Fe fydd ymgyrchwyr iaith yn trafod sefydlu grwp i oruchwylio gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ar ôl dechreuad 'anweledig' i'r corff yn nhyb y grwp pwyso.Un o addewidion Llywodraeth Cymru blaenorol oedd sefydlu corff annibynnol, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn sicrhau bod disgyblion addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i astudio trwy'r iaith ym mhrifysgol. Fe ddilynodd y datblygiad fethiant sefydliadau presennol i gynyddu eu darpariaeth.Fe ddechreuodd myfyrwyr cyntaf y Coleg Cymraeg ar eu gwaith am y tro cyntaf yr wythnos hon, ond yn ôl cynnig a drafodir yng nghyfarfod cyffredinol y Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Wrecsam (Dydd Sadwrn, 8fed o Hydref), ni fu digon o sylw i'r digwyddiad hanesyddol. Mae'r ymgyrchwyr hefyd yn nodi gyda chryn bryder fod rhethreg y Coleg yn son am 'ehangu cyfleon' yn hytrach nag yn cyffroi darpar-fyfyrwyr i fod yn rhan o fentr newydd hanesyddol.Yn ôl Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ar ôl degawdau o ymgyrchu dros sefydlu coleg o'r fath ni ddylid colli'r cyfle'n awr:"Mae dechreuad y Coleg wedi bod yn ddi-fflach, fe ddechreuodd myfyrwyr cyntaf y Coleg yn swyddogol ychydig ddiwrnodau yn ôl, ond ni sylwodd neb. Nid yw hynny yn dderbyniol, gan ystyried yr holl ymgyrchu a fu dros sefydlu coleg o'r fath."Mae 'na sôn am greu rhagor o gyfleoedd, ond dyna'r hen rethreg. Dyna yn union pam rydyn ni'n pryderu nad yw'r "coleg" hwn ond yn ymestyniad o'r drefn bresennol. Trefn sydd o dan reolaeth y sefydliadau addysgol presennol - yn lle bod yn gychwyn cyffrous newydd i addysg uwch Gymraeg."Yn wyneb hyn, mae ymgyrchwyr yn mynd i drafod sefydlu Bwrdd Cyfarwyddwyr Cysgodol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda'r gorchwylion o fwrw golwg dros weithgarwch y Coleg, cynnig cynlluniau ar gyfer datblygiad y Coleg a gweithredu fel Ombwdsman i fyfyrwyr - neu ddarpar-fyfyrwyr - sy'n profi anawsterau yn eu hymwneud a'r Coleg.Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Edrychaf ymlaen at glywed nifer o siaradwyr yn rhannu eu safbwyntiau am hyn. Mae'r Coleg Cymraeg yn rhywbeth rydyn ni fel mudiad wedi gwthio amdano fe am ddegawdau. Yn amlwg, mae aelodau'r grwp addysg yn nodi nifer o bethau maen nhw'n teimlo sydd yn mynd o'i le gyda'r Coleg. Fe fydd gan unrhyw un sydd yn ymaelodi â'r Gymdeithas cyn ein cyfarfod cyffredinol ar 8fed Hydref yn Wrecsam gyfle i gymryd rhan yn y drafodaeth."
Y Cynnig:CYFARWYDDWYR ANNIBYNNOL I'R COLEG CENEDLAETHOL CYMRAEGMae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu dyfodiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a dderbyniodd fyfyrwyr am y tro cyntaf y tymor hwn. Mynegwn ein pryder, fodd bynnag, fod perygl na chyflawnir gwir botensial y datblygiad hanesyddol hwn. Pryderwn fod dyfodiad y Coleg yn ymddangos yn ymestyniad o'r hen drefn yn hytrach nag yn gyfle mawr newydd i roi hwb i addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.Noda'r Cyfarfod Cyffredinol -(1) Fod gwefan y Coleg ar ddechrau Medi'n cynnwys 3 brawddeg gyffredinol iawn am "ehangu cyfleon" ac am adeiladu ar waith y gorffennol yn hytrach nag yn cyffroi darpar-fyfyrwyr o ran y gallu i fod yn rhan o fentr newydd hanesyddol.(2) Nad oes unrhyw weledigaeth glir na strategaeth mewn lle wrth fod y Coleg yn cychwyn ar ei waith - dim ond bwriad i ddatblygu strategaeth.(3) Na bu unrhyw drafodaeth na sylw sylweddol i agoriad y Coleg.(4) Nad yw'r cyfarwyddwyr "annibynnol" yn annibynnol o gwbl gan eu bod wedi cael eu penodi gan y sefydliad ei hun ac i gyd - ag un eithriad sydd ag arbenigedd ariannol - yn gweithio tu fewn i'r drefn addysg bresennol.(5) Nad yw cofnodion y Cyfarfod Cyfarwyddwyr wedi ymddangos yn gyhoeddus fisoedd wedyn.(6) Nad yw nifer o'r staff wedi cael u penodi tan fis cyn agoriad y coleg.Cred y Cyfarfod Cyffredinol fod hyn oll yn cadarnhau'r canfyddiad nad yw'r 'coleg' hwn ond yn ymestyniad o'r drefn bresennol - tan reolaeth y sefydliadau addysgol presennol - yn lle bod yn gychwyn cyffrous newydd iaddysg uwch Gymraeg. Nodwn y bu degawdau o ymgyrchu dros sefydlu coleg o'r fath ac ni ddylid colli'r cyfle'n awr.Yn wyneb hyn, mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn gofyn i senedd y Gymdeithas sefydlu Bwrdd Cyfarwyddwyr Cysgodol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda'r gorchwylion o -(a) Bwrw golwg cadarnhaol o feirniadol ar weithgarwch y Coleg(b) Cynnig cynlluniau ar gyfer datblygiad y Coleg.(c) Gweithredu fel Ombwdsman i fyfyrwyr - neu ddarpar-fyfyrwyr - sy'n profi anawsterau yn eu hymwneud a'r Coleg.