“Angen rhagweld y math o gymunedau gwleidig fydd gyda ni a chynllunio ar gyfer hynny”

Yn fforwm agored Dyfodol ein Cymunedau Gwledig heddiw (27/09/25) fe wnaethon ni alw am ymyriadau i greu gwaith, darparu tai, cynnal gwasanaethau gwledig a chreu cymunedau mae pobl am fyw ynddynt. 

Yn siarad ar ran y Gymdeithas dywedodd Wynfford James:
"Dydy hi ddim yn amlwg bod strategaeth wledig gan unrhyw gyngor na phlaid, er bod cynllun Arfor a chynllun ar gyfer y Gororau, fu dim buddsoddiad na sylw i gymuned wledig fel sydd i gynlluniau dinas-ranbarth. Felly roedd heddiw yn gyfle i ddechrau trafodaeth a chynllunio dyfodol ein cymunedau gwledig."

Yn wyneb heriau ariannol a diboblogi, mae angen ystyried modelau fel gwasanaethau aml-safle, mewn cydweithrediad â gwirfoddolwyr, trwy fentrau cymunedol ac eraill, fydd yn gofyn am gydweithio rhwng awdurdodau a chymunedau  

Wrth gloi ychwanegodd Wynfford James:
“Mae angen rhagweld y math o gymunedau gwledig fydd gyda ni yn 2050. Unwaith i ni weld hynny, bydd cydweithio yn hanfodol, ac angen amser a buddsoddiad mewn ymgysylltu parhaol rhwng partneriaid er mwyn symud ymlaen. Gobeithio i drafodaethau heddiw fod yn gam ar y ffordd.”