Archesgob Cymru yn codi pryderon S4C

barrymorgan.jpgBarry Morgan yn gofyn am gyfarfod â Dirprwy Brif Weinidog PrydainMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llythyr yr Archesgob Barry Morgan at Ddirprwy Brif Weinidog Prydain Nick Clegg yn mynegi ei bryderon am S4C. Dywed llythyr yr Archesgob:"Yr wyf yn ysgrifennu atoch fel Archesgob Cymru i ofyn i chi a'ch Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol i ystyried pleidleisio dros dynnu y cymalau sy'n ymwneud ag S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus fydd yn dod ger bron T?'r Cyffredin yn fuan."Cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud yngl?n a dyfodol S4C fe ddylid cynnal arolwg annibynnol cynhwysfawr a thrylwyr i ddyfodol y Sianel. Mae arweinwyr pob un o'r pedair prif Blaid yng Nghymru wedi galw am hyn ac mae'n hanfodol fod y safbwynt unedig hwn yn cael ei ystyried.... Os na thynnir y cymalau sy'n ymwneud ag S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus fe gyll S4C ei hannibyniaeth a 40% o'i chyllid ac ni fydd sicrwydd o gwbl ym mha fodd y bydd yn cael ei hariannu a'i rhedeg ar ôl 2015. Felly ni ellir cynllunio ar gyfer dyfodol darlledu Cymraeg, os bydd yna'n wir ddyfodol o gwbl. Pan sefydlwyd S4C yn y lle cyntaf yr oedd deddfwriaeth gwlad oedd yn ei gwarchod rhag ymyrraeth wleidyddol. Ond yn awr, o basio'r Mesur Cyrff Cyhoeddus fe gollir yr amddiffyniad hwnnw."Tybed felly a fyddai modd i chi ystyried cyfarfod dirprwyaeth o Gymru ... i drafod y mater hwn ymhellach."Yn ymateb i'r newyddion, fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r gwrthwynebiad i'r bygythiadau i S4C yn cynyddu'n ddyddiol. Mae llythyr yr Archesgob yn dangos bod yna gonsensws cryf yng Nghymru ymysg cymdeithas sifil; consensws sydd yn gwrthwynebu cydgynllun y Llywodraeth a'r BBC yn Llundain ar gyfer S4C. Cynllun sydd yn golygu cwtogi ar grant i'r sianel o naw deg pedwar y cant - llawer iawn mwy nac unrhyw adran arall o'r llywodraeth - a gadael i'r BBC gymryd y sianel drosodd. Cynllun sydd yn rhoi dyfodol unig sianel deledu Gymraeg y byd yn y fantol, ac sydd yn fygythiad uniongyrchol i ddyfodol y Gymraeg hefyd. Rydyn ni'n falch iawn bod yr Archesgob yn fodlon codi cwestiynau am y cynlluniau annoeth hyn."Mae'n debyg mai [Ysgrifennydd Diwylliant Prydain] Jeremy Hunt a [Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC] Mark Thompson ydy'r unig bobl ar ôl ym Mhrydain sydd dal i feddwl bod uno S4C a'r BBC yn syniad da. Erbyn hyn, mae'r cynlluniau ar gyfer S4C wedi cael ei beirniadu gan arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, y Pwyllgor Materion Cymreig, degau o undebau a mudiadau iaith, degau o filoedd o bobl sydd wedi llofnodi deiseb, mynychu ralïau ac ysgrifennu at wleidyddion, a nawr pwyllgor diwylliant T?'r Cyffredin. Mae'n amlwg bod rheolwyr y BBC yn Llundain a'r Llywodraeth wedi cael eu hynysu'n wleidyddol, ac mae'r holl gynlluniau nawr mewn stad o argyfwng.""Mae degau o fudiadau iaith ac undebau wedi ceisio trefnu cyfarfod gyda Jeremy Hunt ac mae fe wedi ein hanwybyddu yn llwyr. Rydyn ni'n gobeithio y bydd Nick Clegg yn llawer iawn mwy cwrtais a gwrando ar y farn unedig yma yng Nghymru."