Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod y Cynghorydd Myfanwy Alexander, sy'n dal portffolio Dysg a Hamdden ar ran Cabinet Cyngor Sir Powys, wedi camarwain y cyhoedd mewn datganiad a wnaeth i Golwg 360 heddiw (brynhawn Llun).
Wrth ymateb i gyhuddiad y Gymdeithas fod y Cyngor yn chwalu'n fwriadol y gymuned yng Ngharno ac yn gorfodi mwyafrif y disgyblion allan o addysg Gymraeg, dywedodd y Cyng Alexander wrth "Golwg" fod "digon o le yn Ysgol Llanbrynmair"
Dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis,
"Ni ddylai cynghorwyr dylanwadol gamarwain y cyhoedd trwy wneud datganiadau heb wirio'r ffeithiau. Yn ol dogfen Cyngor Powys ei hun "Adolygiad Dalgylchoedd Llanidloes/Machynlleth"(Tabl 1b), capasiti Ysgol Llanbrynmair yw 60 a bod 40 o ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd. Gan fod 45 disgybl yn Ysgol Carno, ni ellid eu rhoi yn y 20 lle sydd ar gael yn Ysgol Llanbrynmair. Caiff y gymuned ei chwalu a'r mwyafrif eu gorfodi allan o addysg Gymraeg. Gan fod y nifer yn Ysgol Llanbrynmair yn debyg o godi hyd 50 yn ystod y 18 mis nesaf, byddai llai fyth o le i blant o Garno yno. Ar ben hyn, o orfodi'r disgyblion i fynd at ddalgylch Llanidloes, bydd tua 30 o Garno wedyn yn cael eu colli i Ysgol Bro Dyfi gan wanhau'r Ysgol Uwchradd honno hefyd. Rhaid i Gyngor Powys roi terfyn ar y cynllun dinistriol hwn. Ni all y Cyngor chwaith feio cyflwr adeilad Ysgol Carno gan fod arolwg annibynnol o'r adeilad wedi dangos fod gwarant o 20 mlynedd heb fuddsoddiad arwyddocaol, ac mae gan y pentrefwyr gynlluniau i'w trafod a'r Cyngor ynghylch posibiliadau'r dyfodol."