Angen ail-ystyried 6,000 o dai os yw Powys am weld y Gymraeg yn ffynnu

Wrth i Gyngor Sir Powys gyhoeddi Cynllun Datblygu drafft, rydym wedi croesawu ymrwymiad yn y cynllun i atal y dirywiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir - ond yn rhybuddio bod yn rhaid ail-ystyried cynlluniau i adeiladu 6,000 o dai.

Meddai Llion Pughe, o Gemaes, ar ran cangen Maldwyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'n dda gweld bod swyddogion y cyngor yn cydnabod maint y bygythiad i gymunedau Cymraeg ym Mhowys - ryden ni'n croesawu'r targed y bydd y canran sy'n siarad Cymraeg yn y Sir yn tyfu. Ond os ydyn nhw am i hynny ddigwydd, mae'n rhaid edrych ar y cynllun datblygu o'r newydd - a gofyn a oes angen 6,000 o dai newydd yn y Sir?

"O edrych ar y cynllun, mae'n edrych fel pe bai'r 6,000 yma wedi ei dynnu allan o het - er mwyn cyrraedd targedau cenedlaethol, mae'n debyg, heb ystyried beth sydd wir ei angen ar bentrefi fel fy mhentref i. Bydd llawer o'r tai yma'n cael eu gorfodi ar gymunedau lle does dim galw amdanynt - mae angen troi hyn ar ei ben a dechrau trwy fesur faint o dai sydd eu hangen ar gyfer pobl leol.

"Ryden ni'n galw ar bobl i ymateb a gwrthod y cynllun fel ag y mae ar hyn o bryd - gan obeithio bydd Swyddogion y Cyngor yn addasu'r cynllun er mwyn i'r Gymraeg allu goroesi yng nghymunedau Powys."

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gweithdy agored yng Nglantwymyn ar Orffennaf 11eg, er mwyn hwyluso i bobl leol ymateb i gynlluniau'r Cyngor.