, ac mae’n ymgyrchu ar hyn o bryd dros Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb fyddai’n sicrhau, dros amser, bod pob plentyn yn y wlad yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae'r ffigyrau fesul blwyddyn i'w gweld yma