Angen gwrando ar ffermwyr ac ystyried y Gymraeg gyda'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn diogelu cymunedau gwledig, yn ôl ymgyrchwyr iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Llywodraeth Cymru i wrando ar a chydweithio gyda ffermwyr ac ystyried y goblygiadau i’r Gymraeg wrth ailedrych ar ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy. 

Yn ôl y mudiad, byddai’r colledion swyddi fyddai’n dod yn sgil y Cynllun yn ei ffurf bresennol yn ychwanegu at broblemau eraill sy’n gwynebu cymunedau Cymraeg gwledig, gan gynnwys diboblogi a phrinder tai fforddiadwy i’w prynu a’u rhentu.

Dywedodd Robat Idris, Is-gadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:

“Mae 43% o weithwyr yn y sector amaeth yn siaradwyr Cymraeg, yr uchaf o unrhyw ddiwydiant yng Nghymru ac y mae’n ddiwydiant sydd yn arbennig o gryf yn ei chadarnleoedd. Mae busnesau cysylltiol ymhlith y rhai sy’n gwneud y defnydd mwyaf o’r Gymraeg hefyd. Rydym yn rhannu pryderon ffermwyr am golledion swyddi yn y maes yn sgil Cynllun Ffermio Cynaliadwy y Llywodraeth, fel sy’n cael ei rybuddio gan undebau amaethyddol.

“Dydy’r diwydiant ffermio fel ag y mae ddim yn gynaliadwy oni bai bod ffermydd yn troi yn agri-fusnesau, a cholli cysylltiad â’r tir. Gallai cynlluniau’r Llywodraeth ddwysau’r broblem a gorfodi mwy o ffermwyr o’r tir gan waethygu diboblogi sydd yn barod yn broblem oherwydd diffyg tai i’w prynu a’u rhentu o fewn cyrraedd pobl ar gyflogau lleol.

“Pryderwn yn ogystal fod tir amathyddol yng Nghymru yn cael ei brynu gan gwmniau estron sydd am fanteisio ar grantiau i blannu coed, er mwyn gwerthu’r credyd carbon i gwmniau sydd ag ôl troed carbon uchel.  Mae hyn yn aberthu ffermydd Cymru ar allor cysylltiadau cyhoeddus diwydiannau budron, sy’n cael rhwydd hynt i lygru yn ôl eu harfer.

“Mae perygl i hyn oll fynd ar goll wrth i rai fanteisio ar brotestio’r ffermwyr i wthio agenda gwrth-ddatganoli ac asgell dde.”

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith byddai nifer o elfennau yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy hefyd yn mynd yn gwbl groes i unrhyw weledigaeth a gweithredu hir dymor i gynnal yr economi, y diwylliant a’r Gymraeg, yn groes i nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r mudiad yn cwestiynu pwrpas y ddeddfwriaeth yma os yw polisïau Llywodraethol a phenderfyniadau cyllidol yn eu tanseilio.

Yn ôl Robat Idris:

“Does neb yn fodlon gyda’r sefyllfa bresennol, felly wrth ailedrych ar ac adolygu’r cynllyn, rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar a chydweithio gyda ffermwyr i sicrhau nad oes goblygiadau negyddol i gymunedau.

“Gallai gweledigaeth gwirioneddol anturus gynnwys dulliau o gynnal nid yn unig ffermwyr ond hefyd y gymdeithas ehangach - mae’n hen bryd ail-gysylltu pobl efo’r bwyd ar eu platiau. Welwn ni ddim dyfodol i ffermydd teuluol yn y tymor hir heb i ni adfer perthynas gwlad a thref er mwyn cyflenwi’r bendithion amgylcheddol a chymdeithasol o gael bwyd iach wedi ei gynhyrchu yma.  Dyna fyddai Cymru Werdd go iawn.”