Mewn cinio-gyfarfod rhwng Cymdeithas yr Iaith a dirprwyaeth o Weithgor Gorffen a Gorchwyl Cyngor Sir Gaerfyrddin i'r Gymraeg yn y sir cyhoeddwyd y bydd adroddiad y gweithgor yn mynd gerbron Bwrdd Gweithredol y Cyngor ar Ddydd Llun 31ain o Fawrth a bod cefnogaeth unfrydol gan aelodau o bob plaid ar y gweithgor i'r argymhellion.
Meddai Sioned Elin, cadeirydd Cymdeithas yr iaith yng Nghaerfyrddin "Gyda newyddion am ddyfodiad S4C hefyd, gall heddiw fod yn ddiwrnod mawr i Sir Gaerfyrddin"
Roedd dwy sedd wag wrth fwrdd cinio a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith i ddathlu pen-blwydd arbennig yn Sir Gaerfyrddin heddiw. Trefnodd y Gymdeithas fwrdd cinio yng Ngwesty'r "Mountain Gate" Tycroes ger Rhydaman, flwyddyn i'r diwrnod wedi i gynhadledd gael ei chynnal yn y lleoliad i drafod yr argyfwng sy'n wynebu'r iaith Gymraeg yn ôl canlyniadau'r Cyfrifiad.
Mynychwyd y gynhadledd flwyddyn yn ôl gan swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin a bu anerchiad gan Leighton Andrews ar ran Llywodraeth Cymru. Eglurodd Bethan Williams, Swyddog Maes Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth
"Roedd pawb am gael eu gweld yn ymateb i'r argyfwng. Sefydlodd y Cyngor Sir weithgor i lunio strategaeth iaith newydd, a chyhoeddodd y llywodraeth (heb drafod gyda'r cyngor lleol, mae'n debyg) ei bod hi am sefydlu "comisiwn" i ystyried dyfodol y Gymraeg yn y sir. Mae gweithgor y Cyngor Sir wedi bod yn gwneud gwaith manwl gan gymryd tystiolaeth gan lu o fudiadau gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, ond hyd y gwyddom mae “comisiwn” y llywodraeth wedi marw ar ei draed.”
"Rydyn ni felly wedi gwahodd cynrychiolwyr o'r Cyngor a'r llywodraeth i ginio pen-blwydd heddiw yn union yr un lleoliad er mwyn gweld beth sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae cadeirydd gweithgor y Cyngor Sir (Cyng Cefin Campbell) a'r is-gadeirydd (Cyng Calum Higgins) wedi derbyn ein gwahoddiad i ddod i ginio. Gwahoddwyd hefyd y ddau weinidog sydd wedi etifeddu cyfrifoldebau Leighton Andrews yn y llywodraeth ganolog - sef Huw Lewis (addysg) a Carwyn Jones ei hun (sydd wedi cymryd cyfrifoldeb personol am y portffolio iaith) ond maen nhw wedi dweud na fyddant yn bresennol i esbonio pa ddatblygiadau sydd wedi bod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bydd eu seddau nhw wrth y bwrdd yn wag. Efallai eu bod yn defnyddio pob munud o'r pythefnos nesaf yn ceisio meddwl am bolisi iaith i'w gyhoeddi pan fydd Carwyn Jones yn gwneud ei ddatganiad i'r senedd ar y 25ain o Fawrth."
Cred y Gymdeithas fod sefyllfa'r Gymraeg yn union ardal y gynhadledd yn enghraifft o'r angen am strategaeth iaith flaengar newydd. Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis:
"Mae Ysgol Gynradd Tycroes yn Saesneg ei chyfrwng, ac israddwyd ysgol gyfagos Saron o fod yn ysgol Gymraeg ei chyfrwng i fod yn ysgol "drosiannol" gyda llai o ddefnydd o'r Gymraeg. Ar ben hyn, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer stad enfawr o dai newydd ym Mhenybanc, dim ond milltir o leoliad y gynhadledd, ac mae perygl gweddnewid natur y cymunedau Cymraeg hyn i fod yn ardaloedd i gymudwyr yn unig. Mae'n eironig iawn fod ardal y gynhadledd iaith yn dangos ei hun yr angen am strategaeth iaith flaengar newydd."
"Does dim arwydd fod y llywodraeth yn cymryd yr argyfwng o ddifri, ond yr ydym yn obeithiol y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi arweiniad trwy fabwysiadu polisi blaengar newydd o ganlyniad i waith eu gweithgor. Yr ydym mor hyderus fel bod y Gymdeithas eisoes wedi trefnu Parti Mawr ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol (2pm Gwener 8ed o Awst) yn Llanelli i ddathlu cyfnod newydd i'r Gymraeg yn Sir Gâr. Bydd llygaid Cymru gyfan ar Sir Gâr yn y Steddfod eleni, a rydyn ni'n obeithiol y bydd Caerfyrddin yn cynnig arweiniad i Gymru gyfan."
Lluniau - http://cymdeithas.org/lluniau/dwy-sedd-wag-wrth-fwrdd-cinio-cymdeithas-y...