Angen i gynllun i Gymreigio'r gweithlu addysg fynd ymhellach, ac yn fwy sydyn

Wrth ymateb i gyhoeddiad cynllun 10 mlynedd y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i gynyddu nifer yr athrawon sy’n siarad Cymraeg dywedodd Ifan Jones, Is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Y brif her wrth sicrhau bod pob disgybl yn derbyn addysg Gymraeg yw cael digon o staff sy'n gallu gweithio trwy'r Gymraeg. Felly yn sicr mae angen cynllun i fynd i'r afael â hynny ond dydy'r hyn mae'r Llywodraeth wedi ei gyhoeddi ddim yn gwneud digon, nac ar ddigon o frys.

"Mae angen buddsoddi £10m y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf i Gymreigio'r gweithlu addysg yn ei gyfanrwydd, nid dim ond athrawon, ac mae angen i'r ddeddf addysg Gymraeg mae'r Llywodraeth yn ei pharatoi gynnwys targedau statudol i bob awdurdod lleol ar gyfer nifer y gweithlu addysg sy'n siarad Cymraeg.

"Ac yn fwy na gwneud gwersi Cymraeg ar gael am ddim mae angen cynnwys blwyddyn ychwanegol yn hyfforddiant cychwynnol athrawon i sicrhau eu bod nhw'n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg; ac mae angen cronfa benodol i ysgolion wneud ceisiadau iddi i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol.

"Mae addysg Gymraeg yn hanfodol i gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ac os ydy'r Llywodraeth o ddifri am gyrraedd y targed hynny mae angen mynd ymhellach, ac yn fwy sydyn."

Rydyn ni wedi llunio strategaeth i gynyddu nifer y gweithlu addysg Gymraeg, sydd i'w weld yma.