Mae mudiad iaith wedi cwyno bod banc Monzo yn torri cytundeb grant werth bron miliwn o bunnoedd gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sefydlu swyddfa yng Nghaerdydd drwy beidio â darparu gwasanaethau yn Gymraeg.
Dyfarnodd y Llywodraeth gyllid o £950,000 i fanc Monzo cyn iddo agor ei swyddfa gyntaf tu allan i Lundain yng Nghaerdydd yn gynharach eleni. Ynghlwm â'r buddsoddiad hwnnw roedd yr amod canlynol: "Pan fo'r Dibenion yn cynnwys neu'n ymwneud â darparu gwasanaethau neu ddeunyddiau ysgrifenedig (gan gynnwys arwyddion a gwybodaeth a gyhoeddir ar-lein) yng Nghymru, rhaid iddynt gael eu darparu yn y Gymraeg a'r Saesneg, oni fyddai'n afresymol neu'n anghymesur gwneud hynny."
Mewn llythyr at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno fod y Llywodraeth wedi rhoi miliwn o bunnoedd i fanc sy'n anwybyddu ei ddyletswydd gytundebol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.
Wrth gysylltu ag Eluned Morgan, dywedodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith:
"Mae miliwn o bunnoedd ar gael i fanc nad yw'n ystyried y Gymraeg, ond beth am y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg?
"O dan amodau'r cytundeb cyllido byddai disgwyl i'r Llywodraeth fynnu sicrwydd o flaen llaw y byddai darpariaeth ar gyfer cwsmeriaid Cymraeg, a hynny o'r dechrau. Rhyfeddwn felly nad yw Monzo yn cynnig unrhyw wasanaeth Cymraeg. Mae hyn yn gyfystyr â thor-cytundeb.
"Nid yn unig fod y banc yn methu gwasanaethu cwsmeriaid Cymraeg ac wedi torri cytundeb, ond pe na bai rhywbeth yn cael ei wneud mae'n rhoi'r argraff i gorff nad oes rheidrwydd arnynt i gadw at unrhyw amodau, ieithyddol neu fel arall, mewn cytundeb dyfarnu cyllid, sy'n gosod cynsail peryglus ar gyfer y dyfodol."
Wrth ymateb i lythyr Cymdeithas yr Iaith, dywedodd un o swyddogion Adran yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru:
"Dyfarnwyd y cynnig i Monzo yn seiliedig ar y dibenion canlynol-
'Diben y cyllid yw creu canolfan gweithrediadau cwsmeriaid (y dibenion) newydd mewn lleoliad yn ardal awdurdod lleol Dinas Caerdydd (y safle). Rhaid i chi ddefnyddio'r cyllid at y dibenion hyn yn unig'
"Gallaf gadarnhau bod Monzo yn cydymffurfio â holl amodau'r grant a ddyfarnwyd iddo hyd yma. Fel sydd yn arferol gyda phob cynnig grant, mae Swyddog o Lywodraeth Cymru yn ymweld â'r cwmni yn rheolaidd er mwyn monitro cynnydd a chefnogi'r cwmni i gyflawni'r holl amodau y cytunwyd arnynt."
Ychwanegodd Bethan Williams:
"Mae'n gwbl amlwg nad yw Monzo yn cydymffurfio ag unrhyw amodau iaith - does ganddyn nhw ddim gwasanaeth Cymraeg, ac mae Eluned Morgan yn golchi ei dwylo drwy gyfeirio'n cwyn at adran economi'r Llywodraeth, sydd, yn eu hymateb, yn diystyru amodau iaith cytundeb y Llywodraeth â Monzo."