Cyngor Caerdydd yw'r gorau ymysg cynghorau sir de Cymru yn ei gefnogaeth i'r Gymraeg tra bod Merthyr yw'r gwaethaf, yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yn gynharach eleni, holwyd cyfres o gwestiynau i 12 awdurdod lleol yn ne Cymru ynghylch gweithrediad y cynghorau mewn perthynas â’r Gymraeg megis gwasanaethau Cymraeg, addysg, a sgiliau iaith staff gan aelodau'r Gymdeithas. Casnewydd a Merthyr Tudful a sgoriodd waethaf gan dderbyn marc o 20% yn unig, tra oedd Caerdydd ar y blaen gyda 64%.
Fodd bynnag, nid oedd un o'r cynghorau wedi cyrraedd y safonau a ddisgwylir o dan y Mesur Iaith newydd, yn ôl Marc Phillips cyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a ddadansoddodd yr atebion ar ran Rhanbarth Morgannwg-Gwent y Gymdeithas.
Dywedodd yr arbenigwr iaith Marc Phillips:
“Teg dweud bod yna amrywiaeth sylweddol o awdurdod i awdurdod, ac er bod un yn dangos perfformiad cryfach na’r gweddill mewn sawl agwedd, does dim un yn cynnig perfformiad sydd yn debygol o fodloni’r safonau newydd y disgwylir iddynt gael eu gosod gan y llywodraeth, trwy’r Comisiynydd, maes o law.”
“Roedd 6 o’r cynghorau wedi anfon ymatebion penodol i’r holiadur. Dewisodd y 6 arall peidio ag ateb yn uniongyrchol, ond yn hytrach i anfon copi o adroddiadau monitro eu Cynllun Iaith, fel y’i cyflwynwyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. ... mae ymateb yn y dull yma yn golygu nad yw rhai o gwestiynau’r Gymdeithas wedi cael eu hateb, ac anodd iawn yw sicrhau cymhariaeth deg a chyson rhwng y gwahanol awdurdodau yn yr un modd ag oedd yn bosibl gyda’r 6 arall.”
Yn siarad am yr arolwg a gomisiynwyd gan ranbarth Morgannwg-Gwent Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, dywedodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau'r mudiad bod y canlyniadau yn dangos bod angen gwelliant sylweddol ymysg cynghorau yn gyffredinol:
“Mae angen gwelliant sylweddol ymgysg y cynghorau hyn yn dilyn yr etholiadau. Mae'r arolwg gan ein haelodau yn y De yn amlygu'r gwasanaethau amrywiol iawn a ddarperir gan awdurdodau lleol. Caerdydd yw'r gorau ac ar y trywydd iawn, er bod gyda nhw ffordd bell i fynd eto, tra bod Merthyr yn hollol syflaenol ac yn annerbynniol.
“Mae prosiectau cymunedol nifer o gynghorau yn galonogol – maent yn cydweithio gyda mudiadau eraill ac mae nifer o'r gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc sydd yn beth da – a Chaerdydd yw'r sir sydd yn arwain ar hyn ac a strategaeth glir ar weithredu a sicrhau hyn.
“Yn gyffredinol, mae cynghorau yn cynnig darpariaeth arwynebol ac yn disgwyl fod hynny yn ddigon – mae hyn yn enwedig o ran eu delwedd i'r cyhoedd. Mae'r mwyafrif o gynghorau yn cynnig darpariaeth sylfaenol o ran brandio, ateb ffonau ac yn y blaen ond bach iawn o wasanaethau pellach sydd ar gael. Mae yna fethiannau sylweddol mewn gwasanaethau a ddarperir gan drydydd partion a'u gwasanaethau arlein newydd.
“Wrth edrych i'r dyfodol, mae angen gweld sefyllfa ble mae gwaith mewnol y Cyngor yn digwydd yn gynyddol yn Gymraeg yn hytrach na chyfieithu iddi yn unig. Mae cyfloedd staff i ddysgu Cymraeg yn amrwyio'n fawr ac mae polisi nifer o'r cynghorau wrth recriwtio staff yn wa. Mae'n ymddangos nad yw mewn gwirionedd yn cael ei ystyried ac nad oes strategaeth ar gyfer cynyddu'r niferoedd.”