Mae awdur adroddiad annibynnol ar S4C, Euryn Ogwen, wedi dweud bod ‘ei galon’ o blaid datganoli darlledu i Gymru gerbron pwyllgor yn y Cynulliad.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Bethan Sayed AC, dywedodd bod ‘fy nghalon i yn dweud, o ie’ y dylid trosglwyddo pwerau darlledu o San Steffan i'r Senedd yng Nghymru.
Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r sylwadau hyn yn dangos bod gan yr ymgyrch fomentwm. Mae fwyfwy o bobl yn gweld bod dadl gref dros drosglwyddo'r pwerau. Mae diffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl Cymru o blaid hynny ac mae 'na gonsensws trawsbleidiol dros ddatganoli rhai cyfrifoldebau. Mae’n bryd datganoli darlledu, nid yn unig er lles y Gymraeg, ond er lles democratiaeth Gymreig yn ehangach.”
“Rydyn ni eisoes wedi dechrau ar waith ymchwil yn ein papur polisi am ddatganoli darlledu i Gymru gyhoeddon ni’r llynedd. Drwy ddod o bwerau i Gymru, fe fydd llawer mwy o arian ar gael ar gyfer darlledu cyhoeddus Cymraeg a Chymreig.”