Er gwaetha'r tywydd fe wnaeth torf o dros 1500 o bobl yn rali Nid yw Cymru ar Werth heddiw ymrwymo i ddyfodol ein cymunedau lleol a danfon neges glir at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, bod angen Deddf Eiddo sydd yn rheoleiddio'r farchnad.
Yn ôl Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r Llywodraeth wedi addo Papur Gwyn Deddf Eiddo cyn diwedd tymor y Senedd yma, ond does dim sôn amdano na'r cynnwys. Er bod y Llywodraeth wedi cyflwyno rhai mesurau cyfyngedig i leihau effaith ail dai a llety gwyliau dydyn nhw ddim wedi mynd at wraidd y broblem - a dydyn nhw ddim yn ei drafod.
"Rydyn ni'n galw am Ddeddf Eiddo ers diwedd y 70'au, mae'r angen yn fwy nag erioed, a chyfle nawr i sortio'r broblem, unwaith ac am byth - trwy Ddeddf Eiddo fydd yn rheoleiddio'r farchnad."
Ychwnaegodd llefarydd ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith:
"Roedd ein rali ni heddiw yn wrthgyferbyniad llwyr i'r dathlu braint a chyfoeth oedd yn Llundain dros y penwythnos. Yn yr un modd mae gofyn i bawb ymrwymo i ddyfodol eu cymunedau yn wrthgyferbyniad â'r cais i bobl dyngu llw i berson anetholedig.
"Rydyn ni'n falch bod pawb ddaeth i'r rali heddiw wedi troi allan - ond mae'n bwysig bod y Gweinidog ei hun yn clywed felly gofynnwn i bobl ar draws Cymru ymrwymo i ddyfodol ein cymunedau a danfon neges glir at Julie James, y Gweinidog Hinsawdd, bod angen Deddf Eiddo gyflawn erbyn diwedd tymor y Senedd yma."
Pwysywch yma i weld lluniau o'r rali
Gallwch chithau ymrwymo i ddyfodol ein cymunedau trwy ddanfon y neges yma at gohebiaeth.Julie.James@llyw.cymru:
Datganaf fy ymrwymiad i ddyfodol ein cymunedau lleol.
Galwaf ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo i reoli'r farchnad dai i sicrhau eu dyfodol