Yn ôl ymgyrchwyr iaith, mae angen datganoli darlledu er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg yn y cyfryngau wedi i adroddiad gael ei gyhoeddi gan bwyllgor yn San Steffan heddiw (Dydd Iau 16eg Mehefin).
Dywedodd Curon Wyn Davies, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n falch bod yr adroddiad yn tynnu sylw at ansicrwydd ariannol S4C, ac yn derbyn nifer o'n dadleuon ni. Gwnaed addewid clir ym maniffesto'r Ceidwadwyr i beidio â thorri ei chyllideb yn ystod tymor y Llywodraeth hon, felly nawr yw'r amser i drafod sut i fuddsoddi'n bellach yn ein hunig sianel Gymraeg. Mae'n braf gweld bod y pwyllgor yn gweld yr angen i ehangu cylch gwaith y darlledwr i'r maes digidol. Fodd bynnag, yn y pen draw, mae angen datganoli darlledu i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â fformiwla ariannol statudol i S4C er mwyn sicrhau cyfundrefn darlledu sy'n llesol i'r iaith a'n holl gymunedau."