Adferwch Aled Roberts ac ymddiheurwch

aled-roberts-demrhydd.jpg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i Aelodau Cynulliad adfer Aled Roberts fel Aelod Cynulliad yn dilyn y camwahaniaethu ieithyddol yn ei erbyn.

Mae'r mudiad iaith nawr yn gofyn am ymddiheuriad ffurfiol gan y Llywydd a'r Comisiwn Etholiadol am y driniaeth a gafodd ac yr oedi rhag datrys y sefyllfa.

Fe gafodd Mr Roberts wybodaeth wallus wrth wneud ei gais i fod yn ymgeisydd am iddo wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Unwaith oedd y Comisiwn Etholiadol a'r Llywydd yn ymwybodol o'r gam a dderbyniodd Aled Roberts, fe ddylai wedi cael ei adfer fel Aelod Cynulliad. Mae'n warthus ei fod e wedi ei ddiarddel am wythnosau ac o dan ymchwiliad Heddlu am ei fod wedi defnyddio'r Gymraeg."

"Mae hyn yn rhagfarn sefydliadol yn erbyn yr iaith Gymraeg. Mae'n enghraifft arall o'r dwyieithrwydd tocenistaidd a ddefnyddir gan gyrff cyhoeddus er mwyn ticio blychau yn eu cynlluniai iaith."

"Mae gormod o gyrff cyhoeddus yn sichrau bod eu dogfennau a gwefannau Saesneg yn gywir, gan gynnwys y Cynulliad a'r Comisiwn Etholiadol, a chyfieithu i'r Gymraeg pan fod amser gyda nhw yn unig. I ddangos bod ein corff democrataidd o ddifri am y Gymraeg dylai Aled Roberts gael ei ail-sefydlu fel AC yn syth."

"Mae ymddygiad y Comisiwn Etholiadol ynghylch y Gymraeg wedi bod yn warthus yn yr achos hwn. Maen nhw wedi trin darparu gwybodaeth yn y Gymraeg mewn ffordd eilradd, Pe byddai Aled Roberts yn cael ei ddiarddel oherwydd ei ddefnydd o'r Gymraeg, byddai'n un o'r achosion camwahaniaethu ieithyddol gwaethaf yn hanes Cymru."

"Rydyn ni fel Cymdeithas wedi tynnu sylw at y ffaith fod y Cynulliad yn symud oddi wrth fod yn gorff Cymraeg gyda llai o Gymraeg yn cael ei glywed yn y siambr. Nid yw'r Cofnod ar gael yn gwbl ddwyieithog bellach. Dydy pethau fel hyn ddim yn helpu'r sefyllfa nac yn annog defnydd o'r Gymraeg."