Adroddiad Estyn: “Peidiwch ag ymyrryd â democratiaeth" medd Cymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio'r corff arolygu addysg ESTYN am "geisio gosod agenda gwleidyddol" trwy annog awdurdodau lleol i ad-drefnu a chau ysgolion mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis:

"Dim ond ychydig o ddyddiau sydd ers yr etholiadau lleol, ac mae'r corff anetholedig ESTYN eisoes wedi ceisio gosod yr agenda gwleidyddol trwy ddweud wrth awdurdodau lleol fod yn rhaid cau ysgolion i gael gwared a lleoedd gwag. Dyma ran o batrwm cyfoes o gyrff anetholedig yn tanseilio democratiaeth gan honni o hyd "Nad oes dewis". Gwelwn Fanciau Canolog a'r IMF yn mynnu fod llywodraethau ledled y byd yn taflu pobl allan o waith a chwtogi ar wasanaethau er mwyn ad-dalu dyledion bancwyr gan nad oes dewis. Yng Nghymru, dyma ESTYN yn mynnu fod yn rhaid tanseilio cymunedau Cymraeg a dad-sefydlogi addysg y plant ifancaf er mwyn talu'r pris.”

Ychwanegodd Mr Ffransis fod ymchwil a gomisiynwyd 18 mis yn ôl gan HYB wedi dangos na fyddai cau pob un ysgol sydd â llai na 90 o blant ond yn arbed 2% o'r gyllideb addysg lai costau ad-drefnu. Esboniodd:
 

"Dylai'n hawdurdodau lleol newydd weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau lleol i ateb y problemau. Mewn ardal wledig, gall olygu cyflwyno ystod eang o wasanaethau cyhoeddus o'r ysgol leol a dad-gomisiynu gofod dros ben at bwrpasau eraill. Mewn ardaloedd eraill, gallai ysgolion trefol Cymraeg ffederaleiddio ag ysgolion pentrefol Cymraeg cyfagos i ddarganfod capsiti ychwanegol dros dro. Bydd datrysiad gwahanol ym mhob ardal a chyfrifoldeb cynghorwyr yw gweithio gyda'r bobl a'u hetholodd, nid dilyn yn wasaidd gorchmynion ESTYN."

"Fodd bynnag rydyn ni'n cefnogi datganiad ESTYN nad yw awdurdodau lleol wedi ymchwilio i effaith ariannol ac addysgol ad-drefnu yn gorffennol. Hollol anghyfrifol yw parhau i gau ysgolion heb ymchwil o'r fath"