Bydd dirprwyaeth o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â'r Gweinidog Carl Sargeant wythnos nesaf i drafod y Bil Cynllunio drafft a gafodd ei gyhoeddi heddiw.
Mae’r mudiad wedi mynegi pryder nad oes sôn am y Gymraeg yn y Bil drafft. Bydd y mudiad yn tafod sut mae’r Bil yn ymateb i’r argyfwng a amlygwyd yng nghynaliadau’r Cyfrifiad. Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011 roedd 562,000 (19.01%) o bobl yng Nghymru dros dair oed yn siarad Cymraeg o gymharu â 582,368 (20.76%) yn 2001.
Mae nifer y cymunedau gyda mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi dirywio’n ddifrifol dros yr ugain mlynedd diwethaf, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011.
Wrth ymateb i’r Bil Cynllunio a gafodd ei gyhoeddi heddiw, dywedodd Robin Farrar Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a fydd yn arwain y ddirprwyaeth wythnos nesaf:
"Mae'r system gynllunio yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg ar hyn o bryd, a byddwn ni’n ystyried y cynigion sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Fodd bynnag, mae’n warthus ar ôl yr holl dystiolaeth mae’r Llywodraeth wedi ei derbyn, nad oes sôn am y Gymraeg yn y Bil drafft. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â'r Gweinidog wythnos nesaf i drafod y Bil. Ond byddwn ni’n glir bod angen newidiadau sylweddol i’r system, er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu yn ein cymunedau, yn hytrach na pharhau i grebachu.
“Mae enghreifftiau lu o broblemau’r gyfundrefn tai a chynllunio bresennol - o Fodelwyddan, i Fethesda a Phenybanc. Does dim amheuaeth bod y datblygiadau tai hyn yn anghynaliadwy ac yn cael effaith niwediol ar yr iaith. Mae nifer y cymunedau gyda mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi dirywio’n ddifrifol. Yn wir, un o brif gasgliadau’r Gynhadledd Fawr - ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru a gynhaliwyd yn dilyn canlyniadau trychinebus y Cyfrifiad - oedd bod angen diwygio’r system gynllunio, gan gynnwys rhoi blaenoriaeth i bobl ac anghenion lleol. Nid yw mân newidiadau i’r drefn yn ddigonol - byddwn yn mynnu bod angen bil cynllunio sy’n gadael i’r Gymraeg dyfu.”
Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1af i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i drawsnewid y system gynllunio fel rhan o weithredu mewn chwe maes polisi er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod. Bydd y grŵp pwyso yn cynnal rali yn Aberystwyth ar Ragfyr y 14eg, blwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, er mwyn atgoffa’r Llywodraeth o’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i weithredu.