Taith y Copaon 2004 - Dringo dros yr Iaith

Anweledig Deg copa mewn deng niwrnod - dyna fydd y nôd i aelodau Cymdeithas yr Iaith, rhwng dydd Iau, Awst 19, a dydd Sadwrn, Awst 28. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd nifer o aelodau’r mudiad yn dringo deg o fynyddoedd enwocaf Cymru, fel rhan o’r daith gerdded noddedig – ‘Taith y Copaon’ – er mwyn codi arian i goffrau’r Gymdeithas.

Bydd ‘Taith y Copaon’ yn cychwyn wrth droed yr Aran, ger y Bala, ar fore dydd Iau, Awst 19. Yna dros y deng niwrnod canlynol, bydd aelodau o’r Gymdeithas yn drigno i ben rhai o fynyddoedd enwocaf Cymru, megis Cadair Idris, Pumlumon, Penyfan Fawr a Charnedd Llywelyn. Bydd y daith yn gorffen ar ddydd Sadwrn, Awst 28, wrth i’r cerddwyr ddringo i gopa’r Wyddfa.Anweledig yn fyw ar gopa’r WyddfaBydd aelodau o brif gwrp Cymru, Anweledig yn ymuno gyda’r cerddwyr wrth ddringo’r Wyddfa, gan berfformio set byw ar y copa. Yn ogystal, mae cyfres o gigs wedi eu trefnu i ddiddanu pawb ar hyd y daith.Meddai Aled Jones, aelod o’r Gymdeithas, sydd yn bwriadu cerdded pob cam o’r ffordd:“Heddiw – cymaint ag erioed – mae angen ymgyrchu egniol o blaid y Gymraeg. Mae hyn yn galw am adnoddau ariannol sylweddol. O ganlyniad, gobeithio y bydd llawer iawn o bobl yn cefnogi Taith y Copaon, naill ai trwy gymryd rhan a chasglu noddwyr neu trwy gyfrannu’n ariannol.”“Rydym ni’n falch iawn fod Anweledig wedi bod mor barod i ddangos cefnogaeth, gan gytuno i chwarae yn fyw ar gopa’r Wyddfa. Dyma berfformiad gwerth ei weld!”Gall unrhywun gyfrannu i gronfa ‘Taith y Copaon 2004’ trwy gysylltu â swyddfa Cymdeithas yr Iaith ar (01970) 624501 neu trwy bwyso yma.Mae lluniau o'r daith yn awr arlein. Pwyswch yma i'w gweld!