Apêl i UEFA - Sky i ddiddymu sylwebaeth Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwyno wrth gorff llywodraethu pêl-droed Ewrop (UEFA) wedi i Sky gyhoeddi na fydd sylwebaeth Gymraeg ar gemau rhyngwladol Cymru ar y sianel deledu o hyn ymlaen. 
 
Ddechrau mis Awst, galwodd y mudiad iaith am dreth ar gwmnïau fel Sky er mwyn ariannu darlledu Cymraeg. Bydd swyddogion y mudiad hefyd yn codi'r mater gydag Aelodau Seneddol mewn cyfarfodydd yn Llundain yfory.  
 
Dywedodd Greg Bevan, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  
 
"Mae'n hollol annerbyniol bod Sky Sports wedi penderfynu peidio â chynnig sylwebaeth Gymraeg ar gemau timau cenedlaethol Cymru. Mae'n dangos mor wan yw ymlyniad y sianel at bel-droed Cymru ac mor ddirmygus yw ymerodraeth Sky o iaith fel y Gymraeg. Rydyn ni'n ysgrifennu at UEFA i godi ein pryderon am y toriad diangen yma. Mae gan bobl Cymru'r hawl i wylio ac i wrando ar gemau cenedlaethol yn Gymraeg. Mae BSkyB yn gwneud elw o dros un biliwn o bunnau'r flwyddyn, ond beth ydyn nhw'n ei chynhyrchu yn Gymraeg? Mae'r newyddion yma ond yn cryfhau ein hachos dros dreth newydd ar gwmnïau fel nhw er mwyn ariannu darlledu Cymraeg."