Apelio ar aelodau hyn y Gymdeithas

ffred_cefnogaeth_hael.jpg

 

 

 

Mae Ffred Ffransis wedi galw ar Eisteddfotwyr canol oed i roi cefnogaeth ariannol hael i Gymdeithas yr Iaith. Fe wnaeth ei sylwadau wrth gyhoeddi pamffled newydd ar Faes yr Eisteddfod.

Ffred Ffransis yw aelod hynaf Senedd y Gymdeithas a galwodd ar y canol oed i roi cefnogaeth ariannol er mwyn helpu'r to ifanc i weithredu chwyldro newydd i ddiogelu'r iaith yn y ganrif newydd.

Yn y pamffled Chwyldro Parhaus mae Ffred Ffransis yn dadlau fod enillion "chwyldro cyntaf" chwedegau a saithdegau'r ugeinfed ganrif yn prysur ddiflannu. Dywedodd mai "ffordd yw brwydr yr iaith a bod angen cam mawr ymlaen erbyn hyn"

Ond dywedodd hefyd fod yn rhaid i'r arweiniad ddod gan y to ifanc sydd yn dal llawer o'r prif swyddi o fewn y Gymdeithas. "Cyfrifoldeb y canol oed yw hyrwyddo'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth newydd" meddai, gan ychwanegu: "Yn wahanol i sefydliadau eraill yng Nghymru, nid yw Cymdeithas yr Iaith yn derbyn grant tuag at ei gwaith. Pobol Cymru sy'n rhoi ein grant i ni a heb hynny ni all y chwyldro newydd ddigwydd." 

Bydd yr arian a fydd yn cael ei godi yn cael ei ddefnyddio i gyllido Swyddog Maes a fydd yn gweithio yn bennaf ymhlith Cymry ifainc mewn ysgolion, colegau ac yn eu cymunedau.