Mewn trafodaeth yng Nghaerfyrddin wythnos yma, holodd ymgyrchwyr iaith, darlledwyr a phobl leol y pleidiau gwleidyddol - ar drothwy'r etholiad cyffredinol - am eu gweledigaeth ar gyfer ariannu darlledu Cymraeg.
Meddai David Wyn Williams, Is-Gadeirydd Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith, "Mae'n amserol i ni gynnal y drafodaeth am ddyfodol darlledu gan fod newidiadau mawr ar droed, sy'n dod â chyfleoedd i edrych o'r newydd ar y math o ddarlledwyr sydd gennym ni. Wrth i bencadlys S4C symud i Sir Gâr, gobeithio bydd cymunedau'r Sir, sydd yn wynebu argyfwng o ran nifer y siaradwyr Cymraeg, yn gweld budd; ac wrth i'r BBC edrych ar y ffordd mae arian y ffi-drwydded yn cael ei defnyddio mae cyfle i fynd i'r afael â'r ansicrwydd ynghylch annibyniaeth y sianel a'i dyfodol ariannol. Roedd cyfarfod yn gyfle i glywed syniadau Cymdeithas yr Iaith a phobl o fewn y ddiwydiant ddarlledu ac i holi'r pedair prif blaid beth yw eu gweledigaeth nhw am ddyfodol darlledu yng Nghymru."
Cadeiriwyd y drafodaeth gan y newyddiadurwr Dylan Iorwerth, gyda'r ymgeiswyr seneddol Delyth Evans (Llafur), Sara Lloyd Williams (Democratiaid Rhyddfrydol), y Cynghorydd a chynhyrchydd Glynog Davies (Plaid Cymru), yn ogystal â sylwedyddion o undebau, cwmnïau a mudiadau perthnasol.