Yng Nghylch yr Orsedd ddydd Llun galwodd yr Archdderwydd am Ddeddf Iaith newydd. Wrth annerch cyn urddo'r aelodau newydd i'r Orsedd, galwodd Robyn Lewis am "ddeddf iaith newydd wedi'i theilwrio ar gyfer Cymru ddatganoledig yr 21ain ganrif".
Beirniadodd Lywodraeth Cymru a'u cynllun Iaith Pawb. Sefydlodd Llywodraeth y Cynulliad Iaith Pawb, sef Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru Ddwyieithog, ym mis Chwefror.Strategaeth yw ar ddyfodol yr iaith Gymraeg ac addewid i wario dros £27m ychwanegol ar yr iaith dros y tair blynedd nesaf.Ond dywedodd yr Archdderwydd ddydd Llun fod y Cynulliad wedi dysguør grefft "o gynhyrchu mwy o bapur a gweithredu llai o ddyheadau"."Mae Polisi Iaith Pawb yn mynd ’ ni y tu allan i alluoedd presennol y Cynulliad a thu hwnt i gyfyngiadau ariannol y Cynulliad," meddai Mr Lewis.Wedyn soniodd am Gynllun Cymorth Prynu'r Cynulliad, polisi i geisio lleihau effeithiau'r farchnad dai yng Nghymru a'i heffaith ar y gymuned Gymraeg."Mae angen cyllid aruthrol er mwyn gweithredu'r polisi," meddai.Cymharodd Mr Lewis Iaith Pawb ’ Deddf Iaith y TorÔaid ym 1993.Dywedodd fod gan y busensau mawr, yr archfarchnadoedd, y cwmnÔau yswiriant, a phob cyfrwng prynu-a-gwerthu yng Nghymru yr hawl i orfodi'r Cymry i droi at y Saesneg."Ateb Iaith Pawb yw persw’d ac ewyllys da."Dyna oedd ateb y TorÔaid ym 1993, ateb sydd wedi methu," meddai.Yr unig ateb fyddai Deddf Iaith newydd, meddai."Mae Iaith Pawb yn ceisio prif-ffrydioør Gymraeg i bortffolio pob Gweinidog oør Cynulliad," meddai."Felly dim Cymraeg, dim arian." Dywedodd y gallai effaith Iaith Pawb fod yn bell-gyrhaeddol."Ond chaiff hi ddim effaith o gwbwl os gadewir yr adroddiad ar y silff i hel llwch."Wrth orffen ei araith cyfeiriodd at ateb Alun Pugh, Gweinidog yr Iaith Gymraeg, pan ofynnwyd iddo sut y gellid rhoi Iaith Pawb ar waith heb ddeddf newydd.Ei ateb, meddai Mr Lewis, oedd nad oedd amserlen benodol gan y Llywodraeth i wireddu ei haddewidion ac na fyddai modd perswadio pob cwmni preifat i ddefnyddioør Gymraeg ond yn hytrach eu "hannog a hyrwyddo"."Mae hyn yn gwneud yr addewid pendant yn Iaith Pawb 'y gall unigolion ddewis trwy gyfrwng pa iaith y dymunant fyw eu bywydau' yn addewid ffals."Felly, oni welwn ni Lywodraeth Cymru yn rhoi ei haddewidion ei hun mewn grym, mae arnaf ofn mai, yn y pen draw, gwir ystyr y geiriau 'Iaith Pawb' fydd 'Iaith Neb',"meddai.Stori BBC Cymru'r Byd