ARGYFWNG Y FARCHNAD DAI - Galw am gefnogaeth Cynghorau Sir Gâr a Phenfro

Fel rhan o Rali aml-safle "Nid yw Cymru ar Werth" fore Sadwrn yma, 21/11, bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith wrth Neuadd y Sir Caerfyrddin yn pwyso ar Gynghorau Sir Caerfyrddin a Phenfro i gefnogi'r ymgyrch. Cyflwynir llythyr i gynrychiolydd y ddau Gyngor Sir yn gofyn iddynt bwyso ar y Llywodraeth i roi grymoedd argyfwng i Awdurdodau Lleol i reoli'r farchnad dai er mwyn
sicrhau cartrefi i bobl leol.

Ar ran y Gymdeithas, dywed Sioned Elin "Allwn ni ddim disgwyl nes etholiad llywodraeth newydd y flwyddyn nesaf, gan fod prisiau tai wedi codi gymaint yn yr ardaloedd gwledig fel bod teuluoedd lleol yn cael eu gorfodi o'r farchnad. Mae angen i'r llywodraeth roi pecyn argyfwng o rymoedd i Awdurdodau Lleol yn awr i reoli'r sefyllfa."

Hefyd yn siarad yn y rali yng Nghaerfyrddin, bydd Cyng Cefin Campbell (deiliad portffolio Materion Gwledig ar Gyngor Sir Caerfyrddin), a'r Cyng Cris Tomos (deiliad portffolio'r Amgyledd a'r Iaith ar Gyngor Sir Penfro). Bydd cyfarfod llawn o Gyngor Sir Caerfyrddin yn trafod cynnig ar y mater yn eu cyfarfod nesaf ar Ragfyr 9ed.

Noder y bydd stiwardiaid Diogelwch Covid gan y Gymdeithas i hwyluso cydymffurfio â phob cam diogelwch a chyfyngir y rali i 20 munud. Bydd Asesiad Risg cyflawn ar gael, a chofnodir cyswllt pawb presennol.

Cysylltwch am ragor o wybodaeth - bethan@cymdeithas.cymru