
Wedi cyhoeddiad bydd clymblaid Plaid Cymru ac Annibynnol yn arwain Cyngor Sir Caerfyrddin mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am gyfarfod gydag Arweinydd newydd y Cyngor.
Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:
"Pan fydd yr Arweinydd newydd wedi ei gadarnhau byddwn ni am gwrdd gydag e er mwyn sicrhau fod bwrw ymlaen i weithredu Strategaeth Iaith y cyngor yn ôl yr amserlen a gytunwyd llynedd, a bod cytundeb trawbleidiol i hynny yn parhau."