Apel Cymru 2020

Cymru 2020 Er mwyn pwysleisio yr angen am ymgyrchu effeithiol, er mwyn ymateb i argyfwng y Gymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio apel ariannol. Bydd y mudiad yn gwahodd aelodau a chefnogwyr i lenwi archebion banc sylwddol er mwyn cynnig sail gadarn i ymgyrchoedd y dyfodol.

Y gobaith yw y bydd tua 100 o bobl yn bodloni i lenwi archeb banc o £20.20 y mis er mwyn sicrhau cyfalaf misol £2020 a fydd yn cael ei gyfeirio yn uniongyrchol tuag at waith ymgyrchu dyddiol.Os hoffech chi gyfrannu yn ariannol at waith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gellwch gyfrannu arlein gyda cherdyn credyd yma, neu gellwch argraffu'r ffurflen archeb banc yma, a'i ddanfon at swyddfa'r Gymdeithas, er mwyn gwneud cyfraniadau cyson.