Mae mudiad iaith wedi galw ar gynghorau Cymru i anwybyddu Nodyn Cyngor Technegol 20, sydd newydd cael ei gyhoeddi.
Mae'r Nodyn yn rhoi cyngor i sut i ddelio gyda Cynllunio a'r Gymraeg. Ond, ar ôl gohirio cyhoeddi NCT 20 nifer o weithiau, mae'r Gymdeithas yn dweud fod y cyngor yn werth dim.
"Yn ôl y canllawiau, cyfyngedig iawn bydd yr enghrefftiau lle gallai cynghorau yn gofyn am asesiadau effaith ieithyddol ar ddatblygiadau" meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith. "Ond oherwydd nad ydy'r Nodyn yn un statudol, rydym yn gofyn i gynghorau trwy Gymru i anwybyddu'r nodyn, a gofyn am asesiad effaith ieithyddol ar gyfer pob datblygiad.
Mae'r Gymdeithas a mudiadau iaith eraill yn credu fod y cyngor yn y Nodyn yn gamddehongliad difrifol o Ddeddf Gynllunio (Cymru) 2015. "Mae geiriad yn y Nodyn yn rhoi'r argraff na fyddai modd cynnal asesiad o dan unrhyw amgylchiadau os yw'r tir wedi ei ddosrannu o dan y Cynllun Datblygu Lleol yn barod. Nid yw canllaw o'r fath yn gyson â geiriad nac ysbryd y ddeddfwriaeth na safbwynt polisi'r Llywodraeth," meddai Heledd Gwyndaf.
"Gwnaethon ni'r pwynt hwn i'r Gweinidog, Leslie Griffiths, yn ein hymateb gwreiddiol i'r ymgynghoriad ac mewn llythyr ym mis Mawrth eleni. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi parhau gyda'r camddehongliad, ac wedi dewis ochri gyda datblygwyr yn lle defnyddio'r canllawiau fel cyfle i gryfhau'r iaith."
Rwân bydd y Gymdeithas yn lobïo cynghorau trwy Gymru i anwybyddu Nodyn Cyngor Technegol 20, a datblygu polisiau lleol sy'n cryfhau defnydd o asesiadau effaith ieithyddol.