Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gyflwyno mesur newydd i gyfyngu ar niferoedd o ail dai a llety gwyliau, gan annog awdurdodau cynllunio eraill i ddilyn ei hesiampl.
Mae penderfyniad Pwyllgor Cynllunio’r parc heddiw (dydd Mawrth, 22 Ionawr) i gyflwyno'r hyn a elwir yn Gyfarwyddyd Erthygl 4 yn gwneud caniatâd cynllunio’n ofynnol cyn troi cartref yn ail dŷ neu’n llety gwyliau. Ar hyn o bryd, mae 17.4% – neu dros un ym mhob chwech – o eiddo domestig y parc yn ail dŷ neu’n llety gwyliau.
Cyngor Gwynedd yw’r unig awdurdod cynllunio arall hyd yn hyn i gyflwyno’r mesur.
Dywedodd Dr Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith:
“Rydym yn falch bod y cynnig i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 gan Awdurodod Parc Cenedlaethol Eryri i wedi pasio, gan ei fod yn gam cyntaf pwysig i ddechrau cyfyngu ar y gormodedd o ail dai a llety gwyliau yn Eryri er mwyn gwella argaeledd cartrefi i bobl leol.
“Mae gwaith ymchwil yr awdurdod ei hun yn dangos bod dros un ym mhob chwe thŷ yn ffiniau’r parc unai’n ail gartref neu’n llety gwyliau, a bod dros hanner ei phoblogaeth wedi’u prisio allan o farchnad dai eu hunain. Y gobaith yw y bydd y mesur diweddaraf yn dechrau mynd i’r afael â hyn.”
Mae sawl cyngor sir arall wedi oedi cyn cyflwyno mesur tebyg, gan gynnwys Cyngor Conwy, a gyfeiriodd at heriau staffio a chost fel rheswm i beidio parhau gyda’r polisi fis Ebrill y llynedd. Mae rhan o’r Parc Cenedlaethol yn sir Conwy felly gall fod mwy o bwysau ar ardaloedd y sir lle nad yw Erthygl 4 yn weithredol.
Yn ystod haf y llynedd, cytunodd Cyngor Sir Caerfyrddin i wneud gwaith ymchwil cychwynnol ar gyflwyno’r polisi, ac mae Cyngor Môn wedi clustnodi cyllid ar gyfer gwaith ar gyflwyno Erthygl 4.
Ychwanegodd Dr Smith:
“Rhaid cofio bod yr argyfwng tai yn bodoli tu hwnt i ogledd-orllewin Cymru, ac yn effeithio ar bob gymunedau ar hyd a lled ein gwlad. Mae hi’n siomedig felly mai dim ond 2 o 25 awdurdod cynllunio Cymru sydd wedi cadarnhau y bydden nhw’n cyflwyno’r mesur, sydd wedi bod o fewn eu gallu ers dros dair blynedd bellach.
“Byddwn ni’n parhau i bwyso ar awdurdodau lleol sydd eto i weithredu’r polisi fynd ati’n syth i wneud hynny, ac ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r adnoddau sydd ei angen arnynt i gyflawni hynny.”