Rhoddwyd mechnïaeth i ddau aelod o Gymdeithas yr Iaith heddiw gan lys ynadon Caerdydd yn dilyn eu hymddangosiad ar gyhuddiad o Fyrgleriaeth - sef torri i mewn i swyddfa'r AS Torïaidd, sy'n cael ei rannu gan yr AC lleol, gyda'r bwriad o beintio slogan ar y wal yn galw am sicrwydd i ddyfodol S4C. Fe fydd rhaid i'r ddau ddychwelyd i'r llys ar y 4ydd o Ebrill am 9.45am i wynebu achos llawn.Arestiwyd Jamie Bevan 34 o Ferthyr Tudful a Heledd Williams 20 o Nant Peris wedi iddynt dorri i mewn i swyddfa yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Jonathan Evans yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yn gynnar fore ddoe (dydd Sul 06/03/11). Fe gymrodd y ddau gyfrifoldeb am y weithred yn syth wedi'r digwyddiad.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Targedwyd swyddfa'r Aelod Seneddol Ceidwadol yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch genedlaethol ac yn dilyn cyfnod hir o ymgyrchu a lobio gan Gymdeithas yr Iaith sydd wedi cynnwys rali fawr yng Nghaerdydd gyda dros 2,000 yn mynychu cyn y Nadolig, degau o gyfarfodydd ar hyd a lled Cymru, miloedd ar filoedd o enwau wedi eu casglu ar ddeiseb yn gwrthwynebu Toriadau S4C, a llythyrau di-rif yn cael eu danfon at Aelodau Seneddol Cymreig yn eu hannog i sicrhau dyfodol llewyrchus i S4C."Mae Cymdeithas yr Iaith pryderu fod cyd-gynllun presennol y llywodraeth Brydeinig a'r BBC, fydd yn golygu toriadau o dros 40% mewn termau real a rhoi'r sianel dan y BBC yn bygwth bodolaeth y sianel Gymraeg. Yn fwy na hynny nid ydynt yn teimlo fod y llywodraeth yn San Steffan yn ystyried pobl Cymru yn hyn o gwbl.Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Nid ar chwarae bach mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gweithredu mor ddifrifol. Mae llywodraeth Prydain wedi diystyru pobl Cymru o'r dechrau yn ystod y broses hon. Fe wnaethon nhw benderfyniad munud olaf ar ddyfodol S4C, heb ymgynghori o gwbl gydag S4C na gweinidogion yng Nghymru; ac yn ddiweddar mae Jeremy Hunt wedi anwybyddu galwadau gan arweinwyr yr holl bleidiau yng Nghymru am arolwg llawn o S4C cyn gwneud penderfyniad. Mae'r ffaith fod rhai aelodau cynulliad Ceidwadol wedi siarad yn erbyn cynlluniau eu plaid eu hunain yn San Steffan yn arwyddocaol."Mae'r grwp ymgyrchu yn rhybuddio y byddant yn parhau â'u hymgyrch nes cael sicrwydd o annibyniaeth y sianel a chyllid digonol i sicrhau hynny