Codi Arian

Taith y Copaon 2004 - Dringo dros yr Iaith

Anweledig Deg copa mewn deng niwrnod - dyna fydd y nôd i aelodau Cymdeithas yr Iaith, rhwng dydd Iau, Awst 19, a dydd Sadwrn, Awst 28. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd nifer o aelodau’r mudiad yn dringo deg o fynyddoedd enwocaf Cymru, fel rhan o’r daith gerdded noddedig – ‘Taith y Copaon’ – er mwyn codi arian i goffrau’r Gymdeithas.

Apel Cymru 2020

Cymru 2020 Er mwyn pwysleisio yr angen am ymgyrchu effeithiol, er mwyn ymateb i argyfwng y Gymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio apel ariannol. Bydd y mudiad yn gwahodd aelodau a chefnogwyr i lenwi archebion banc sylwddol er mwyn cynnig sail gadarn i ymgyrchoedd y dyfodol.