Archwilwyr allanol i edrych ar gwyn am 'lwgrwobrwyo'r Comisiynydd'

Mae archwilwyr allanol wedi cael ei benodi i ymchwilio i honiadau bod Llywodraeth Cymru wedi llwgrwobrwyo Comisiynydd y Gymraeg i gynnal llai o ymchwiliadau i gwynion, yn ôl gohebiaeth sydd newydd gael ei datgelu.

Yn y chwe mis cyntaf ei swydd, ymchwiliodd y Comisiynydd newydd, Aled Roberts, i lai na 40% o'r cwynion a dderbynnir ganddo - bron hanner lefel ei ragflaenydd. Heb ymchwiliad statudol i gŵyn, nid oes modd i'r Comisiynydd ddefnyddio ei bwerau cyfreithiol i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg cyrff yn gwella.

Mewn papur mewnol y Llywodraeth o fis Ebrill y llynedd, dywedodd gweision sifil "... byddwn yn disgwyl i'r Comisiynydd o leiaf newid ei ffocws o fod yn rheoleiddiwr sy'n ymateb i gwynion ... pe bai'r swyddfa'r Comisiynydd yn newid ei ffocws fel y nodwyd uchod ... y byddai'r Llywodraeth yn ystyried wedyn a ddylid trosglwyddo cyfrifoldebau pellach i'r Comisiynydd." Mae'r papur yn mynd ymlaen i argymell: "Is-adran y Gymraeg i sefydlu gweithdrefnau newydd ar gyfer noddi'r Comisiynydd gyda'r nod fod y Comisiynydd yn newid pwyslais wrth weithredu ei swyddogaethau rheoleiddio." Mae deddfwriaeth iaith 2011 yn gwahardd y Llywodraeth rhag cyfarwyddo'r Comisiynydd am sut i ddefnyddio ei bwerau gorfodi.

Y llynedd, darganfuwyd gohebiaeth oddi wrth Weinidog y Gymraeg at y Comisiynydd yn pwyso arno i gynnal llai o ymchwiliadau. Yn ôl rhagor o ddogfennau a ryddhawyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth, ym mis Awst 2019 anfonodd y Comisiynydd lythyr at Weinidog y Gymraeg yn brolio ei fod yn cynnal llai o ymchwiliadau i gwynion gan ddweud ei fod 'ddiolchgar' i'r Gweinidog am ei '[h]arweiniad ar y mater'. Ymatebodd y Gweinidog gan ddweud ei bod yn 'croesawu' yr ystadegau 'calonogol'.

Yn dilyn derbyn y wybodaeth, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith gwynion ffurfiol i'r Comisiynydd a'r Prif Weinidog yn honni bod y Gweinidog Eluned Morgan a'i gweision sifil wedi torri'r cod gweinidogol ac wedi camweinyddu. Bellach, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi penodi archwilydd allanol, ond mae'r Llywodraeth wedi gwrthod y cwynion yn syth.

Dywed Bethan Ruth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Rydyn ni'n falch bod y Comisiynydd wedi penodi archwilwyr allanol, mae'n dangos eu bod yn cymryd y cwynion o ddifrif. Mae llwgrwobrwyo rheoleiddiwr annibynnol yn fater difrifol iawn. Mae hyn yn codi cwestiynau o bwys, nid yn unig am annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg, ond hefyd am sefyllfa Comisiynwyr eraill a rheoleiddwyr annibynnol. Mae'r holl beth yn drewi.

"Mae bellach yn glir bod y Comisiynydd newydd, yn dilyn cais gan Weinidog y Llywodraeth, wedi gwneud ymdrech fwriadol i leihau nifer a chanran yr ymchwiliadau i gwynion a gynhelir ganddo, a hynny er mwyn sicrhau rhagor o gyllid a chyfrifoldebau o du Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn gyfystyr â llwgrwobrwyo a chamymddygiad difrifol. Mae pobl wedi brwydro'n galed ers degawdau i ennill hawliau iaith, nid lle'r Llywodraeth yw twyllo i danseilio'r ennillion pwysig hynny.

Ychwanegodd Bethan Ruth:

"Mae'n destun pryder mawr bod llai a llai o gwynion yn derbyn ymchwiliad statudol. Mae gwrthod agor ymchwiliadau i gymaint o gwynion yn gwanhau ein hawliau iaith. Heb ymchwiliadau i gwynion, does dim modd gorfodi unrhyw newid i bolisi neu arferion sefydliad. Felly, drwy ymddwyn fel hyn, bydd cyrff yn cael y neges ei bod yn iawn iddyn nhw anwybyddu'r gyfraith. Tra bod pobl o ganlyniad yn parhau i wynebu rhwystrau i siarad Cymraeg, mae 'na berygl hefyd y bydd y cyhoedd yn colli ffydd yn y Comisiynydd i ymdrin â'u cwynion o ddifrif. Dylai'r Llywodraeth ganiatau i'r Comisiynydd ganolbwyntio ar wneud ei gyfrifoldebau rheoleiddio presennol yn iawn er lles y Gymraeg, yn hytrach na gwasanaethu mympwy Llywodraeth y dydd."