Nos Fawrth, 24ain o Ionawr yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd bydd Cyfarfod Cyhoeddus yn cael ei gynnal er mwyn ymgynghori ar yr angen am Ddeddfwriaeth Newydd ym maes y Gymraeg. Daw’r cyfarfod yn dilyn cyfnod o drafodaeth wleidyddol ac ymgynghori â phleidiau gwleidyddol.
Meddai Catrin Dafydd, Cadeirydd Ymgyrch Deddf Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae’r cyfarfod hwn yn holl bwysig i ddatblygu’r drafodaeth ar y angen i sicrhau hawliau i’r Gymraeg yng Nghymru. Mae rhyw fath o ddeddf yn anorfod, y cwestiwn nawr yw pa fath o ddeddf ddylai ddod i rym? Bydd y cyfarfod yn cynnig cyfle i’r pleidiau gwleidyddol fynegi eu barn ar y ffordd ymlaen ynghyd â chynnig cyfle i arbennigwyr ieithyddol ryngwladol, cyfreithwyr sy’n arbennigo mewn hawliau ieithoedd lleiafrifol a ffigyrau cenedlaethol blaenllaw cynnig eusafbwynt.""O ystyried pwysigrwydd y cyfarfod a’i arwyddocad, mae’n gwbl waradwyddus nad yw Alun Pugh nac unrhyw aelod arall o’r Blaid Lafur wedi dewis mynychu’r cyfarfod. Unwaith yn rhagor, dengys hyn ddiffyg ar ran y llywodraeth bresennol. Llywodraeth sy’n dewis anwybyddu’r anghyfiawnderau sy’n bodoli ym maes y Gymraeg, llywodraeth sy’n gwrthod cynnal trafodaeth ddemocrataidd a llywodraeth sy’n anwybyddu hawliau pawb sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn.""Mae’r ffaith i Rhodri Morgan fynegi yn 1993 na fyddai’n pledleisio o blaid y ddeddf sydd yn dal yn weithredol heddiw, ac y byddai ef a’im lywodraeth yn gwneud ymdrech well pan fyddant hwy mewn pŵer yn arwydd pellach o rhagrith a diffyg gweledigaeth y llywodraeth bresennol."Ymhlith siaradwyr ar y 24ain o Ionawr, bydd aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg yr Athro Colin Williams, Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg John Elfed Jones a Huw Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bydd y cyfreithiwr Hywel James yn cadeirio panel o lefarwyr ar ran y prif bleidiau.Bydd Owen John Thomas AC yn llefaru ar ran Plaid Cymru, Eleanor Burnham AC yn llefaru ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol a Lisa Francis AC yn llefaru ar ran y Ceidwadwyr. Bydd geiriau o gefnogaeth i’r cyfarfod yn cael eu darllen hefyd. Ymhlith y rhai sydd wedi cynnig gair o gefnogaeth mae Dafydd Wigley, Dewi Watcyn Powell, Arglwydd Gwilym Prys Davies, Yr Aelod Senedd Elfyn Llwyd, Yr Aelod Ewropeaidd Jill Evans ac eraill.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan y Daily Post