Addysg ôl-16: Cam pwysig, ond ble mae'r arian?

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gyhoeddiad cynllun addysg ôl-16 heddiw drwy ofyn ble mae’r cyllid y tu ôl i'r cynllun. Mae hefyd yn galw’n benodol am glustnodi £10 miliwn ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg eleni. 

Meddai Toni Schiavone, Is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: 

Mae methiant i ddarparu addysg cyfrwng-Cymraeg wedi 16 oed yn broblem enfawr sydd wir angen ei thaclo. Yn hynny o beth, rydyn ni wedi croesawu’n fawr y penderfyniad i ymestyn cyfrifoldebau’r Coleg Cymraeg i'r sector ôl-16. Mae rhannu cynnwys addysg yn 'addysg uwch', 'addysg bellach' a 'phrentisiaethau' yn gynnyrch y system ddosbarth Brydeinig. Trwy eu cyfuno dan gyfrifoldeb y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae potensial cyffrous newydd i greu cyrsiau gwreiddiol Cymraeg fydd yn paratoi ein pobl ifainc at fywyd yn y Gymru fodern. Gall Cymru arwain y ffordd mewn addysg, a gall y sector cyfrwng-Cymraeg arwain y ffordd tu fewn i Gymru.” 

Ychwanegodd: “Ond gall diffyg adnoddau rwystro'r potensial hwn. Yr enghraifft waethaf o hyn yw'r diffyg buddsoddiad sydd wedi bod mewn prentisiaethau Cymraeg. Er mwyn llwyddo yn y dasg fawr sydd o’u blaenau, mae angen adnoddau digonol i gyflawni’r nod. Un enghraifft o’r angen am newid brys yw’r gwariant blynyddol enfawr ar brentisiaethau, sy’n wariant ar ddarpariaeth Saesneg yn unig bron â bod. Dyna pam rydyn ni’n galw ar i'r Llywodraeth glustnodi £10 miliwn o’r gyllideb honno’r flwyddyn nesaf.” 

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £111.5 miliwn y flwyddyn nesaf ar eu rhaglen prentisiaethau. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Weinidogion i glustnodi £10 miliwn o’r gyllideb honno ar gyfer prentisiaethau cyfrwng-Cymraeg ar unwaith, gan gynyddu hynny i £20 miliwn y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, dim ond 0.3% o brentisiaethau sy’n cael eu cynnal drwy’r Gymraeg ar hyn o bryd.