Disgwylir i Owen John Thomas, yr Aelod Cynulliad a llefarydd Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw i gefnogi pedair aelod o Gymdeithas yr Iaith sydd o flaen eu gwell am gymryd rhan yn ymgyrch dor-cyfraith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd.
Y pedair fydd yn ymddangos gerbron ynadon Caerdydd bore heddiw am 10.30 yw, Lowri Larsen o Gaernarfon, Menna Machreth o Landdarog Sir Gaerfyrddin, Lois Barrar o Nelson a Gwenno Teifi o Lanfihangel ar Arth.Hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o achosion llys sy’n digwydd oherwydd i aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gael eu harestio am beintio sloganau yn galw am Ddeddf Iaith ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad. Hyd yn hyn mae pedwar ar ddeg o aelodau wedi cael eu harestio i gyd ac mae’r ymgyrch yn parhau.Dywedodd Catrin Dafydd arweinydd ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas:“Dyma’r gyntaf mewn cyfres o achosion llys mae aelodau’r Gymdeithas yn eu hwynebu. Bydd nifer o bobl adnabyddus yng Nghymru yn mynychu’r achosion er mwyn cynnig gair o gefnogaeth i’r ymgyrchwyr. Mae’r achosion yn crisialu difrifoldeb y sefyllfa ac yn rhoi mwy o bwys ar yr angen am Ddeddfwriaeth gadarnach. Bydd yr ymgyrchu yn parhau hyd nes y bydd Rhodri Morgan a’i lywodraeth yn trafod yr angen am Ddeddf Iaith.”“Nid Cymdeithas yr Iaith yn unig sy’n galw am ddeddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg. Bellach mae yna gonsensws ymhlith arbennigwyr iaith a gwleidyddion o bob plaid. Mae’n arferol ail-edrych ar ddeddfwriaeth gymdeithasol bob deng mlynedd. Pam nad yw llywodraeth lafur y Cynulliad yn cydnabod hyn?”“Mae’r achosion llys heddiw yn crisialu argyfwng y sefyllfa gyfredol. Mae hefyd yn pwysleisio’r croesdyniadau yn stori Rhodri Morgan ym mherthynas Deddf yr Iaith 1993. Yn 1993, pendrefynodd beidio pledleisio dros y Ddeddf ond erbyn heddiw, mae’r ddeddf yn dderbyniol. Mae’r achosion a’r gyfres sy’n dilyn yn arwydd o ddiffyg cysondeb Rhodri Morgan a’i lywodraeth a’i difaterwch tuag at y Gymraeg.”