Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eisiau diolch i'r Aelodau Cynulliad a bleidleisiodd dros hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg. Pleidleisiodd 16 o blaid, 32 yn erbyn a dim yn ymatal.Roedd hawliau wedi ei addo yng nghytundeb Cymru'n Un. Dywedodd Catrin Dafydd, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Llongyfarchiadau i'r sawl a bleidleisiodd o blaid hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg ac i Jenny Randerson o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Paul Davies o'r Blaid Geidwadol am symud y gwelliant. Mae'r consensws am hawliau ymhlith y pleidiau hyn yn sail i adeiladu arno yn y dyfodol.""Am y tro cyntaf yn hanes ein gwlad, mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Rydym ni'n croesawu hyn a dylai fod yn destun balchder i'r genedl. Serch hynny, nid dyma'r mesur rydym wedi ymgyrchu amdani oherwydd nid yw'n mynd i'r afael â'n prif bryderon am sefyllfa'r iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw. Mae egwyddor graidd yn parhau i fod ar goll yn y mesur. Nid yw'r llywodraeth wedi sicrhau hawliau yn unol â'i haddewid. Mae gormod o amser wedi ei wastraffu yn trafod am statws yr oedd cymaint o gonsensws amdano'n barod, yn lle meddwl am ddeddfwriaeth blaengar i Gymru.""Y cam synhwyrol nesaf yw i fynd i'r afael â'r berthynas ymarferol rhwng bobl Cymru â'r Gymraeg. Mae'r mesur hwn yn grymuso swyddogion, ond nid yw'n grymuso dinasyddion yn yr un modd, a bydd diffygion y mesur yn siwr o ddangos hynny yn y dyfodol. Mae hefyd yn fesur hynod gymhleth ac mae pryder gwirioneddol gennym ynghylch sut y bydd modd ei weithredu er lles y Gymraeg a phobl Cymru. Mae'r gyd-berthynas rhwng statws a hawliau yn ddiymwad, ac mae'r grym y byddai gan hawliau i sicrhau fod y safonau'n gweithio'n effeithiol yn ddiymwad yn ogystal. Fel y saif y mesur ar hyn o bryd, does dim egwyddor yn gyrru'r safonau. Hawliau yw'r unig beth fyddai'n ymrymuso pobl ac yn newid hyn. Ein bwriad fel ymgyrchwyr yw galw am ddeddfwriaeth newydd yn y Cynulliad nesaf a fydd yn grymuso dinasyddion drwy sicrhau hawliau i bobl weld, clywed, dysgu a defnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau, ledled Cymru."