"ANGEN CHWYLDROI ADDYSG ÔL-16 I ARFOGI IEUENCTID AR GYFER DYFODOL CYMRAEG"

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin yn mynnu mewn fforwm cyhoeddus yfory (dydd Sadwrn 14/11) y dylai'r gallu i gyfathrebu a chyflawni eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn sgil addysgol hanfodol i bob myfyriwr mewn addysg ôl-16 yn y sir.
Bydd Toni Schiavone, sy'n gyn-gynghorydd i Lywodraeth Cymru ar addysg, yn lansio'r ymgyrch ar ran y Gymdeithas. Yn ymateb yn ffurfiol fe fydd:

* Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin - Cynghorydd Glynog Davies (Deiliad portffolio addysg ar y Bwrdd Gweithredol) a'r Cyng Peter
Hughes-Griffiths (deiliad portffolio'r Gymraeg)

* Ar ran Coleg Sir Gâr (prif ddarparwr addysg ôl-16 yn y sir) - Matt Morden (Dirprwy Brifathro) a Helen Griffith (Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd)

* Ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (sydd wedi derbyn cyfrifoldeb am hyrwyddo addysg ôl-16) - Lowri Morgans (Swyddog Cenedlaethol Addysg ôl-16), a bydd Meri Huws (cadeirydd Bwrdd ôl-16 y Coleg) yn bresennol

Wrth esbonio nod y fforwm, dywedodd Bethan Williams (ysgrifennydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin-Penfro) "Yn draddiadol mae'r mwyafrif o gyrsiau ôl-16 wedi bod yn Saesneg, gyda chymysgedd cymhleth o aseswyr ac arholwyr na fedrent Gymraeg. Felly collodd llawer o'n pobl ifainc y Gymraeg fel rhan o'u gwaith bob dydd. Enillodd y Gymdeithas fuddugoliaethau pwysig pan ailenwyd Coleg Sir Gâr a newid ei agwedd tuag at yr iaith, ac yn genedlaethol pan sicrhawyd fod cyfrifoldeb am addysg ôl-16 gan y Coleg Cymraeg.
"Ond y duedd o hyd yw mai Saesneg yw prif gyfrwng yr addysg, a bod ceisio cyflwyno mwy o Gymraeg. Mae'n bryd yn awr chwyldroi addysg ôl-16 yn y sir er mwyn paratoi ein pobl ifainc ar gyfer dyfodol Cymraeg.

Ychwanegodd "Nid yw'n deg fod unrhyw fyfyriwr yn cael ei amddifadu o'r sgil addysgol hanfodol o allu cyflawni ei waith yn Gymraeg fel yn Saesneg. Ac nid yw'n deg chwaith fod y cyhoedd yn Sir Gâr yn cael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg oherwydd diffygion y system addysg. Cydnabyddwn fod ewyllys da at y Gymraeg yn y sir, a diolchwn fod
swyddogion yr holl sefydliadau'n dod i'r fforwm i drafod y ffordd ymlaen."

Mae'r fforwm yn agored ac mae croeso i unrhyw un gysylltu (bethan@cymdeithas.cymru) am ddolen er mwyn ymuno i wrando, trafod neu holi cwestiynau.