Grwp ymbarél yn galw ar i'r darlledwyr i dynnu allan o'u trafodaethauMae grwp ymbarél o undebau a mudiadau iaith wedi galw ar i'r BBC a S4C tynnu allan o'u trafodaethau am ddyfodol darlledu Cymraeg yn dilyn adroddiad hynod o feirniadol grwp trawsbleidiol ASau heddiw.Yn ol adroddiad pwyllgor diwylliant Ty'r Cyffredin, mae cynlluniau'r Llywodraeth 'yn swnio mwy fel [y BBC yn] cymryd trosodd na phartneriaeth'. Mae gr?p ymbarél, sy'n cynnwys BECTU, undeb newyddiadurwyr y NUJ, Undeb yr Ysgrifenwyr, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Undeb y Cerddorion, yn gwrthwynebu cynlluniau'r Llywodraeth i dorri grant S4C o 94% ac uno'r sianel â'r BBC.Mewn llythyr agored maent wedi galw ar i'r Llywodraeth, S4C a'r BBC ddod ar eu trafodaethau i ben. Dywed y llythyr:"Mae'n amser i ddiddymu'r cynlluniau annoeth i S4C sydd wedi cael ei beirniadu gan arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, y Pwyllgor Materion Cymreig, degau o undebau a mudiadau iaith, degau o filoedd o bobl sydd wedi llofnodi deiseb, mynychu ralïau ac ysgrifennu at wleidyddion a nawr pwyllgor diwylliant Ty'r Cyffredin. Mae'n amlwg erbyn hyn eich bod chi fel sefydliadau cyhoeddus wedi cael eich ynysu'n wleidyddol, mae eich holl drafodaethau nawr mewn stad o argyfwng - dydyn nhw ddim yn ddilys yng ngolwg y cyhoedd.""Am ba mor hir ydych chi'n bwriadu parhau i anwybyddu barn yr holl bobl a grwpiau hyn? Nid oes neb eisiau hyn, nid yw'n beth da i'r iaith Gymraeg, i ddarlledu yn y Gymraeg na darlledu cyhoeddus yn gyffredinol. Mae'n debyg mai Jeremy Hunt a Mark Thompson ydy'r unig bobl ar ôl ym Mhrydain sydd dal i feddwl bod uno S4C a'r BBC yn syniad da.""Nid yw'n syndod nawr nad yw'r BBC am gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar eu cynlluniau - mae'n ofn barn y cyhoedd sydd yn deall bod y cynlluniau yn abswrd. Galwn arnoch felly i ddod ar eich trafodaethau i ben gan nad oes neb ffydd ynddyn nhw." Fe fydd y grwp ymbarél yn cynnal protest "Rhaid i Cyw Fyw!" ar faes Eisteddfod yr Urdd ar ddydd Mawrth Mai 31 am 1yp.