Bil y Gymraeg – wfftio'r Ombwdsmon

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am Fil y Gymraeg.

Dywedodd Osian Rhys, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw, ond yn galw ar y Gweinidog hefyd i ollwng y cynllun annoeth i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg. I lawer ohonon ni, wedi'r pwyslais cadarnhaol ar gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, fe wnaeth y papur gwyn godi sgwarnogod anffodus sydd mewn peryg o chwalu'r cyfeiriad clir a chadarn yna. Byddai'n llawer gwell i swyddogion ganolbwyntio ar waith arall, gan gynnwys gosod Safonau ar ragor o gyrff a chwmnïau, yn hytrach na gwastraffu amser ar bapur gwyn a fyddai, o'i weithredu, yn troi'r cloc yn ôl i gyfnod Deddf Iaith 1993 wnaeth fethu amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg."