Mae symud swyddi allan o Gaerdydd yn allweddol i hyfywedd y Gymraeg ar lefel gymunedol, yn ôl mudiad iaith sydd wedi cwyno i'r Prif Weinidog am y penderfyniad i beidio â lleoli'r Awdurdod Cyllid newydd ym Mhorthmadog.
Yn dilyn canlyniadau'r Cyfrifiad a gyhoeddwyd yn 2012, galwodd Cymdeithas yr Iaith am i ragor o swyddi cyhoeddus symud allan o Gaerdydd er mwyn cryfhau economi cymunedau ledled y wlad a lleihau allfudo o gymunedau Cymraeg. Ers hynny, mae S4C wedi penderfynu symud eu pencadlys i Gaerfyrddin.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, meddai Tamsin Davies, Cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Gwyddom eich bod yn deall pwysigrwydd economi gref yn ardaloedd yn y Gogledd a Gorllewin er mwyn sicrhau hyfywedd y Gymraeg. Gyda hynny mewn golwg, mae'r penderfyniad i beidio lleoli'r Awdurdod Cyllid ym Mhorthmadog, sydd, wedi'r cwbl yn colli swyddi treth, yn destun pryder mawr.
"Rydym yn pryderu'n fwyfwy am y tueddiad cynyddol i ganoli rhagor o ddatblygiadau yng Nghaerdydd. Mae angen cydbwysedd llawer iawn gwell o ran cyrff cyhoeddus yn cael eu lleoli ledled y wlad. Ac mae sefydlu un arall ar gyrion Caerdydd, yn hytrach na'r Gogledd yn gamgymeriad mawr yn ein barn ni. Hoffem wybod sut dros y blynyddoedd nesaf mae'r Llywodraeth yn mynd i gryfhau'r Gymraeg drwy eu penderfyniadau o ran lleoliad swyddi cyhoeddus."
Yn eu llythyr, mae'r mudiad hefyd wedi gofyn am gopi o'r asesiad iaith a wnaed ynghylch lleoliad yr Awdurdod Cyllid. Mae asesiad o'r fath yn ofynnol oherwydd y Safonau Iaith.